Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gostyngiad yn y Dreth Cyngor i ofalwyr

Bydd eich cyngor lleol yn casglu'r Dreth Cyngor er mwyn talu am wasanaethau megis plismona, parciau a goleuadau stryd. Efallai y bydd gennych yr hawl i gael gostyngiad yn eich Treth Cyngor os byddwch yn gofalu am berson anabl.

Os ydych chi a'r person y byddwch yn ei warchod yn byw yn yr un tŷ

Efallai y bydd gennych yr hawl i gael gostyngiad yn eich Treth Cyngor os ydych chi'n ofalwr ac:

  • yn byw yn yr un tŷ â'r person y byddwch yn gofalu amdano
  • yn darparu gofal am o leiaf 35 awr bob wythnos

Hefyd, bydd raid i'r person y byddwch yn gofalu amdano gael un o'r canlynol:

  • y gyfradd uwch o elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl
  • cyfradd uwch o Lwfans gweini
  • Pensiwn Analluogi cynyddol
  • Lwfans Gweini Cyson cynyddol

Ni chaiff y person y byddwch yn gofalu amdano fod yn briod, yn bartner nac yn blentyn o dan 18 mlwydd oed i chi.

Os byddwch yn gadael eich tŷ eich hun er mwyn gofalu am rywun

Os byddwch yn symud i fyw gyda'r person yr ydych yn gofalu amdano efallai y cewch eich eithrio rhag talu'r Dreth Cyngor. Ysgrifennwch at eich cyngor a dweud wrthynt:

  • ar ba ddyddiad y gadawsoch eich tŷ ac nad oes neb yn byw ynddo bellach
  • eich bod yn gofalu am rywun
  • eich cyfeiriad newydd (darparwch rywbeth i brofi hyn, fel bil) ac enw'r person y byddwch yn gofalu amdano
  • y lefel a'r math o ofal y byddwch yn ei ddarparu
  • a ydych yn bwriadu dychwelyd yno

Mae'n bosib y bydd y cyngor hefyd yn anfon ffurflen i chi ei llenwi.

Sut i gyfrifo gostyngiadau yn y Dreth Gyngor

Gwnewch restr o'r holl bobl sy'n byw yn eich cartref.

Yna dilëwch y canlynol:

  • plant, gan gynnwys rhai sydd dros 18 ond mewn addysg llawn amser
  • unrhyw un sy'n anabl, gall hyn gynnwys rhywun â nam meddyliol difrifol – er enghraifft, rhywun gyda salwch parhaol sy'n effeithio ar ddeallusrwydd neu allu cymdeithasol
  • unrhyw un sy'n darparu 35 awr neu fwy o ofal bob wythnos. Ystyrir mai'r person hwn yw'r gofalwr ond un person yn unig all wneud hawliad fel gofalwr

Er enghraifft:

  • gwraig, gweithio'n llawn amser, dim anableddau
  • mab, 12 oed, dim anableddau
  • mam yng nghyfraith, dementia
  • fi, gofalwr y fam yng nghyfraith

Unwaith y byddwch wedi dileu:

  • eich mab (dan 18 oed)
  • eich mam yng nghyfraith (dementia)
  • chi (fel y gofalwr)

mae hyn yn gadael y wraig fel yr unig berson yn y tŷ nad yw wedi cael ei dileu oddi ar y rhestr. Gan mai dim ond un person sydd ar ôl ar y rhestr, golyga hyn y gallech gael gostyngiad o 25 y cant.

Os nad oes neb ar ôl ar eich rhestr, er enghraifft yr unig bobl sy'n byw yn y tŷ yw:

  • chi (fel y gofalwr)
  • eich mam yng nghyfraith (sydd â dementia)

Gallech gael gostyngiad o 50 y cant.

Canllaw yn unig ydy'r manylion uchod ac efallai bydd angen bodloni amodau perthnasol i fod yn gymwys i gael y gostyngiad.

Am fwy o wybodaeth neu am ffurflen gostyngiad y Dreth Cyngor, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Gostyngiad Treth Cyngor i bobl anabl

Gallwch hefyd fod ag hawl i ostyngiad ar wahan yn eich Treth Cyngor os ydych yn anabl neu â pherson anabl yn byw gyda chi.

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU