Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd arnoch angen rhif cod bar er mwyn gallu dilyn hynt eich cais. Gallwch ddod o hyd i’r rhif deg-digid hwn ar dudalen flaen eich ffurflen gais. Os bu i chi ddefnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon neu os bu i chi wneud cais yn bersonol, dylech ddefnyddio’r cod bar ar eich derbynneb.
Bydd angen i chi nodi’r rhif cod bar o’r ffurflen gais neu dderbynneb os ydych chi’n gwneud ymholiadau ynghylch eich cais. Gwnewch yn sicr eich bod yn cadw’r rhif mewn man diogel a pheidiwch â’i ddangos i unrhyw un oni bai eich bod am iddynt wneud ymholiadau ar eich rhan.
Gwneud cais drwy’r post
Os ydych chi am anfon eich cais yn y post, sicrhewch eich bod yn nodi rhif cod bar eich cais cyn gwneud hyn. Y rhif deg-digid ar frig tudalen flaen y ffurflen gais yw hwn. Gallwch nodi’r rhif yn y blwch sydd ar dudalen flaen y daflen ganllaw ar sut i wneud cais.
Os ydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon, neu'n gwneud cais yn bersonol mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol, fe gewch dderbynneb am eich ffurflen gais. Bydd gan y dderbynneb rif cod bar gwahanol arni. Sicrhewch eich bod yn cadw’r dderbynneb hon mewn lle diogel.
Gallwch gael gwybod ynghylch trywydd eich pasbort drwy ddefnyddio gwasanaeth olrhain eich cais ar-lein. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn eich ateb cyn gynted â phosib. Gallwch hefyd ffonio’r Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000. Bydd rhaid i chi ddyfynnu rhif cod bar eich cais neu’r rhif ar eich derbynneb gan Swyddfa’r Post neu’r Swyddfa Basbort Ranbarthol.
Oni bai i’ch cynlluniau teithio newid, arhoswch nes byddwch wedi anfon eich cais ers pythefnos cyn cysylltu â’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i ddilyn ei hynt.
Noder os gwelwch yn dda: ni ddylech archebu unrhyw daith nes byddwch wedi cael eich pasbort. Nid yw negeseuon cynydd o’r gwasanaeth olrhain ar-lein yn warant o bryd y byddwch yn derbyn eich pasbort.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus