Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ynghylch y Map Bathodyn Glas

Defnyddiwch map y Bathodyn Glas rhyngweithiol Cross & Stitch ar-lein i ddod o hyd i fannau parcio Bathodyn Glas, rheolau parcio’r cyngor lleol, toiledau cyhoeddus hwylus, gorsafoedd trên, canolfannau shopmobility, traethau hwylus a llawer mwy yn agos i chi ac ar draws y DU.

Golwg gyffredinol ar y map Bathodyn Glas

Gellir defnyddio'r map Bathodyn Glas i ddod o hyd i'r canlynol:

  • mannau parcio Bathodyn Glas mewn dros 100 o drefi a dinasoedd ar draws y DU
  • mannau parcio Llwybr Coch yn Llundain
  • gorsafoedd petrol a'u gwasanaethau ar brif ffyrdd y DU
  • toiledau cyhoeddus y gellir cael mynediad hwylus iddynt mewn dros100 o drefi a dinasoedd ledled y DU
  • gorsafoedd trenau a pha mor hwylus yw cael mynediad atynt
  • gorsafoedd tanddaearol yn Llundain, a pha mor hwylus yw cael mynediad atynt
  • arosfannau tacsis
  • canolfannau shopmobility
  • stadiwms peldroed a pha mor hwylus yw cael mynediad atynt
  • traethau hwylus
  • safleoedd cychod hwylus (wheelyboat)
  • canolfannau mobility
  • lleoliadau o ddiddordeb, fel neuaddau tref, ysbytai, amgueddfeydd ac atyniadau ymwelwyr
  • rheolau parcio ar gyfer holl gynghorau'r DU

Sut mae defnyddio'r map

Gallwch chwilio'r map drwy nodi stryd, tref neu god post. Neu, gallwch ddewis tref neu ddinas o blith rhestr o'r holl leoliadau sy'n cael eu cynnwys gan y gwasanaeth.

Gallwch ddewis y cyfleusterau yr hoffech eu gweld yn cael eu dangos ar y map oddi ar restr drwy roi tic yn y blwch wrth ymyl y cyfleuster ac yna clicio 'dangos'. Gallwch weld manylion cyfleuster drwy glicio ar ei eicon.

Mae gan y map wyth graddfa wahanol. Caiff y cyfleusterau'u dangos yn y tair graddfa fwyaf (sy'n dangos y mwyaf o fanylion). I newid y raddfa, gallwch naill ai ddefnyddio'r bar uwchben y map neu olwyn eich llygoden, os oes ganddi un.

I symud y map, gallwch glicio arno a'i lusgo. I wneud hyn, rhowch y llygoden ar y map, daliwch eich bys ar fotwm y llygoden a symudwch hi. Gallwch hefyd ddefnyddio'r bysellau saeth ar eich allweddell, er bod y dull hwn yn arafach o lawer.

Mae gan wahanol gynghorau wahanol reolau parcio, ac mae'r map yn defnyddio system codau lliw i ddangos y rheolau mewn ardaloedd penodol.

I weld beth mae'r gwahanol liwiau'n ei olygu, cliciwch ar 'Rheolau Parcio'. Ceir eglurhad o'r lliwiau a ddefnyddir a rhestr o gynghorau.

Os hoffech gael mwy o fanylion am reolau cyngor penodol, sgroliwch i lawr y rhestr os oes angen i ddod o hyd iddo. Dewiswch y cyngor a bydd blwch sy'n cynnwys y rheolau, gan gynnwys unrhyw eithriadau arbennig ayb, yn ymddangos ar y sgrin.

Gallwch hefyd gael mynediad i fap y Bathodyn Glas o’ch ffôn symudol i gael gwybod ynghylch mannau parcio a rheolau parcio’r cyngor lleol.

Gwybodaeth am y cyfleusterau a welir ar y map

Mae'r map yn cynnwys mannau parcio Bathodyn Glas, meysydd parcio cynghorau, arosfannau tacsis a thoiledau cyhoeddus mewn 115 o drefi a dinasoedd ledled y DU. Mae mannau parcio Llwybr Coch Llundain wedi'u cynnwys hefyd.

Yn ogystal â hyn, dangosir gorsafoedd petrol ar hyd prif ffyrdd, a nodir pa wasanaethau a gynigir ganddynt. Mae hyn yn cynnwys manylion fel a oes peiriannau codi arian ynddynt, a ydynt ar agor am 24 awr ai peidio, a oes toiled hwylus ynddynt ac a oes ganddynt ServiceCall.

Gallwch hefyd weld gorsafoedd rheilffordd ar y map hefyd, a cheir gwybodaeth am eu lefel mynediad. Byddwn yn gwahaniaethu rhwng tri lefel mynediad:

  • hwylus - mynediad heb risiau i bob platfform yn ogystal â staff i helpu
  • rhannol hwylus - mynediad heb risiau i bob platfform ond efallai na fydd staff i helpu
  • ddim yn hwylus - grisiau'n arwain at ambell blatfform neu bob un

Yn Llundain, dangosir gorsafoedd tanddaearol a cheir gwybodaeth ynghylch pa mor hwylus yw cael mynediad iddynt.

Pan fydd hynny'n berthnasol, ceir hefyd wybodaeth am ostyngiadau ar gyfer gyrwyr anabl ar dollau pontydd a thwneli.

Ceir nifer o nodweddion eraill, rhai ohonynt nad oes angen eu cyflwyno:

Golygfa rhwydwaith trenau

Mae’r map Bathodyn Glas nawr yn cynnwys nodwedd sy’n eich galluogi i newid o olygfa ‘Stryd’ i olygfa ‘Rhwydwaith trenau’. Mae’r olygfa rhwydwaith trenau yn dangos hwylustod 2000 o orsafoedd ar draws y DU. Mae hyn yn cynnwys os mae gan yr orsafoedd grisiau ac os mae staff yno i’ch helpu.

Shopmobility

Cynllun yw Shopmobility sy'n rhoi benthyg cadeiriau olwyn i'w gwthio â llaw, cadeiriau olwyn â phŵer a sgwteri â phŵer i unrhyw un sydd angen cymorth i symud. Fel arfer, bydd canolfannau Shopmobility wedi'u lleoli yng nghanol tref neu ganolfan siopa, er mwyn galluogi pobl i fynd i siopa ac ymweld â chyfleusterau hamdden a masnachol.

Mae pob cynllun yn wahanol felly mae'n bwysig i chi gysylltu â'r ganolfan yr ydych am ymweld â hi cyn defnyddio'r gwasanaeth. Er enghraifft, mewn rhai canolfannau bydd angen i chi archebu ymlaen llaw.

Weithiau, codir tâl am ddefnyddio'r gwasanaeth, er y bydd rhai canolfannau'n ei ddarparu am ddim.

Canolfannau Mobility

Mae canolfannau Mobility yn asesu pobl sy'n dymuno dechrau gyrru neu ailddechrau gyrru ar ôl salwch, anaf neu ddamwain, ac yn rhoi cyngor iddynt. Maent hefyd yn cynnig cyngor o ran mynd i mewn ac allan o gerbyd ac o ran llwytho a chludo cadair olwyn neu sgwter mewn cerbyd modurol.

Ceir 17 o ganolfannau Mobility ledled y DU. Er bod y canolfannau'n annibynnol, maent yn cael eu cydnabod gan fudiadau symudedd gan gynnwys Motability a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Cychod Hwylus i Bawb (Wheelyboat)

Cychod arbennig yw'r rhain sy'n golygu y gall pobl anabl fynd i mewn iddynt yn hwylus er mwyn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ddŵr, gan gynnwys hwylio er pleser, genweirio a gwylio natur.

Ceir gwahanol fodelau, ond mae cwch wedi'i gynllunio er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer pobl anabl, yn enwedig defnyddwyr cadair olwyn, a gellir mynd i mewn iddynt yn rhwydd.

Traethau hwylus

Mae traethau hwylus yn darparu mynediad at y traeth gyda ramp neu lithrffordd ac yn cynnwys toiledau sy'n hawdd cael mynediad iddynt a lleoedd parcio ar gadw i bobl anabl.

Mae gan rai traethau lwybrau pren y gellir mynd arnynt ar hyd y traeth ac i mewn i'r dŵr.

Hygyrchedd y map Bathodyn Glas

Mae'r gwasanaeth hwn yn defnyddio technoleg fapio. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y gwasanaeth hwn mor hygyrch â phosib, ni fydd yn bosib defnyddio offer mapio gyda rhai mathau o ddarllenwyr sgrin.

Mae fersiwn testun yn unig ar gael i chwilio am fannau parcio Bathodyn Glas, mannau parcio Llwybr Coch, gorsafoedd petrol a thoiledau cyhoeddus.

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am bolisi hygyrchedd Cross & Stitch yn yr adran 'Help'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU