Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall mynd ar fysiau moethus fod yn broblem i bobl a chanddynt namau symudedd, ond mae'r sefyllfa'n gwella.
Efallai na fydd bysiau moethus a ddefnyddir ar wasanaethau rheolaidd yn hwylus i bawb, yn enwedig defnyddwyr cadair olwyn, gan fod sawl gris serth ar i fyny o ddrws y bws yn aml.
Fodd bynnag, o dan y Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000, mae'n rhaid i bob bws moethus newydd fod yn hwylus i gadair olwyn, felly mae fflyd bysiau moethus Prydain yn dod yn fwy hwylus wrth i'r bysiau newydd ddod i gymryd lle'r hen stoc. Erbyn 2020, bydd rhaid i'r holl fysiau a bysiau moethus fod yn gwbl addas ar gyfer pobl anabl.
Mae rhai o'r prif gwmnïau bysiau moethus yn cynnig tocynnau teithio rhad i bobl anabl neu yn caniatáu iddynt deithio am ddim dan cynllun y llywodraeth ar gyfer cynnig tocynnau teithio rhad hanner y pris ar wasanaethau bws moethus a drefnir. Efallai y bydd gofyn i chi ddangos eich tocyn bws awdurdod lleol i brofi'ch anabledd.
Mae nawr yn ofynnol dan y gyfraith i yrwyr bysiau moethus ddarparu cymorth rhesymol i bobl anabl, yn enwedig wrth eu helpu i fynd ar ac oddi ar y bws. Nid yw hyn yn cynnwys codi teithwyr neu gyfarpar symudedd trwm. Os ydych angen cymorth i fynd ar ac oddi ar y bws, dylech ofyn am hyn wrth archebu'ch ticed.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr wrth archebu'r ticed y gellir cario eich cadair olwyn neu'ch sgwter trydan ar y bws. Dim ond yn y man cadw bagiau y mae rhai cwmnïau bysiau moethus yn caniatáu cadw cadeiriau olwyn sy'n plygu; efallai y bydd eraill yn caniatáu cadeiriau olwyn â phŵer a sgwteri gyda batris cell sych os gellir eu datgymalu cyn teithio.
Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch yn yr orsaf bysiau moethus, cysylltwch â'r orsaf neu gyda'r cwmni bysiau moethus cyn i chi deithio i roi gwybod iddynt pa gymorth y bydd ei angen arnoch.
Mae dolenni sain wedi'u gosod ar lawer o ffenestri'r swyddfeydd tocynnau i helpu pobl gyda theclyn clywed. Mae'r ffenestri hyn wedi'u nodi'n glir. Mae dyfeisiau wedi'u gosod ar ffonau hefyd mewn sawl gorsaf i helpu pobl gyda theclyn clywed.
Cewch fynd â chŵn cymorth a chynorthwyo i mewn i fwytai a chaffis mewn gorsafoedd ac ar fysiau moethus.
Mae toiledau hygyrch mewn nifer o orsafoedd bysiau moethus. Mae rhai yn rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol, sy'n galluogi pobl anabl i ddefnyddio toiledau cyhoeddus hwylus yn annibynnol drwy ddefnyddio allwedd bersonol. Gallwch brynu allwedd y Cynllun Allwedd Cenedlaethol gan RADAR.
Mae toiledau ar rai bysiau moethus. Os na allwch fynd i'r toiled ar daith bell ar fws moethus (er enghraifft, oherwydd ei fod i lawr grisiau), dylai'r gyrrwr aros mewn gorsafoedd bws ar hyd y daith fel y gallwch ddefnyddio'r toiledau.