Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eglurhad ar y ffurflen gais am basbort ar-lein

Gallwch lenwi a chyflwyno eich ffurflen gais ar-lein, ond ni fydd eich cais yn gyflawn nes i chi lofnodi a dychwelyd y ffurflen gyda'r dogfennau ategol. Cyn dechrau, gwnewch yn siŵr bod y ffurflen ar-lein yn addas i chi.

Pwy all ddefnyddio'r ffurflen ar-lein?

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i wneud cais am unrhyw fath o basbort unigol yn y DU.

Fodd bynnag, ni ddylech ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein os ydych:

  • yn byw oddi allan i'r DU
  • angen eich pasbort o fewn pedair wythnos
  • angen pasbort cyfunol (grŵp)

Os ydych chi’n byw oddi allan i’r DU, bydd angen i chi wneud cais drwy is-genhadaeth y DU yn y wlad rydych chi’n byw ynddi. Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am eich pasbort o du allan i’r DU.

Os ydych angen eich pasbort o fewn pedair wythnos, dylech edrych ar y gwasanaethau sydd wedi’u crybwyll yn ‘Amserlen ar gyfer ceisiadau am basbortau’.

Am wybodaeth ar basbortau cyfunol, gweler ‘Pasbortau cyfunol (neu grŵp).

Cyfarwyddiadau ar gyfer llenwi’r ffurflen ar-lein

Mae'r ffurflen yn cynnwys help a chyfarwyddiadau manwl ar bob cam.

Pan fyddwch wedi llenwi a chyflwyno'r ffurflen, caiff ei hanfon ar-lein i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Yna, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n ei hargraffu ac yn ei phostio atoch.

Dylech wneud yn siŵr bod eich manylion yn gywir a llofnodi'r ffurflen a'i dychwelyd i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gyda’r canlynol:

  • eich lluniau
  • unrhyw ddogfennau ategol eraill y mae eu hangen ar gyfer eich cais

Os hoffech weld pa ddogfennau ategol y mae angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod ar gyfer y math o gais yr ydych yn ei wneud.

Pam mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argraffu'r ffurflen gais i chi

Mae Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n argraffu’ch ffurflen gais ar eich cyfer, oherwydd nid yw argraffydd desg cyffredin o gyfrifiadur cartref yn darparu printiau o ansawdd digon da. Os fyddech yn ei hargraffu’ch hun, mae’n debygol na fyddai modd defnyddio’ch ffurflen.

Pam nad yw'r cais i gyd yn cael ei wneud yn electronig

Mewn theori, yn ogystal ag anfon y manylion ar eich ffurflen gais dros e-bost, fe allech hefyd anfon lluniau digidol, dogfennau wedi'u sganio a'ch llofnod (naill ai wedi'i sganio neu'n electronig) i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Fodd bynnag, nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • nid yw'r rhan fwyaf o beiriannau sganio cyffredin yn gallu anfon data digon cywir i offer arbenigol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
  • mae'r risg o dwyll, yn enwedig twyll dwyn manylion personol, yn uwch gyda lluniau digidol

Dychwelyd y ffurflen a nodi’ch rhif cod bar

Ffioedd a sut mae talu

I gael cyngor ar faint y bydd eich pasbort yn ei gostio a sut mae talu, dilynwch y ddolen isod.

Os byddwch yn dychwelyd y ffurflen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drwy'r gwasanaeth post safonol, dylech wneud nodyn o rif cod bar y cais. Y rhif 10-digid ar frig tudalen flaen y ffurflen gais yw hwn. Bydd angen y rhif hwn arnoch os byddwch yn gwneud ymholiadau am eich cais.

Os byddwch yn dychwelyd y ffurflen drwy ddefnyddio gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post, fe gewch dderbynneb wrth roi’ch cais iddynt. Cadwch y dderbynneb hon gan y bydd ei hangen arnoch (neu rif cod bar eich cais) os byddwch yn gwneud ymholiadau am eich cais.

I gael mwy o wybodaeth, gweler ‘Dilyn hynt eich cais am basbort’.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU