Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Camddefnyddio mannau parcio ar gyfer pobl anabl

Os bydd modurwr nad yw'n anabl yn parcio mewn man sydd wedi'i neilltuo ar gyfer pobl anabl, bydd yn camddefnyddio'r lle parcio hwnnw. Os yw'r lle parcio yn fan Bathodyn Glas ar stryd, mae'n drosedd i unrhyw un barcio yno heb arddangos Bathodyn Glas dilys.

Mannau parcio Bathodyn Glas ar strydoedd

Mae'n drosedd parcio cerbyd nad yw'n arddangos bathodyn mewn man parcio Bathodyn Glas ar stryd. Os gwelwch hyn, dylech roi gwybod i warden traffig neu swyddog gorfodi parcio, yr heddlu lleol neu'r cyngor lleol.

Mae gan yr heddlu, wardeiniaid traffig, swyddogion parcio awdurdodau lleol a swyddogion gorfodi sifil hawl i archwilio Bathodynnau Glas.

Mae gwrthod dangos neu fethu dangos bathodyn i'w archwilio, heb esgus rhesymol, yn drosedd. Y ddirwy uchaf ar gyfer y trosedd hwn yw £1,000.

Meysydd parcio oddi ar y stryd

Nid yw'r Cynllun Bathodyn Glas yn weithredol mewn meysydd parcio oddi ar y stryd, er enghraifft meysydd parcio archfarchnadoedd.

Ar wahân i feysydd parcio cynghorau lleol, mae'r rhan fwyaf o feysydd parcio yn debygol o fod yn breifat ac yn cael eu rheoli gan y busnesau sy'n berchen arnynt.

Gyda meysydd parcio cynghorau lleol sydd wedi'u lleoli oddi ar y stryd, mae fel arfer yn drosedd parcio mewn man parcio i bobl anabl heb arddangos Bathodyn Glas dilys. Efallai y bydd yn rhaid i yrwyr sy'n camddefnyddio mannau o'r fath dalu 'tâl ychwanegol'.

Gyda meysydd parcio preifat, mae pethau'n wahanol. Mater contract rhwng perchennog y maes parcio a'r modurwr yw'r taliadau a'r amodau sy'n gysylltiedig â defnyddio meysydd parcio oddi ar y stryd. Felly, mater i berchennog neu weithredwr y maes parcio yw gorfodi lleoedd parcio i bobl anabl.

Os ydy modurwr nad yw’n anabl wedi parcio mewn man ar gyfer pobl anabl mewn maes parcio preifat, er enghraifft archfarchnad, gallai un o weithwyr y siop ofyn i'r gyrrwr symud ei gar oddi yno, ond ni all fynnu hynny dan y gyfraith.

Os ydych yn teimlo bod pobl yn parcio'n annheg mewn mannau ar gyfer pobl anabl, siaradwch â rheolwr y siop neu'r maes parcio, neu ysgrifennu atynt.

Additional links

Y map Bathodyn Glas

Dod o hyd i fannau parcio Bathodyn Glas, toiledau hwylus a llawer mwy gyda'n map rhyngweithiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU