Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Cynllun Bathodyn Glas

Mae'r cynllun Bathodyn Glas yn galluogi'r rheini sy'n gyrru teithwyr â phroblemau symudedd difrifol i barcio'n agos i ble y mae angen iddynt fynd. Mynnwch wybod ble y gallwch ddefnyddio eich bathodyn, sut i'w arddangos a sut i'w ddefnyddio dramor.

Y Cynllun

Gallwch bellach wneud cais ar-lein am Fathodyn Glas os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban

Gallwch lawrlwytho taflenni am ddim yma - maent yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio ac arddangos Bathodyn Glas yn gywir yng Nghymru a Lloegr.

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas gan ddefnyddio'r ddolen isod os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Gallwch newid eich manylion personol neu roi gwybod am fathodyn sydd ar goll neu sydd wedi ei ddwyn hefyd

Defnyddio Bathodyn Glas

Dod o hyd i fannau parcio Bathodyn Glas

Gallwch holi eich awdurdod lleol am fannau parcio Bathodyn Glas yn eich ardal.

Yng Nghymru a Lloegr, gall deiliaid Bathodyn Glas fel arfer barcio:

  • ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr, oni bai bod gwaharddiad rhag llwytho neu ddadlwytho
  • wrth ymyl mesuryddion parcio 'ar y stryd' a pheiriannau talu ac arddangos am ddim am gyhyd â bod angen
  • mewn cilfachau parcio i'r anabl

Nid oes map parcio y Bathodyn Glas ar gyfer y DU ar hyn o bryd ond gallwch gael gwybodaeth am fannau parcio gan eich awdurdod lleol. Gweler y ddolen ganlynol i ddod o hyd i gilfachau parcio i'r anabl.

Mae'r holl wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr oni nodir yn wahanol. Mae manylion y cynllun yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon - gweler y wefan berthnasol am ragor o wybodaeth.

Arddangos y Bathodyn Glas

Dylech arddangos y Bathodyn Glas fel ei bod yn hawdd ei weld drwy ffenestr flaen eich cerbyd. Dylai wyneb y bathodyn wynebu i fyny, gan ddangos symbol y gadair olwyn neu'r hologram yng nghynllun y bathodyn newydd.

Pan gewch eich bathodyn, dylech gael cloc parcio hefyd. Pan fyddwch yn parcio ar linellau melyn, neu mewn lle â chyfyngiadau o ran amser parcio, dylai'r cloc:

  • ddangos y cyfnod chwarter awr y gwnaethoch gyrraedd
  • cael ei arddangos wrth ymyl y bathodyn

Pan na fyddwch yn defnyddio consesiynau parcio, ni ddylech arddangos y Bathodyn Glas.

Dangos Bathodyn Glas i'w archwilio

Ymhlith y swyddogion gorfodi y caniateir iddynt archwilio Bathodynnau Glas mae:

  • swyddogion yr heddlu
  • wardeiniaid traffig
  • staff meysydd parcio y cyngor lleol
  • swyddogion gorfodi sifil

Dylent ddangos cerdyn adnabod gyda'u llun arno i brofi eu bod yn dweud y gwir o ran pwy ydynt.

Os bydd swyddog gorfodi yn gofyn am gael gweld eich Bathodyn Glas, rhaid i chi ei ddangos iddo. Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwch yn torri'r gyfraith a gallech gael dirwy o hyd at £1,000.

Ni chaniateir i swyddogion gorfodi gymryd Bathodyn Glas oddi wrthych oni bai bod un o swyddogion yr heddlu gyda nhw.

Camddefnyddio Bathodynnau Glas

Rhoi gwybod am achos o gamddefnyddio Bathodyn Glas

Os credwch fod rhywun yn camddefnyddio Bathodyn Glas, gallwch roi gwybod i'ch awdurdod lleol

Mae Bathodynnau Glas yn eiddo i gynghorau lleol, a gallant eu cymryd oddi wrthych os byddwch yn eu camddefnyddio.

Dim ond at eich defnydd chi y mae'r Bathodyn Glas, ac mae'n drosedd i ganiatáu i bobl eraill ei ddefnyddio. Mae hefyd yn drosedd i beidio ag arddangos bathodyn wrth barcio mewn cilfach barcio ar y stryd ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Os credwch fod Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio, dylech:

  • nodi cymaint o fanylion â phosibl oddi ar y bathodyn sydd wedi'i arddangos
  • rhoi gwybod i'ch awdurdod lleol am y mater

Rhoddir dirwy o hyd at £1,000 i rywun a gollfernir, yn ogystal ag unrhyw gosb ychwanegol am y drosedd barcio gysylltiedig.

Nid yw'n drosedd i aros yn y cerbyd gyda'r bathodyn wedi'i arddangos os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas neu'n aros i ddeiliad y Bathodyn Glas ddychwelyd. Fodd bynnag, dylech ystyried defnyddio maes parcio lle bynnag y bo'n bosibl.

Nid yw'r Cynllun Bathodyn Glas yn berthnasol i fannau parcio oddi ar y stryd, er enghraifft meysydd parcio archfarchnadoedd. Fodd bynnag, efallai y bydd cilfachau parcio ar gael i ddeiliaid Bathodyn Glas mewn meysydd parcio oddi ar y stryd. Cofiwch ddarllen unrhyw arwyddion a hysbysiadau cyn parcio.

Os credwch fod pobl yn parcio mewn cilfachau parcio sydd wedi'u cadw ar gyfer pobl anabl ac nad oes ganddynt yr hawl i wneud hynny, cysylltwch â rheolwr y siop neu'r maes parcio.

Defnyddio Bathodyn Glas yn Llundain

Nid yw'r Cynllun yn berthnasol mewn pedair bwrdeistref yng nghanol Llundain, sy'n cynnig eu consesiynau parcio eu hunain:

  • Dinas Llundain
  • Dinas San Steffan
  • Bwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea
  • rhan o Fwrdeistref Llundain Camden

Fodd bynnag, gallwch ddod o hyd i gilfachau parcio Bathodyn Glas ar fap Llundain y Bathodyn Glas.

Tâl Tagfeydd Llundain

Nid oes rhaid i ddeiliaid Bathodyn Glas dalu Tâl Tagfeydd Llundain. Rhaid i chi gofrestru gyda Transport for London (TfL) o leiaf 10 diwrnod cyn eich taith a thalu ffi gofrestru untro o £10. Gallwch lawrlwytho ffurflen gofrestru oddi ar wefan TfL.

Ffôn: 0845 900 1234

Ffôn Testun: 020 7649 9123

Defnyddio eich Bathodyn Glas dramor

Mae'r DU wedi cytuno ar drefniadau parcio anffurfiol gyda gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, felly efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r Bathodyn Glas dramor. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy lawrlwytho'r llyfryn 'Cerdyn parcio i bobl ag anableddau yn yr UE' isod.

Mewn gwledydd y tu allan i'r UE, dylech fynd â'r bathodyn gyda chi a gofyn a oes gennych hawl i'w ddefnyddio.

Ymwelwyr anabl â'r DU

Ni all ymwelwyr anabl â Lloegr gael Bathodyn Glas. Fodd bynnag, os ydych yn byw yn un o wledydd yr UE, gallwch ddefnyddio eich cerdyn parcio yn y DU. Os byddwch yn teithio o'r tu allan i'r UE, holwch yr awdurdodau lleol yn yr ardaloedd rydych am ymweld â nhw i weld a fyddant yn cydnabod cerdyn parcio eich gwlad.

Os byddwch yn ymweld â Chymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gall amodau gwahanol fod yn berthnasol.

Consesiynau tollau

Mae deiliaid Bathodyn Glas a phobl anabl eraill wedi'u heithrio rhag gorfod talu tollau ar groesfannau afonydd, pontydd a thwneli penodol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn rhaid i chi wneud cais ymlaen llaw er mwyn bod yn gymwys.

Pwy i gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth

Eich cyngor lleol sy'n rhedeg y Cynllun Bathodyn Glas - cysylltwch ag ef yn gyntaf am ragor o wybodaeth neu gyngor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU