Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Talu am wasanaethau’r cyngor

Fel gofalwr, efallai y bydd rhaid i chi dalu am rai o'r gwasanaethau a dderbyniwch. Ni chodir tâl arnoch am y gwasanaethau a ddarperir i'r sawl y byddwch yn gofalu amdano.

Asesu eich anghenion

Nid yw swm y cymorth y gallech ei gael er mwyn eich helpu yn eich rôl fel gofalwr yn dibynnu ar y swm y gallwch chi ei fforddio.

Edrychir ar eich anghenion mewn asesiad anghenion ac yna bydd gwasanaethau cymdeithasol yn gweld faint y gallwch chi ei fforddio o edrych ar asesiad ariannol. Fel arfer, bydd hyn yn gael ei wneud ar yr un pryd â'r asesiad anghenion, neu'n fuan wedi hynny.

Gallwch ddewis peidio â chael asesiad ariannol ond golyga hynny y byddai'n rhaid i chi dalu'n llawn am y gwasanaethau y byddwch yn derbyn.

Asesiad ariannol

Bydd eich cyngor lleol yn gwneud asesiad ariannol i ganfod faint allwch chi fforddio ei dalu tuag at ffioedd gofal yn y gymuned. Bydd hyn yn seiliedig ar eich incwm a'ch cyfalaf. Eich incwm yw'r holl arian yr ydych yn ei dderbyn bob wythnos. Dyma enghreifftiau o incwm:

  • llog ar gynilion
  • pensiwn preifat
  • pensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau, a allai gynnwys Lwfans Gofalwyr yn unol â phenderfyniad y cyngor
  • cyflog os ydych yn gweithio

Gall eich cyfalaf gynnwys tir ac adeiladau - ac eithrio gwerth y cartref lle'r ydych yn byw - a chynilion.

Dylech hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt oherwydd mae'n debygol y bydd eich cyfraniad yn cael ei benderfynu ar y sail eich bod yn eu cael.

Am ragor o wybodaeth siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol sy'n gweithio gyda chi neu gyda'r person a gynhaliodd yr asesiad.

Am ba bethau y gallech orfod talu amdanynt

Mae nifer o wasanaethau y gallech orfod talu amdanynt, gan gynnwys:

  • cymorth cartref
  • gwasanaethau gwarchod
  • prydau bwyd

Beth fyddwch yn eu cael heb orfod talu amdanynt

All neb ofyn i chi dalu am y canlynol:

  • cymorth a chyngor, er enghraifft, llenwi ffurflenni
  • cyngor a chyfarpar gan therapyddion galwedigaethol y cyngor
  • trafnidiaeth er mwyn mynd i ganolfannau dydd

Polisi codi tâl tecach

Mae'r pethau y codir tâl arnoch amdanynt neu'r pethau a gewch yn ddi-dâl wedi eu seilio ar ‘bolisi codi tâl tecach’ y llywodraeth. Golyga hyn na ellir codi tâl arnoch am wasanaethau os byddai hynny'n eich gadael gyda llai na'r lefelau sylfaenol o Gymhorthdal Incwm neu Gredyd Gwarant y Credyd Pensiwn, yn ogystal â 25 y cant.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'ch gweithiwr cymdeithasol, eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Mae’r Adran Iechyd yn cyhoeddi dogfen ynghylch polisi codi tâl tecach ar ei wefan. Anelir at gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol, ond mae’n bosib y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol.

Sut i dalu am wasanaethau

Bydd y rhan fwyaf o adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn caniatáu i chi dalu bob mis gyda debyd uniongyrchol. Defnyddir hyn pan fydd yr un maint o ofal yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd. Os bydd eich amgylchiadau neu'ch anghenion yn newid, cysylltwch â'ch gwasanaethau cymdeithasol ac fe fyddant yn addasu'r cyfanswm y byddwch yn ei dalu.

Mae gan rai adrannau gwasanaethau cymdeithasol gynllun 'talu wrth ddefnyddio'. Mae hyn yn gweithio orau pan fydd eich anghenion yn newid o fis i fis. Mae hyn yn defnyddio cerdyn y gallwch ‘godi tâl’ (rhoi arian arno) yn swyddfa'r post. Byddwch yn cael y cerdyn a llyfryn yn dangos sut i'w ddefnyddio.

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU