Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Cerdyn Trên i Bobl Anabl

Gyda'r Cerdyn Trên i Bobl Anabl gallwch gael tocyn trên am hyd at un rhan o dair yn rhatach. Gallwch gael cerdyn blwyddyn neu dair blynedd. Os oes oedolyn arall yn teithio gyda chi, gallant hwythau hefyd deithio am yr un pris.

Pwy sy’n gymwys

I fod yn gymwys, rhaid i chi fodloni o leiaf un o'r meini prawf a restrir isod. Mae'r ffurflen gais yn rhestru'r prawf y bydd ei angen arnoch i gadarnhau eich bod yn gymwys i gael y Cerdyn Trên.

Rydych yn gymwys:

  • os ydych wedi’ch cofrestru’n rhannol ddall
  • os ydych wedi'ch cofrestru'n fyddar neu’n defnyddio teclyn clywed
  • os oes gennych epilepsi, ac yn cael ymosodiadau'n gyson er eich bod yn cael cyffuriau
  • os oes gennych epilepsi, ac os ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru oherwydd eich epilepsi
  • os ydych yn cael Lwfans Gweini
  • os ydych yn cael y Lwfans Anabledd Difrifol
  • os ydych yn cael elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl am flwyddyn neu fwy
  • os ydych yn cael cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl
  • os ydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • os ydych yn cael Pensiwn Anabledd Rhyfel neu Wasanaeth am anabledd o 80 y cant neu fwy
  • os ydych yn prynu neu'n prydlesu cerbyd drwy'r cynllun Motability

Plant a phobl ifanc

Gall plant o 5 i 16 hefyd fod yn gymwys i gael Cerdyn Trên i Bobl Anabl. Er mai ond pris tocyn trên plant arferol y bydd yn rhaid i'r plentyn ei dalu, gall oedolyn deithio gyda'r plentyn am y pris llai sydd un rhan o dair yn rhatach na phris tocyn oedolyn.

Prynu Cerdyn Trên

I brynu Cerdyn Trên, rhaid i chi lenwi ffurflen gais a'i hanfon gyda chopi o brawf o hawl a'r ffi.

Gallwch lwytho ffurflen gais oddi ar wefan y Cerdyn Trên i Bobl Anabl neu ffonio'r llinell gymorth a gofyn iddynt anfon copi atoch.

Llinellau cymorth y Cerdyn Trên i Bobl Anabl:

Ffôn: 0845 6050 525
Ffôn testun: 0845 6010 132

Allweddumynediad llywodraeth y DU