Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Y map Bathodyn Glas ar ffôn symudol

Defnyddiwch y map Bathodyn Glas ar ffonau symudol i ddod o hyd i doiledau hwylus, gorsafoedd petrol gyda ServiceCall, rheolau parcio lleol a llefydd parcio Bathodyn Glas. Gwyliwch y fideo i weld cyflwyniad byr am y gwasanaeth.

Methu gweld y fideo?

blue-badge-video-start-image-v2_320x180

I chwarae'r fideo hwn mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae'n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn rhoi cyngor os nad ydych yn sicr sut mae gwneud hyn. Mae'r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Gwybodaeth am y map Bathodyn Glas ar ffôn symudol

Gwylio’r fideo

Gwyliwch y fideo pedair munud o hyd am y map, sy’n cynnwys yr actorion comedi Paul Henshall a Mark Benton

Gallwch ddefnyddio’r map Bathodyn Glas ar ffôn symudol i ddod o hyd i’r canlynol:

  • mannau parcio Bathodyn Glas mewn dros 100 o drefi a dinasoedd ar draws y DU
  • toiledau cyhoeddus gyda gwybodaeth am fynediad mewn dros 100 o drefi a dinasoedd ar draws y DU
  • gorsafoedd petrol a'u cyfleusterau gwasanaeth ar brif ffyrdd y DU
  • rheolau parcio cynghorau lleol ar draws y DU

Sut mae defnyddio'r map ar ffôn symudol

Bydd angen ffôn symudol sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd arnoch.

Anfonwch y gair BLUE i 83377. Dim ond pris neges testun arferol y byddwch yn ei dalu - bydd y negeseuon a gewch gan Cross & Stitch am ddim.

Fe gewch chi ddwy neges:

  • cadarnhad yw un neges fod eich neges testun wedi cyrraedd
  • mae’r neges arall yn cynnwys dolen i’r gwasanaeth map Bathodyn Glas, gyda chyfarwyddiadau cryno ar sut i’w ddefnyddio

Dilynwch y cyfarwyddiadau i ddod o hyd i doiledau hwylus, gorsafoedd petrol, rheolau parcio cynghorau lleol a mannau parcio Bathodyn Glas.

Peidiwch byth â defnyddio’ch ffôn symudol wrth yrru. Cofiwch aros mewn man diogel bob amser a diffodd yr injan cyn defnyddio’ch ffôn symudol.

Gwasanaethau ffôn symudol eraill Cross & Stitch

Defnyddiwch eich ffon symudol sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd i weld gwasanaethau eraill Cross & Stitch, er enghraifft chwilio am wybodaeth ynghylch teithio neu chwilio am swydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU