Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi

Os yw'ch pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn, mae angen i chi gael un arall yn ei le cyn y cewch deithio'n rhyngwladol. Er ei bod efallai'n dal yn bosib defnyddio'r pasbort sydd wedi'i ddifrodi ac y gellir ei ddarllen, gallai rhai cwmnïau hedfan wrthod gadael i chi deithio. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) yn argymell i chi gael pasbort newydd yn lle un sydd wedi'i ddifrodi.

Beth i'w wneud am basbort sydd ar goll neu wedi'i ddwyn

Os yw'ch pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn, mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod mor fuan â phosib. Os caiff eich pasbort ei ddwyn, fe ddylech roi gwybod i'r heddlu ar unwaith.

Gallwch roi gwybod bod eich pasbort ar goll neu wedi'i ddwyn a gwneud cais am basbort arall ar yr un pryd os ydych:

  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn y DU pan rydych yn gwneud y cais

Os nad ydych chi yn y DU neu os nad oes arnoch eisiau cael pasbort newydd yn syth, dylech roi gwybod ei fod ar goll neu wedi'i ddwyn. Gweler ‘Rhoi gwybod am basbort sydd ar goll neu wedi’i ddwyn’ am ragor o wybodaeth.

Beth i'w wneud am basbort sydd wedi'i ddifrodi

Does dim angen i chi roi gwybod am basbort sydd wedi'i ddifrodi. Ond os yw'ch pasbort wedi'i ddifrodi y tu hwnt i reswm, efallai na fydd rhai cwmnïau hedfan yn gadael i chi deithio. Am y rheswm hwn, mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell i chi wneud cais am basbort arall mor fuan ag y bo modd.

Bydd angen i chi anfon y pasbort a ddifrodwyd i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau pan fyddwch yn gwneud cais am un newydd. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n ei ddychwelyd pan fyddant wedi profi pwy ydych chi ac wedi cadarnhau nas ‘ymyrrwyd â'r pasbort at ddibenion twyllodrus’. Mae ymyrryd at ddibenion twyllodrus yn golygu rhywun yn ceisio newid y manylion adnabod neu'r llun ar basbort, er enghraifft, i'w ddefnyddio'n anghyfreithlon.

Os oedd eich plentyn wedi'i gynnwys ar y pasbort

Os oedd eich plentyn wedi'i gynnwys ar eich pasbort, a bod eich pasbort ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi, ni ellir cynnwys eich plentyn ar eich pasbort newydd. Erbyn hyn, rhaid i bob plentyn gael ei basbort ei hun i deithio dramor. Dylech wneud cais am basbort plentyn cyntaf ar ei gyfer os yw’n iau nag 16 oed. Os yw'n 16 oed neu'n hŷn, gall wneud cais am basbort oedolyn.

Cost pasbort newydd

Mae pasbort oedolyn yn costio £72.50 am wasanaeth safonol ac £103.00 am y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym.

Mae pasbort plentyn yn costio £46.00 am wasanaeth safonol ac £87.00 am y gwasanaeth wythnos Trac Cyflym.

Nid yw'r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael os oes angen pasbort newydd arnoch.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl yn 'Tabl o ffioedd pasbort, sut mae talu ac ad-daliadau'.

Y ffurflen gais am basbort

I gael pasbort newydd mae angen i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gais safonol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai a fyddwch yn llenwi'r fersiwn bapur ynteu'r fersiwn ar-lein.

Sut i gael y ffurflen gais am basbort

Mae pedair ffordd y gallwch ei chael. Gallwch wneud y canlynol:

  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbortau
  • gofyn am un ar-lein a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n anfon un atoch drwy'r post
  • ffonio Llinell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 a gofyn iddynt anfon un atoch drwy'r post
  • ei llenwi ar-lein - yna bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n ei hargraffu ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol

Adlofnodi'r ffurflen gais am basbort oedolyn newydd

Os ydych chi'n gwneud cais am basbort newydd, dylech lofnodi'r ffurflen yn adran 9 a sicrhau bod rhywun yn ei hadlofnodi yn adran 10.

Dylai'r unigolyn y byddwch yn gofyn iddo adlofnodi fod yn rhywun sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynedd. Mae'n ofynnol hefyd:

  • ei fod dros 18 oed
  • bod ganddo basbort Prydeinig neu Wyddelig cyfredol
  • ei fod yn fodlon ysgrifennu ei rif pasbort ar y ffurflen

Dylai’r unigolyn hefyd fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fod ag enw da yn y gymuned. Am restr o broffesiynau addas, gweler'Pwy gaiff adlofnodi eich cais?'.

Mae angen i'r un unigolyn ardystio un o'ch lluniau. Gwneir hyn drwy ysgrifennu'r canlynol ar gefn y llun:

  • 'Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Miss, Mr, Mrs, Ms neu deitl arall a'ch enw llawn]'

Yna, rhaid iddo lofnodi'r datganiad a nodi’r dyddiad arno.

Llofnodi'r ffurflen gais am basbort plentyn newydd

Yr un unigolyn ddylai lenwi a llofnodi’r ffurflen gais am basbort y plentyn a'r ffurflen Hysbysu am Basbort sydd Ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01).Os byddwch yn llenwi ac yn llofnodi’r ffurflenni hyn, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau’n cymharu eich llofnod chi â’r llofnod ar y ffurflen gais am y pasbort gwreiddiol.

Os mai rhywun arall wnaeth y cais gwreiddiol, bydd arnoch angen amgáu llythyr wedi’i lofnodi ganddo. Dylai’r llythyr cadarnhau bod y pasbort ar goll neu wedi cael ei ddwyn. Pwrpas hyn yw lleihau’r risg o gipio plant.

Ar gyfer ceisiadau plant, dylai’r adlofnodwr (y sawl sy’n llofnodi’r ffurflen yn adran 10) fod yn rhywun sydd wedi adnabod y sawl sy’n llenwi’r ffurflen (rhiant gan amlaf) ers dwy flynedd o leiaf.

Y dogfennau ategol y mae eu hangen i gael pasbort newydd

I gael pasbort newydd, dylech anfon y canlynol i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:

  • ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01) (os yw hyn yn berthnasol ac nad ydych wedi'i hanfon yn barod)
  • y ffurflen gais
  • y ffi
  • lluniau
  • y pasbort a ddifrodwyd (os yw hyn yn berthnasol)

Efallai y bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n gofyn i chi ddarparu dogfennau eraill megis tystysgrif geni neu briodas.

Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n diddymu'r pasbort sydd ar goll neu wedi'i ddwyn. Os byddwch yn dod o hyd i’r pasbort yn nes ymlaen, rhaid i chi ei ddychwelyd i Swyddfa Basbort Ranbarthol.

Ffurflen Hysbysu am Basbort sydd ar Goll neu wedi'i Ddwyn (LS01)

Gallwch gael y ffurflen hysbysebu am Basbort sydd ar Goll neu wedi’i Ddwyn (LS01):

  • drwy ei llenwi ar-lein - bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu’r ffurflen wedi’i llenwi ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a’i dychwelyd gyda’r dogfennau ategol
  • drwy ei lawrlwytho ar-lein
  • o’ch Swyddfa Basbort Ranbarthol
  • rhai o ganghennau Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Pasbort y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000
  • eich gorsaf heddlu leol

Os oes angen pasbort newydd arnoch ar frys

Os oes arnoch angen teithio mewn llai na phythefnos, dylech wneud cais brys am basbort newydd. Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym (nid yw'r gwasanaeth undydd Premiwm ar gael ar gyfer cael pasbort newydd). Yn gyntaf, dylech ffonio Llinell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i drefnu apwyntiad mewn Swyddfa Basbort Ranbarthol.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU