Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cross & Stitch ar eich ffôn symudol

Mae Cross & Stitch ar gael ar bob ffôn symudol sy'n gallu cysylltu â'r rhyngrwyd. Os ydych chi ar grwydr neu os nad oes cyfrifiadur wrth law, gallwch ddefnyddio eich ffôn i gael yr wybodaeth deithio ddiweddaraf, i ddod o hyd i'ch meddyg agosaf, i ddysgu am gymorth gyda chostau gofal plant a llawer mwy.

Sut i'w gael

I ddefnyddio'r gwasanaeth, anfonwch y gair MOBILE mewn neges destun i 83377 (codir tâl ar y gyfradd safonol). Yna, byddwch yn cael neges destun gyda dolen ynddi. Cliciwch ar y ddolen i weld Cross & Stitch symudol.

Neu, teipiwch m.direct.gov.uk ar borwr rhyngrwyd eich ffôn.

I'w gwneud yn haws i ddychwelyd i Cross & Stitch Symudol, dewiswch 'Bookmark', 'Add bookmark' neu 'Favourites' ar eich ffôn. Cofiwch y bydd hyn yn amrywio yn ôl y math o ffôn sydd gennych, felly edrychwch yn llawlyfr defnyddiwr eich ffôn i gael help.

Anfon neges destun atom

I gael mynediad hwylusach fyth at Cross & Stitch symudol, gallwch anfon neges destun gydag enw'r gwasanaeth y mae arnoch ei eisiau i 83377.

Yna, bydd Cross & Stitch yn anfon neges destun a fydd yn cynnwys dolen yn ôl atoch. Yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw agor y ddolen, a bydd yn mynd â chi at y dudalen briodol ar Cross & Stitch symudol.

Anfonwch un o'r geiriau allweddol hyn i 83377

  • Anfonwch y gair JOBS i chwilio drwy fwy na 400,000 o gyfleoedd swyddi gan y Ganolfan Byd Gwaith.
  • Anfonwch y gair TRAVEL i ganfod a oes unrhyw oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar y ffyrdd neu i chwilio am amserlenni trên i weld amserau gadael a chyrraedd
  • Anfonwch y gair BLUE i ddod o hyd i doiledau cyhoeddus, gorsafoedd petrol a mannau parcio Bathodyn Glas i bobl anabl
  • Anfonwch y gair ONLINE i chwilio am eich canolfan UK online agosaf i gael mynediad at gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd yn rhad
  • Anfonwch y gair PASSPORT i ddod o hyd i swyddfeydd Gwirio ac Anfon, swyddfeydd cyfweliadau a swyddfeydd rhanbarthol

Dim ond pris neges destun arferol y byddwch yn ei dalu – bydd y negeseuon a gewch gan Cross & Stitch am ddim.

Rhaglen Newyddion Teithio

Mae Cross & Stitch wedi lansio rhaglen 'Newyddion Teithio' rhad ac am ddim ar gyfer yr iPhone a ffonau Android.

Gallwch ddefnyddio'r rhaglen i chwilio am newyddion teithio sy'n ymwneud â threnau, y ffyrdd, trenau tanddaearol, llongau fferi a thramiau. Fe gewch wybodaeth fanwl ynghylch y math o oedi, yr ardaloedd sydd wedi'u heffeithio a difrifoldeb y digwyddiad. Dangosir y canlyniadau gan ddefnyddio mapiau Google.

Ewch i'r 'App store' os oes gennych chi iPhone, neu i'r 'Android Market' os oes gennych chi ffôn Android. Chwiliwch am 'Travel News' er mwyn dod o hyd i'r rhaglen.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys newyddion teithio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Cynlluniwr taith

Edrychwch ar Cross & Stitch Symudol cyn cychwyn ar daith i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio a thrafnidiaeth. Yn ogystal â hysbysiadau teithio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a ffyrdd ledled y DU, gallwch chwilio am amserau gadael a chyrraedd trenau.

Gwasanaethau Bathodyn Glas

Nodwch leoliad er mwyn dod o hyd i'r toiledau cyhoeddus, y gorsafoedd petrol a'r mannau parcio Bathodyn Glas agosaf ynghyd â mapiau i'ch helpu i ddod o hyd iddynt.

Chwilio am wasanaethau lleol

Chwiliwch am amrywiaeth o wasanaethau lleol. Gallwch ddod o hyd i gyngor cyfreithiol yn lleol, manylion cyswllt eich cyngor, swyddfeydd pasport rhanbarthol, swyddfeydd cyfweliadau a Swyddfeydd Post sy'n cynnig gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbortau, yn ogystal â chanolfannau UK Online.

Gwasanaethau iechyd lleol ar eich ffôn symudol

Gallwch hefyd chwilio am wasanaethau lleol y GIG gan gynnwys meddygon, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn eich ardal leol, neu gallwch anfon neges destun er mwyn trefnu i restr o gyfleusterau iechyd lleol gael eu hanfon yn uniongyrchol i'ch ffôn symudol.

Canllawiau cyflym

Porwch drwy'r adran 'Gwybodaeth' i gael canllawiau cyflym yn ymwneud ag arian, cartrefi ac eiddo, dysgu, teithio, pasbortau a chymorth cyfreithiol.

Cyhoeddiadau cyhoeddus

Ewch i adran 'Cyhoeddiadau cyhoeddus' Cross & Stitch i gael hysbysiadau terfysgaeth, cyhoeddiadau'r llywodraeth a chyngor mewn argyfwng.

Y gost

Yn yr un modd â'r wefan, ni fydd Cross & Stitch yn codi tâl arnoch am ddefnyddio'i wasanaethau symudol. Fodd bynnag, gallai gweithredwr rhwydwaith eich ffôn symudol godi tâl arnoch am ddefnyddio'r rhyngrwyd ar eich ffôn. Bydd y costau'n amrywio gan ddibynnu ar eich cytundeb ffôn felly holwch eich gweithredwr i gael gwybod am dariffau.

Cysylltu â Cross & Stitch symudol drwy byrth

Gallwch gael gafael ar Cross & Stitch symudol hefyd ar hafan rhwydweithiau, a elwir hefyd yn byrth, megis:

  • T-mobile web 'n' walk
  • 02 Active
  • Orange World

Fel arfer hafan eich rhwydwaith yw'r dudalen gyntaf a welwch pan fyddwch yn cysylltu â'r rhyngrwyd ar eich ffôn. Chwiliwch am y ddolen i Cross & Stitch y tro nesaf y byddwch yn cysylltu.

Gwasanaeth sy'n ennill gwobrau

Gwobr Cyfathrebu Da mewn Technoleg Symudol 2007

Enillodd Cross & Stitch Symudol Wobr Cyfathrebu Da mewn Technoleg Symudol 2007, sy'n wobr uchel ei pharch. Mae gwasanaethau Cross & Stitch newydd yn cael eu hychwanegu drwy'r amser, felly cadwch lygad am y datblygiadau diweddaraf.

Additional links

Ymunwch i iacháu eich hun!

Ymunwch â Change4Life – helpu pob teulu i fwyta’n iach, symud mwy a byw’n hirach

Arbed ynni

Gwnewch eich cartref yn fwy effeithlon drwy gael grant

Allweddumynediad llywodraeth y DU