Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae pobl anabl yn talu cyfradd is ar ambell groesfan afon, ar bontydd a thwneli, neu ddim byd o gwbl. Dyma restr ohonynt yn nhrefn yr wyddor. Fel arfer, bydd rhaid i chi wneud cais o flaen llaw er mwyn cael consesiwn. Gall consesiynau tollau newid, felly dylech holi cyn dechrau teithio.
Mae consesiynau ar gael ar gyfer pobl sy’n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl neu'n cael atodiad symudedd pensiwn rhyfel, wedi’u cofrestru’n ddall, neu wedi’u heithrio rhag talu treth cerbyd.
Ewch i gofrestru’ch hun gyda’r swyddfa weinyddol ar y bont er mwyn cael llyfryn o docynnau ar gyfer croesi'n rhad ac am ddim. Cofiwch ddod â thystiolaeth o’ch hawl.
Mae cyfradd consesiwn o £10 ar gael i'r rheini sy’n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl neu sydd wedi’u heithrio rhag talu treth cerbyd i groesi pryd y mynnant am gyfnod o 12 mis.
Gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bost, dros y ffôn neu'n bersonol wrth gynorthwy-ydd y bont.
Ffôn: 01179 973 8008
E-bost: office@clifton-suspension-bridge.org.uk
Gall y rheini sydd wedi’u heithrio rhag talu treth cerbyd groesi yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch eich cerbyd dan Gynllun Cofrestru Cerbyd Eithriedig i gymryd mantais o’r dechnoleg Darllen Platiau Rhif yn Awtomatig. Nid yw’n orfodol cofrestru er mwyn croesi am ddim, ond bydd yn gwneud y croesi'n broses gynt.
Gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bost neu dros y ffôn, neu llwythwch un i lawr oddi ar wefan DART-Tag.
Ffôn: 01332 280200
E-bost: exemptions@connectplusm25.co.uk
Mae talebau eithrio ar gael i’r rheini sy'n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl ac wedi'u heithrio rhag talu treth cerbyd. Dim ond wrth groesi’r bont mewn cerbyd wedi'i eithrio rhag talu treth y mae’r talebau’n ddilys i’w defnyddio.
Gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy’r post, neu gallwch ei llwytho i lawr oddi ar wefan Pont Humber.
The Humber Bridge Board
Ferriby Road
Hessle
Dwyrain Swydd Efrog HU13 0JG
Ffôn: 01482 647161
E-bost: mail@humberbridge.co.uk
Mae eithriad rhag talu toll ar gael i’r rheini sy'n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl. Mae’r cynllun yn darparu cerdyn adnabod a thocynnau ar gyfer croesi’n rhad ac am ddim i’r person anabl mewn unrhyw gerbyd heblaw am gerbydau HGV.
Gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy’r post, neu llwythwch ffurflen gais i lawr oddi ar wefan cyngor Southampton.
Pont Itchen (adran consesiynau)
Itchen Toll Bridge
Portsmouth Road
Southampton SO19 9AD
Ffôn: 023 8043 1040
E-bost: parking.services@southampton.gov.uk
Mae Tocyn Eithrio Symudedd Toll yr M6 ar gael i’r rheini sy’n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl neu sydd wedi'u heithrio rhag talu treth cerbyd. Mae'r Tocyn Eithrio Symudedd yn caniatáu i’r cerbyd penodol basio’n rhad ac am ddim, pan fo'r sawl sy'n gymwys yn bresennol.
Gall sefydliadau sy’n rhedeg cerbyd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cario pobl anabl, ac yn cael ei gydnabod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, hefyd gael Tocyn Eithrio Symudedd.
Ceir ffi weinyddol o £15 ar gyfer cyflwyno tocyn, newid cerbyd ac adnewyddu tocynnau. Mae'r tocyn yn ddilys am dair blynedd.
Gofynnwch am ffurflen gais drwy e-bost neu dros y ffôn, neu llwythwch un i lawr oddi ar wefan Tollau traffordd yr M6.
Tîm Cyfrif y Cwsmer
Midland Express Limited
Ffôn: 0870 850 6262
E-bost: customer.services@m6toll.co.uk
Gall y rheini sy’n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl, cyfradd uchaf y Lwfans Gweini neu atodiad symudedd pensiwn rhyfel ddefnyddio’r twnnel yn rhad ac am ddim.
Gofynnwch am ffurflen gais ‘Fast Tag’ drwy e-bost neu dros y ffôn neu drwy’r post, neu llwythwch y ffurflen i lawr oddi ar y wefan. Gallwch hefyd godi ffurflen eich hun o Adeilad Georges Dock.
Y Rheolwr Cyffredinol
The Mersey Tunnels
Georges Dock Building
Georges Dock Way
Pier Head
Lerpwl L3 1DD
Ffôn: 0151 236 8602
E-bost: enquiries@merseytunnels.co.uk
Caiff deiliaid Bathodyn Glas eu heithrio rhag taliadau tollau.
Pan fyddwch yn cyrraedd y bwth toll gyda staff ynddi, rhowch eich Bathodyn Glas i’r casglwr tollau. Bydd y casglwr tollau yn sicrhau dilysrwydd eich bathodyn a bod deiliad y bathodyn yn y cerbyd. Byddant hefyd yn cofnodi manylion y bathodyn. Yna, gofynnir i ddeiliad y bathodyn lofnodi ffurflen. Os na fyddant yn gallu llofnodi, gall y gyrrwr lofnodi ar eu rhan. Bydd y bathodyn yn cael ei ddychwelyd a bydd y bar yn codi.
Mae Tocyn Symudedd Smartcards ar gael i’r rheini sy’n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl neu’n cael cyfradd uchaf o Lwfans Gweini, wedi’u cofrestru’n ddall, neu wedi’u heithrio rhag talu treth cerbyd. Mae’r tocyn yn rhoi’r hawl i’r deiliad ddefnyddio Pont Tamar a Fferi Torpoint yn rhad ac am ddim. Mae ffi weinyddol o £2 am roi tocyn symudedd.
Gofynnwch am ffurflen gais dros y ffôn neu drwy’r post, neu llwythwch un i lawr oddi ar y wefan. Gallwch hefyd godi ffurflen eich hun o Swyddfa Fferi Torpoint.
Torpoint Ferry Office
2 Ferry Street
Torpoint
Cernyw, PL11 2AX
Ffôn: 01752 812233
Mae consesiynau ar gael i’r rheini sy'n cael cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl ac wedi'u heithrio rhag talu treth cerbyd.
Os ydych yn defnyddio’r twnnel yn rheolaidd, gallwch wneud cais am docyn eithrio. Neu, defnyddiwch y lôn y mae staff yn gweithio arni fel y gallant weld eich disg treth.
Gofynnwch am ffurflen gais drwy’r e-bost, dros y ffôn neu drwy’r post, neu llwythwch un i lawr oddi ar y wefan.
TT2 Limited,
Tyne Tunnels 2,
Administration Building,
Wallsend,
Tyne and Wear NE28 0PD
Ffôn: 0191 262 4451
E-bost: tt2limited@tt2.co.uk
Mae consesiynau ar gael i’r rheini sydd wedi’u heithrio rhag talu treth cerbyd. Bydd Cerdyn croesi am ddim y Bont yn rhoi’r hawl i’r deiliad groesi’n rhad ac am ddim yn y cerbyd a nodwyd yn unig. Ceir blaendal ad-daladwy o £5 am y cerdyn.
Gallwch lwytho ffurflen gais i lawr oddi ar y wefan, neu gallwch gasglu un eich hun wrth y casglwyr tollau ar y bont.