Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cludiant cymunedol a chynlluniau Shopmobility

Mae gwasanaethau cludiant cymunedol ar gael mewn rhai ardaloedd ar gyfer pobl sy'n cael anhawster wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae cynlluniau Shopmobility ar waith drwy'r wlad.

Gwasanaethau cludiant cymunedol

Darperir gwasanaethau cludiant cymunedol gan gynghorau lleol. Gall y gwasanaethau a all fod ar gael gynnwys cludiant o ddrws i ddrws a gwasanaethau sy'n cynnig teithiau i ganolfannau siopa. Mae'r gwasanaethau hyn yn amrywio o ardal i ardal ac yn aml mae llai o wasanaethau ar gael mewn ardaloedd gwledig.

Mae gwefan a2b info yn rhestru gwasnaethau cludiant cymunedol yn Lloegr. Mae yno gronfa ddata i chwilio.

Bydd y ddolen isod yn mynd â chi at dudalen ble gallwch roi manylion lle'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich cyngor lleol, ble gallwch gael mwy o wybodaeth am gynlluniau cludiant cymunedol yn eich ardal.

Cynlluniau tacsi

Mae'n bosib bod gan eich cyngor lleol gynlluniau tacsi ar waith, efallai drwy ddefnyddio talebau neu docynnau.

Os ydych yn gymwys ar gyfer cynllun o'r fath, byddwch yn cael cerdyn neu nifer o dalebau. Gellir cyfnewid y rhain gyda rhai cwmnïau tacsi, yn hytrach na defnyddio arian. Bydd y cyngor lleol wedyn yn talu'r cwmni tacsi.

Tacsis Llundain - 'tacsis du'

Gall cwsmeriaid anabl gael mynediad i bob un o Dacsis Llundain. Gallwch archebu tacsi dros y ffôn drwy ddefnyddio'r gwasanaeth 'Un Rhif'.

Y rhif ffôn ar gyfer archebu tacsi yw: 0871 871 8710

Galw'r Gyrrwr

Mae gwasanaeth Galw'r Gyrrwr yn debyg i wasanaeth tacsis o ran y gellir archebu car i fynd â chi o ddrws i ddrws. Maent yn hwylus ar gyfer cadeiriau olwyn ac at ei gilydd yn addas ar gyfer unrhyw un sy'n cael trafferthion gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid archebu'r gwasanaeth ymlaen llaw.

Mae'r prisiau, pwy sy'n gymwys a'r mathau o deithiau y gallwch eu gwneud yn amrywio o le i le.

Shopmobility

Mae cynlluniau Shopmobility yn llogi neu'n rhoi benthyg cadeiriau olwyn i'w gwthio â llaw, cadeiriau olwyn â phŵer a sgwteri â phŵer i unrhyw un sydd angen cymorth i fynd o le i le. Fel arfer, bydd canolfannau Shopmobility wedi'u lleoli yng nghanol tref neu ganolfan siopa, er mwyn galluogi pobl i fynd i siopa ac ymweld â chyfleusterau hamdden a masnachol.

Mae pob cynllun yn gweithredu'n annibynnol, ond gallwch gysylltu â Ffederasiwn Cenedlaethol Shopmobility i weld a oes cynllun yn eich ardal chi. Gan fod pob cynllun yn wahanol, mae'n bwysig i chi gysylltu â'r ganolfan yr ydych am ymweld â hi cyn mynd. Er enghraifft, mewn rhai canolfannau bydd angen i chi archebu ymlaen llaw.

Weithiau, codir tâl am ddefnyddio'r gwasanaeth, er y bydd rhai canolfannau'n ei ddarparu am ddim.

Rhif Ffôn: 0845 644 2446

Allweddumynediad llywodraeth y DU