Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud cais am Fathodyn Glas ar-lein

Mae'r cynllun Bathodyn Glas ar gyfer gyrwyr neu deithwyr â phroblemau symudedd difrifol. Mae'r cynllun yn caniatáu i ddeiliaid Bathodyn Glas barcio'n agos i ble y mae angen iddynt fynd. Nid yw'r cynllun yn berthnasol i barcio oddi ar y stryd. Mynnwch wybod sut i wneud cais neu weld a allech fod yn gymwys.

Gwneud cais am Fathodyn Glas ar-lein

Beth fydd ei angen arnoch:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhif eich trwydded yrru
  • llun pasbort
  • manylion eich bathodyn presennol, os oes gennych un

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas gan ddefnyddio'r ddolen isod os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban.

Gofynnir ychydig o gwestiynau i chi i weld a allwch fod yn gymwys cyn gwneud cais. Ni fydd ond yn cymryd dwy neu dair munud i ateb y cwestiynau hyn. Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, anfonir eich ffurflen i'ch awdurdod lleol er mwyn iddo benderfynu arno.

Eisoes wedi gwneud cais?

Gallwch hefyd ddychwelyd i gais sydd wedi'i arbed neu olrhain cynnydd cais sydd wedi'i gwblhau.

Rhoi gwybod am newidiadau i'ch Bathodyn Glas

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, neu os bydd eich bathodyn ar goll neu os caiff ei ddwyn, gallwch roi gwybod am hyn ar-lein drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol. Gallwch hefyd gysylltu â'ch awdurdod lleol yn uniongyrchol.

Pwy sy'n gymwys i gael Bathodyn Glas yn awtomatig

Mae unrhyw un dros ddwy flwydd oed yn gymwys i gael Bathodyn Glas yn awtomatig os yw:

  • wedi'i gofrestru'n ddall
  • yn cael atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • yn cael elfen symudedd Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd uwch
  • wedi cael cyfandaliad o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn (o fewn lefelau tariff 1-8) ac wedi'i ardystio fel rhywun ag anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na all gerdded neu ei fod yn cael cryn anhawster wrth gerdded

Pobl eraill a all fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas

Os na fyddwch yn gymwys yn awtomatig, efallai y bydd angen i'ch awdurdod lleol eich asesu.

Gall unrhyw un dros ddwy flwydd oed fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas yn awtomatig os:

  • oes ganddo anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na all gerdded, neu ei bod yn anodd iawn gwneud hynny
  • yw'n gyrru cerbyd modur yn rheolaidd a bod ganddo anabledd difrifol yn y ddwy fraich, sy'n ei gwneud yn anodd iawn neu'n amhosibl defnyddio peiriannau parcio

Rheolau arbennig ar gyfer plant o dan dair oed

Os ydych yn rhiant i blentyn o dan dair oed, gallwch wneud cais am Fathodyn Glas hefyd. Rhaid bod gan eich plentyn gyflwr meddygol penodol sy'n golygu naill ai:

  • fod angen cyfarpar meddygol swmpus sy'n anodd iawn ei gario arno drwy'r amser
  • bod angen iddo fod yn agos i gerbyd drwy'r amser er mwyn cael triniaeth frys am gyflwr pan fydd angen

Sut i wneud cais am Fathodyn Glas

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud cais yw ar-lein. Fodd bynnag, gallwch hefyd wneud cais am fathodyn drwy gysylltu'n uniongyrchol â'ch awdurdod lleol. Gweler y ddolen 'Trwyddedau parcio Bathodyn Glas a'ch awdurdod lleol'.

Pa ffordd bynnag y byddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi ddarparu:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu Rif Cyfeirnod y Plentyn
  • rhif eich trwydded yrru, os oes gennych un
  • llun digidol neu wedi'i lofnodi
  • rhif, dyddiad dod i ben a'r awdurdod lleol a nodir ar eich bathodyn presennol, os oes gennych un

Dylai lluniau gyfateb i safonau pasbort - gweler y ddolen 'Lluniau pasbort a phwy all eu hardystio' am ragor o wybodaeth. Os byddwch yn anfon eich llun yn ddigidol, dylai fod:

  • mewn lliw
  • mewn fformat .JPG neu .GIF
  • dim mwy na 200 KB
  • yr un gymhareb agwedd â llun pasbort - lle bo'r uchder 1.29 gwaith y lled

Efallai y bydd angen i chi hefyd anfon dogfennau eraill neu dystiolaeth arall pan fyddwch yn gwneud cais i'ch awdurdod lleol. Os felly, bydd neges am hyn ar y sgrin, a bydd cyfeiriad eich awdurdod lleol i'w weld. Bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arno, os bydd yn penderfynu bod angen asesiad symudedd arnoch ac i roi gwybod i chi a yw'ch cais wedi bod yn llwyddiannus. Gweler y ddolen 'Y Cynllun Bathodyn Glas - hawliau a chyfrifoldebau yn Lloegr' am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Mae'r meini prawf cymhwysedd ychydig yn wahanol i'r rheini sy'n byw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gwybodaeth gyswllt y Bathodyn Glas

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu cewch unrhyw broblemau wrth wneud cais ar-lein, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. Er mwyn dod o hyd i'ch awdurdod lleol gweler 'Trwyddedau parcio Bathodyn Glas a'ch awdurdod lleol'.

Os oes gennych gwestiynau cyffredinol am y Bathodyn Glas, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cymorth Ymholiadau Cychwynnol:

Ffôn: 0844 463 0213 (os ydych yn byw yn Lloegr)

Ffôn: 0844 463 0215 (os ydych yn byw yng Nghymru neu'r Alban)

Ysgrifennwch i:

Blue Badge Unit

Northgate Information Solutions


Wellington House


Wynyward Park


Billingham


TS22 5TB

E-bost: bluebadge@northgate-is.com

Os caiff eich cais ei wrthod

Os bydd eich awdurdod lleol yn penderfynu nad ydych yn gymwys i gael bathodyn, dylai ddweud wrthych pam. Gallwch ofyn iddo ailystyried eich achos os nad ydych yn credu bod yr holl wybodaeth bwysig wedi cael ei hystyried.
Gallwch hefyd wneud cais arall os credwch fod eich problemau symudedd wedi gwaethygu ers asesiad blaenorol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU