Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ydych chi'n barod i wneud cais am eich pasbort? Bydd camgymeriadau a dogfennau coll yn peri oedi gyda'ch cais. Defnyddiwch y rhestr wirio hon i wneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys popeth ac i weld pa wasanaethau y gallwch eu defnyddio. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post.
Os oes angen i chi ddarparu tystysgrif geni, priodas, partneriaeth sifil neu fabwysiadu gyda’ch cais, gallwch archebu copïau ar-lein
Ar gyfer ceisiadau unigol am basbort, rhaid i chi anfon y canlynol i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:
Mae rhaid i chi hefyd anfon y ffi gywir. Mae ffioedd pasbort yn amrywio gan ddibynnu ar y fath o gais a gwasanaeth yr ydych yn defnyddio. Gweler ‘Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau’.
Sicrhewch eich bod chi’n gwneud nodyn o rif y cod bar ar eich cais cyn i chi anfon eich cais i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drwy’r post. Bydd angen hwn arnoch os ydych am wneud ymholiadau ynghylch eich cais neu ddilyn hynt eich cais.
Mae'r tabl isod yn dangos beth arall y mae angen i chi ei anfon gyda'ch ffurflen gais.
Os dewiswch ddefnyddio'r gwasanaeth Premiwm neu'r gwasanaeth Trac Cyflym, mae angen i chi drefnu apwyntiad. I wneud hyn dylech ffonio Llinell Gyngor Pasbortau y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Math o gais |
Beth mae angen i chi ei anfon i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau |
Pa wasanaethau y gallwch eu defnyddio |
---|---|---|
Adnewyddu pasbort oedolyn |
eich pasbort cyfredol dylai'r unigolyn sy'n adlofnodi'ch ffurflen gais ardystio un o'ch lluniau os yw'ch ymddangosiad wedi newid cryn dipyn o'ch pasbort diwethaf |
cais safonol drwy'r post gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (drwy apwyntiad) gwasanaeth undydd Premiwm (drwy apwyntiad) |
Adnewyddu pasbort plentyn |
pasbort cyfredol y plentyn dylai'r unigolyn sy'n adlofnodi'r ffurflen gais ardystio un o'r lluniau os yw ymddangosiad y plentyn wedi newid cryn dipyn o'u pasbort diwethaf |
cais safonol drwy'r post gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (drwy apwyntiad) gwasanaeth undydd Premiwm (drwy apwyntiad) |
Eich pasbort oedolyn cyntaf |
y dogfennau ategol cywir (gweler 'Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer pasbort oedolyn cyntaf') dylai'r unigolyn sy'n adlofnodi'ch ffurflen gais ardystio un o'r lluniau |
cais safonol drwy'r post gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post |
Pasbort cyntaf plentyn |
y dogfennau ategol cywir (gweler 'Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer pasbort plentyn') dylai'r unigolyn sy'n adlofnodi'ch ffurflen gais ardystio un o'r lluniau |
cais safonol drwy'r post gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (drwy apwyntiad), ar gael ar gyfer rhai achosion yn unig - ffoniwch y Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 i gadarnhau eich bod chi’n gallu defnyddio’r gwasanaeth hon ar gyfer eich cais |
Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi |
y pasbort a ddifrodwyd (os yw hyn yn berthnasol) ffurflen LS01 (ar gyfer pasbort wedi'i ddwyn yn unig) os nad ydych wedi'i hanfon yn barod dylai'r unigolyn sy'n adlofnodi'ch ffurflen gais ardystio un o'r lluniau |
cais safonol drwy'r post gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (drwy apwyntiad) |
Ymestyn pasbort |
eich pasbort cyfredol |
cais safonol drwy'r post gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (drwy apwyntiad) gwasanaeth undydd Premiwm (drwy apwyntiad), ar gael ar gyfer rhai mathau o geisiadau'n unig - ffoniwch y Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000 am fwy o wybodaeth |
Gwneud newidiadau i basbort (er enghraifft, newid enw) |
y dogfennau ategol cywir (gweler 'Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer newid enw ar basbort' |
cais safonol drwy'r post gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (drwy apwyntiad) gwasanaeth undydd Premiwm (drwy apwyntiad), ar gael ar gyfer rhai mathau o geisiadau'n unig - ffoniwch y Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000 am fwy o wybodaeth |
Mae canllawiau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n cynnwys beth sydd angen i’r rhan fwyaf o bobl ei gynnwys gyda ffurflen gais, ond bydd yna adegau pan fydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ofyn am wybodaeth ychwanegol er mwyn gwneud ymholiadau pellach.
Mae angen gwahanol ffurflen gais a dogfennau ategol ar gyfer pasbortau cyfunol. Am fwy o fanylion, gan gynnwys rhestr wirio, ewch i 'Pasbortau cyfunol (neu grŵp)'.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus