Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Canllaw cymorth ariannol ar gyfer gofalwyr

Mae yna ddewis o fudd-daliadau, credydau treth a chymorth ariannol arall y gallech eu derbyn fel gofalwr. Mae hwn yn ganllaw cyffredinol.

Lwfans Gofalwr

Efallai y gallech hawlio Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun.

Taliadau uniongyrchol ar gyfer gofalwyr

Os ydy'ch cyngor lleol wedi'ch asesu ac yn dweud bod angen gwasanaethau cymorth arnoch er mwyn eich helpu i ofalu am rywun, gallwch ddewis taliadau uniongyrchol. Gyda'r rhain, cewch brynu a threfnu eich cymorth eich hun yn hytrach na'i dderbyn yn uniongyrchol gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Gofalu a'ch pensiwn

Os nad ydych chi’n gweithio neu’n ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun, mae’n bosib y byddwch yn gallu cronni hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Fel gofalwr y mae’n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn ychwanegol.

Credydau Gofalwr

O 6 Ebrill 2010, bydd Credyd Gofalwr newydd yn cael ei gyflwyno. Mae’n gredyd Yswiriant Gwladol a bydd yn galluogi gofalwyr i gronni blynyddoedd cymwys ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Cymhorthdal Incwm

Os ydych chi’n hawlio Cymhorthdal Incwm ac y mae gennych hawl i Lwfans Gofalwr, efallai y gallech gael swm ychwanegol yn eich Cymhorthdal Incwm. Gelwir hwn yn 'bremiwm gofalwr'.

Grantiau Gofal yn y Gymuned

Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau neu daliadau penodol ac y mae angen cymorth ariannol arnoch chi i liniaru pwysau eithriadol ar eich teulu, efallai y gallech gael Grant Gofal yn y Gymuned. Mae'n bosib y byddwch yn gymwys os ydych yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl.

Gofalu am blentyn anabl

Credyd Treth Plant

Lwfans prawf modd ar gyfer rhieni a gofalwyr plant neu bobl ifanc sy'n dal mewn addysg amser llawn ydy'r Credyd Treth Plant. Efallai y cewch swm ychwanegol os ydych yn gofalu am blentyn anabl.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Dyma un taliad i helpu tuag at gostau babi newydd os ydych ar incwm isel ac yn derbyn mathau penodol o gymorth ariannol gan gynnwys Cymhorthdal Incwm a Chredyd Treth Plant gyda swm ychwanegol ar gyfer plentyn anabl.

Cynhaliaeth Plant

Os ydych chi'n rhiant unigol, efallai y gallech hawlio Cynhaliaeth Plant gan riant arall eich plentyn drwy'r Asiantaeth Cynnal Plant. Efallai y cewch swm ychwanegol os oes gennych chi gostau ychwanegol am fod eich plentyn yn anabl.

Premiwm Plentyn Anabl

Os ydych yn gyfrifol am blentyn o dan 19 oed, neu mewn amgylchiadau penodol o dan 20 oed, cewch y premiwm hwn os:

  • yw'r dibynnydd yn cael Lwfans Byw i'r Anabl
  • yw'r dibynnydd wedi'i gofrestru'n ddall

Premiwm Anabledd Uwch (cyfradd plant)

Os yw'r dibynnydd yn cael cyfradd uchaf elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl, efallai y gallwch gael y premiwm plentyn anabl.

Ni chewch unrhyw un o'r ddau bremiwm os oes gan y plentyn dibynnol gyfalaf o fwy na £3,000.

Cartrefi a thai

Budd-dal Tai

Os ydych ar incwm isel a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich rhent, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu hawlio Budd-dal Tai. Efallai y cewch arian ychwanegol os ydych chi'n gofalu am blentyn neu oedolyn anabl.

Cymorth gyda Threth Cyngor

Os ydych ar incwm isel a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich Treth Gyngor, efallai y gallech chi gael Budd-dal Treth Gyngor. Efallai y cewch arian ychwanegol os ydych chi'n gofalu am blentyn neu oedolyn anabl.

Os byddwch chi'n darparu o leiaf 35 awr o ofal yr wythnos i rywun yn eich cartref, efallai y gallech chi gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor. Ni chaiff y person y byddwch yn gofalu amdano fod yn briod, yn bartner nac yn blentyn i chi. Gellir gwneud y gostyngiad hwn ar ben y budd-dal Treth Gyngor. Ceir hefyd gostyngiad arall ar y Dreth Gyngor i bobl anabl.

Cerbydau a chludiant

Y Cynllun Motability

Mae'r Cynllun Motability yn helpu pobl anabl i brynu neu brydlesu car am bris fforddiadwy. Os ydych chi'n gofalu am rywun anabl ac nad ydynt yn gyrru, byddant yn dal i allu gwneud cais i brynu neu brydlesu car trwy'r Cynllun Motability gyda chi fel eu gyrrwr.

Gallwch hefyd wneud cais am gar ar ran plentyn tair oed neu hŷn sydd â'r hawl i gael elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl.

Y cynllun parcio Bathodyn Glas

Mae'r cynllun parcio Bathodyn Glas yn darparu amrywiaeth o fuddiannau parcio i bobl anabl. Os ydych chi'n gofalu am rywun anabl ac nad ydynt yn gyrru, gallant eich enwi chi fel eu gyrrwr er mwyn i chi allu defnyddio'u Bathodyn Glas wrth eu gyrru nhw o gwmpas.

Cerdyn Trên i Bobl Anabl

Os ydych chi'n gofalu am oedolyn sydd â Cherdyn Trên i Bobl Anabl, gallwch chithau dderbyn yr un gostyngiad â nhw pan fyddwch yn teithio gyda nhw.

Os oes gennych blentyn anabl sydd â Cherdyn Trên i Bobl Anabl, byddan nhw'n teithio am gost safonol plant, ond byddwch chi'n derbyn gostyngiad o draean oddi ar gost safonol oedolion pan fyddwch yn teithio gyda nhw.

Mynd allan am dro gyda rhywun anabl

Ymweld â mannau diddorol

Mae llawer o fannau diddorol, gan gynnwys amgueddfeydd, lleoliadau chwaraeon, eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a mannau English Heritage yn cynnig gostyngiad neu docyn am ddim i gydymaith person anabl.

Cerdyn Cymdeithas yr Arddangoswyr Sinema

Cerdyn cenedlaethol ar gyfer pobl anabl yw Cerdyn Cymdeithas yr Arddangoswyr Sinema. Mae’n cynnig un tocyn am ddim i'r deilydd ar gyfer rhywun sy'n dod gyda nhw i'r sinema. Mae'r cerdyn yn ddilys am dair blynedd.

Cymorth ariannol i'r sawl yr ydych yn gofalu amdano/i

Cael gwybod am y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y Lwfans Byw i’r Anabl a thaliadau uniongyrchol, yn adran 'pobl anabl' Cross & Stitch.

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU