Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pwy gaiff adlofnodi’ch cais?

Pan fyddwch wedi llenwi a llofnodi'r ffurflen gais, bydd angen i chi ofyn i rywun lenwi ac adlofnodi adran 10. Gelwir y person hwn yn adlofnodwr. Dylai ardystio eich llun os oes angen. Edrychwch ar y rhestr o broffesiynau addas i gael gwybod wrth bwy y gallwch ofyn.

Oes angen i rywun adlofnodi eich cais?

Mae angen i chi gael rhywun i adlofnodi eich cais os ydych yn gwneud cais am un o'r canlynol:

  • pasbort cyntaf
  • pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi
  • adnewyddu pasbort plentyn sy'n 11 oed neu'n iau
  • adnewyddu pasbort pan mae eich ymddangosiad wedi newid cymaint y byddai'n anodd eich adnabod o'r llun yn eich pasbort diwethaf neu yn eich pasbort cyfredol

Beth mae'n rhaid i'r adlofnodwr ei wneud

Osgoi unrhyw oedi

Mae’n bosib y bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gysylltu â’ch adlofnodwr, felly gwnewch yn siŵr y byddant ar gael ac ni fyddant i ffwrdd ar ei gwyliau

Rhaid i'ch adlofnodwr lenwi adran 10 o'r ffurflen er mwyn cadarnhau ei fod:

  • yn eich adnabod ers dwy flynedd neu ragor
  • a'ch bod yn dweud y gwir am bwy ydych chi

Os mai ar gyfer pasbort plentyn y mae'r ffurflen, dylai'r adlofnodwr adnabod yr unigolyn sy'n llofnodi'r datganiad yn adran 9 yn hytrach na'r plentyn.

Mae'r ffurflen gais yn gofyn i'r adlofnodwr nodi eu rhif pasbort Prydeinig cyfredol (derbynnir rhifau pasbort Iwerddon hefyd). Bydd hyn yn galluogi'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i gadarnhau pwy ydyn nhw.

Dylech roi'r canlynol i'r adlofnodwr:

  • eich ffurflen gais wedi'i chwblhau (gyda llofnod a dyddiad yn adran 9)
  • lluniau
  • dogfennau
  • ffi
  • amlen

Y ffordd hynny gallant selio'r cais ar ôl llenwi adran 10.

Pan fydd rhaid i chi ddefnyddio adlofnodwr, mae’n bosib y bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gysylltu â nhw. Gwnewch yn siŵr y byddant ar gael ac nid ydynt ar wyliau. Bydd eich cais yn cael ei oedi os fyddant i ffwrdd.

Ardystio eich lluniau

Dylai eich adlofnodwr hefyd ardystio un o'ch lluniau os yw'r cais ar gyfer:

  • pasbort cyntaf
  • pasbort newydd yn lle un arall
  • adnewyddu pasbort a'ch bod yn edrych yn wahanol iawn i'r llun yn eich pasbort diweddaraf

Gwneir hyn drwy ysgrifennu'r canlynol ar gefn y llun:

  • 'Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Mr, Mrs, Miss, Ms neu deitl arall ac yna eich enw llawn]'

Yna, rhaid iddynt lofnodi a dyddio'r datganiad. Nid yw dim ond llofnodi a dyddio'r llun yn ddigon.

Pwy all fod yn adlofnodwr i chi

Dylai eich adlofnodwr fod:

  • yn eich adnabod ers dwy flynedd o leiaf
  • yn byw yn y DU

Ni ddylai eich adlofnodwr fod:

  • yn perthyn i chi drwy enedigaeth neu briodas
  • mewn perthynas bersonol â chi
  • yn byw yn yr un cyfeiriad a chi
  • yn gweithio i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau

Ni fydd galwedigaeth eich adlofnodwr yn pennu p’un ai fydd eich cais yn llwyddiannus ai peidio. Mae cyflwyno pasbort yn dibynnu ar ymgeisydd bodloni nifer o feini prawf. Felly, arweiniad yn unig yw’r rhestr o alwedigaethau isod ac nid rhestr drwyadl o alwedigaethau ydyw. Fodd bynnag, dylech geisio cael adlofnodwr sy’n unigolyn gydag enw da yn eich cymuned leol. Os nad ydych yn siŵr i bwy y dylech ofyn, gallwch ffonio Llinell Gyngor Pasbortau y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

  • cyfrifydd
  • peilot awyrennau
  • clerc erthyglog cwmni cyfyngedig
  • asiant aswiriant o gwmni cydnabyddedig
  • swyddog banc/cymdeithas adeiladu
  • bargyfreithiwr
  • cadeirydd/cyfarwyddwr cwmni cyfyngedig
  • ciropodydd
  • comisiynydd llwon
  • cynghorydd (lleol neu sirol)
  • gwas sifil (parhaol)
  • deintydd
  • cyfarwyddwr/rheolwr elusen wedi'i chofrestru at ddibenion TAW
  • cyfarwyddwr/rheolwr/swyddog personél cwmni wedi'i gofrestru at ddibenion TAW
  • peiriannydd (gyda chymwysterau proffesiynol)
  • cyfryngwr gwasanaethau ariannol (ee brocer stoc neu frocer yswiriant)
  • swyddog yn y gwasanaeth tân
  • trefnydd angladdau
  • asiant yswiriant (amser llawn) mewn cwmni cydnabyddedig
  • newyddiadurwr
  • Ynad Heddwch
  • ysgrifennydd cyfreithiol (aelodau a chymrodyr Sefydliad yr Ysgrifenyddion Cyfreithiol)
  • seiliad trwydded tŷ tafarn
  • swyddog llywodraeth leol
  • rheolwr/swyddog personél (cwmni cyfyngedig)
  • aelod, cydymaith neu gymrawd corff proffesiynol
  • Aelod Seneddol
  • swyddog yn y Llynges Fasnachol
  • gweinidog crefydd cydnabyddedig (gan gynnwys Gwyddoniaeth Cristnogol)
  • nyrs (RGN ac RMN)
  • swyddog o'r lluoedd arfog (swyddog presennol neu wedi ymddeol)
  • optegydd
  • person ag anrhydedd (OBE neu MBE, er enghraifft)
  • fferyllydd
  • ffotograffydd (proffesiynol)
  • heddwas
  • swyddog Swyddfa'r Post
  • llywydd/ysgrifennydd sefydliad cydnabyddedig
  • swyddog Byddin yr Iachawdwriaeth
  • gweithiwr cymdeithasol
  • twrnai
  • syrfëwr
  • athro, darlithydd
  • swyddog undeb llafur
  • asiant teithio (cymwys
  • prisiwr neu arwerthwr (cymrodyr ac aelodau cysylltiol o'r gymdeithas gorfforedig)
  • Swyddogion Gwarant a Phrif Is-swyddogion

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU