Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae lluniau pasbort yn rhan hanfodol o'ch cais. Os na fydd y lluniau y byddwch yn eu darparu yn addas, caiff eich pasbort ei ohirio. Bydd angen i chi hefyd ofyn i rywun ardystio llun ar gyfer rhai ceisiadau. Sicrhewch eich bod yn gwybod yn union beth yn union y mae angen ei wneud fel y bydd yn gywir gennych y tro cyntaf.
Mae'n rhaid i'r lluniau y byddwch yn eu darparu gyda'ch cais:
Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth y gellir ei llwytho i lawr ynghylch lluniau, gan ddangos enghreifftiau o’r hyn sy’n dderbyniol ac yn annerbyniol. Anfonir fersiwn wedi'i hargraffu o'r wybodaeth hon gyda'r holl ffurflenni cais safonol.
Os ydych yn ffotograffydd proffesiynol, gallwch ddilyn y ddolen isod i gael arweiniad manwl.
Dylai'r unigolyn sy'n ardystio eich ffurflen gais yn adran 10 (eich 'adlofnodwr') hefyd ardystio un o'ch lluniau (nid y ddau ohonynt). Gwneir hyn drwy ysgrifennu'r canlynol ar gefn y llun:
Yna, rhaid iddynt lofnodi'r datganiad a nodi’r dyddiad arno. Nid yw dim ond llofnodi a nodi’r dyddiad ar y llun yn ddigon.
Os yw'n gais ar gyfer rhywun dan 16 oed (gan gynnwys babanod)
Rhaid i’r adlofnodwr wneud y canlynol:
Os ydych yn adnewyddu pasbort
Os ydych yn adnewyddu eich pasbort, ni fydd yn rhaid i chi gael rhywun i adlofnodi eich ffurflen nac i ardystio llun ohonoch onid ydych yn edrych yn wahanol iawn i'r llun yn eich pasbort diweddaraf.
Pwy gaiff adlofnodi’ch llun?
Am restr o bwy gaiff adlofnodi’ch lluniau, gweler ‘Pwy gaiff adlofnodi’ch cais?’
Os yw’ch ymddangosiad wedi newid yn barhaol ac yn sylweddol, fel na ellir eich adnabod yn eich llun pasbort cyfredol, bydd yn rhaid i chi adnewyddu'ch pasbort.
Bydd yn rhaid i chi wneud hyn os ydych wedi cael un o'r canlynol ers i’ch pasbort gael ei gyhoeddi:
Bydd angen i chi ddarparu llun newydd a sicrhau y caiff ei ardystio. Bydd disgwyl hefyd i chi dalu am eich pasbort newydd yn y ffordd arferol, hyd yn oed os nad oedd eich hen basbort wedi dod i ben.
Os bydd ymddangosiad plentyn dan 16 oed yn newid oherwydd y broses aeddfedu arferol, does dim rhaid iddo wneud cais am basbort newydd.
Os yw’n dal yn bosib eich adnabod yn eich llun pasbort cyfredol, does dim angen i chi wneud cais am un newydd. Er enghraifft, gan amlaf byddai tyfu barf neu liwio'ch gwallt yn cyfrif fel newidiadau bach.
Os ydych yn dymuno cael pasbort newydd er mwyn adlewyrchu’r newid yn eich ymddangosiad, mae croeso i chi wneud hynny. Bydd angen i chi wneud cais a thalu yn y ffordd arferol, a chynnwys llun newydd gyda'ch cais.
Os ydych yn ansicr a yw hyn yn berthnasol i chi, ffoniwch y Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus