Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Teithio ar drên

Gellir gwneud trefniadau arbennig ar gyfer teithwyr anabl neu deithwyr ag anawsterau symud wrth iddynt deithio ar drên neu ar fws moethus. Er enghraifft, gall National Rail fel arfer helpu teithwyr i fynd ar drên ac oddi arno.

National Rail

Mae National Rail angen gwybod o flaen llaw os ydych angen unrhyw gymorth gan y staff - a gorau oll os rhoddir 24 awr o rybudd o leiaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig os byddwch chi’n fynd ar ac oddi ar drên yn orsaf di-griw.

Ni all staff godi teithwyr anabl nac eitemau trwm megis sgwteri trydan. Wrth archebu eich siwrnai, rhowch gymaint o fanylion â phosibl iddynt am eich anghenion. Ar gyfer gwasanaethau sy'n cynnig cadw seddi, gall y person cyswllt lleol gadw sedd neu le ar gyfer cadair olwyn i chi yn ddi-dâl.

Gwasanaethau Intercity

Gellir mynd â chadair olwyn ar holl wasanaethau trên Intercity. Gellir mynd ar y trên gyda ramp sy'n cael ei gadw yn yr orsaf. Mae cabanau cysgu sy'n derbyn cadeiriau olwyn ar gael ar drenau dros nos rhwng Llundain a'r Alban ond nid ar y rhai rhwng Llundain a Gorllewin Lloegr.

Gwasanaethau lleol a rhanbarthol

Gall y rhan fwyaf o drenau dderbyn defnyddwyr cadair olwyn ac mae gan drenau newydd gyfleusterau i helpu pobl â nam synhwyraidd hefyd, er enghraifft, systemau gwybodaeth gyhoeddus sy'n weledol ac yn glywadwy.

I drefnu taith trên yn y DU, cysylltwch â llinell ymholiadau National Rail.

Rhif ffôn: 0845 7484 950

Ffôn testun: 0845 6050 600

Teithio i Ewrop ar drên

Gall defnyddwyr cadair olwyn ddefnyddio gwasanaethau o St Pancras International yn Llundain ac Ashford, swydd Caint. Mae lle i ddwy gadair olwyn ar ddau o gerbydau dosbarth cyntaf pob trên. Mae defnyddwyr cadair olwyn yn talu'r pris isaf sydd ar gael am docyn trên ail ddosbarth. Gall cydymaith deithio gyda chi hefyd am bris arbennig.

Rhif ffôn: 08705 186 186

e-bost: sales.enquiries@eurostar.co.uk

Gwasanaeth Tanddaearol Llundain

Ceir gwybodaeth am fynediad i orsafoedd ar wefan Transport for London.

Cyfleusterau trên a gorsaf

Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch yn yr orsaf drên neu'r orsaf bws, cysylltwch â'r orsaf neu gyda'r cwmni trên neu'r cwmni bysiau cyn i chi deithio a rhoi gwybod iddynt pa gymorth fyddwch ei angen.

Mae dolenni sain wedi'u gosod ar lawer o ffenestri'r swyddfeydd tocynnau i helpu pobl gyda theclyn clywed. Mae'r ffenestri hyn wedi'u nodi'n glir. Mae dyfeisiau wedi'u gosod ar ffonau hefyd mewn sawl gorsaf i helpu pobl gyda theclyn clywed.

Mae gan lawer o'r prif orsafoedd rheilffordd a bysys doiledau hwylus i bawb. Mae rhai yn rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol, sy'n galluogi pobl anabl i ddefnyddio toiledau cyhoeddus hwylus yn annibynnol drwy ddefnyddio allwedd bersonol. Gallwch brynu allwedd y Cynllun Allwedd Cenedlaethol gan RADAR.

Gallwch fynd â chŵn cymorth i mewn i fwytai a chaffis mewn gorsafoedd ac ar drenau a bysiau.

Mae gan nifer cynyddol o drenau doiledau sy'n hwylus ar gyfer cadair olwyn. Mae gwybodaeth ar gael am y cyfleusterau ar unrhyw drên wrth archebu'ch ticed.

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, mae'n rhaid i staff trenau wneud 'addasiadau rhesymol' i ddarparu ar gyfer teithwyr anabl. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, caniatáu i chi deithio mewn cerbyd dosbarth cyntaf gyda thiced ail ddosbarth os nad yw'r toiled hwylus yn yr ail ddosbarth yn gweithio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU