Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn cynnig gwasanaethau a chyfleusterau i gwsmeriaid anabl neu gwsmeriaid ag anghenion penodol. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cymorth gyda'r broses ymgeisio, lluniau pasbort a mynd i gyfweliadau, ac maent am ddim heblaw am y costau ffôn.
Mae swyddfeydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar gael i gwsmeriaid drwy apwyntiad yn unig. Gallwch drefnu apwyntiad drwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000. Os oes gennych unrhyw anghenion penodol neu gwestiynau am fynediad, rhowch wybod i'r staff pan fyddwch yn trefnu apwyntiad.
Ffôn testun a Text Relay
Mae gan ganolfan alw genedlaethol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau a'r holl Swyddfeydd Pasbortau Rhanbarthol system ffôn testun, gyda staff wedi'u hyfforddi i ateb galwadau. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid a chanddynt offer ffôn testun.
Y rhif ffôn testun cenedlaethol yw 0300 222 0222. Gallwch ddefnyddio'r rhif hwn i drefnu apwyntiad gyda Swyddfa Basbort Ranbarthol ac ar gyfer ymholiadau cyffredinol. Codir y gyfradd genedlaethol ar alwadau.
Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd wedi'i gofrestru â Text Relay, y gwasanaeth ffôn gan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol i Bobl Fyddar a BT. Mae Text Relay ar gael ar 18001 0300 222 0000 drwy ddefnyddio offer ffôn testun arbennig.
Cyfieithwyr Iaith Arwyddion
Mae gan bob Swyddfa Basbort Ranbarthol staff wedi'u hyfforddi ym maes iaith arwyddion. Fe allant hwy eich helpu i lenwi'r ffurflen gais ac fe fyddant yn gallu ateb unrhyw gwestiynau. Os oes arnoch angen cyfieithydd iaith arwyddion, dylech roi gwybod i'r staff pan fyddwch yn trefnu eich apwyntiad.
Dolenni sain ac ystafelloedd tawel
Ceir sgriniau a dolenni sain yn swyddfeydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Bydd aelod o staff yn gallu dweud wrthych pa gownteri sydd â'r cyfleusterau hyn.
Os ydych yn ei chael yn haws clywed heb sŵn cefndir, gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ddarparu ystafell dawel lle gall y staff siarad â chi. Os hoffech gael mynd i ystafell dawel dylech ofyn wrth drefnu apwyntiad.
Mae'r wefan hon yn bodloni safonau'r llywodraeth o safbwynt hygyrchedd ac mae'n addas i'w defnyddio â darllenydd sgrin.
Cael y llyfryn canllawiau mewn fformat arall
Mae'r llyfryn canllawiau sy'n help i lenwi'r ffurflen gais ar gael yn y fformatau canlynol:
Cysylltwch â Llinell Gymorth 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 os hoffech gael y llyfryn canllawiau yn un o'r fformatau hyn.
Gwneud cais dros y ffôn
Os hoffech lenwi'r ffurflen gais dros y ffôn, ffoniwch wasanaeth llenwi ffurflenni'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0800 138 8808.
Bydd aelod o staff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n llenwi'r ffurflen gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwch. Yna, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n ei phostio atoch er mwyn i chi wneud yn siŵr ei bod yn gywir, cyn ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r lluniau, y tâl a'r dogfennau perthnasol.
Gwneud cais ar-lein
Os byddai'r well gennych lenwi'r ffurflen gais ar-lein, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein i wneud hynny. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu'r wybodaeth a ddarparwch ar ffurflen bapur. Yna, bydd yn postio'r ffurflen a argraffwyd atoch i chi allu gwneud yn siŵr ei bod yn gywir, a'i llofnodi a'i dychwelyd gyda'r lluniau, y tâl a'r dogfennau perthnasol.
Sticeri pasbort braille
Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau roi sticer Braille â'r gair 'Pasbort' ar eich pasbort newydd i ddangos beth ydyw. Gellir gofyn am hyn yn adran un y ffurflen gais am basbort.
Os hoffech gael sticer ar gyfer eich pasbort presennol, dylech gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eich Swyddfa Basbort Ranbarthol agosaf. Bydd angen i chi anfon eich pasbort gyda llythyr esboniadol atynt.
Mae holl swyddfeydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn cynnwys mynediad i gadeiriau olwyn. Mae gan rai doiledau i gwsmeriaid anabl. Yn y rheini sydd heb doiledau i bobl anabl, bydd staff y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn gallu mynd â chi i doiled addas yn yr adeilad.
Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych yn ei helpu anabledd sy'n golygu na allwch chi (neu na allan nhw) lofnodi'r ffurflen, ffoniwch Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000.
Os na all eich plentyn lofnodi'r ffurflen
Os ydych yn gwneud cais ar gyfer plentyn rhwng 12 a 15 oed nad yw'n gallu llofnodi adran chwech o'r ffurflen, dylech wneud y canlynol:
Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n ardystio'r pasbort er mwyn iddo ddweud nad oes angen llofnod y deiliad arno.
Os oes gennych anabledd corfforol neu feddyliol sy'n golygu na allwch fodloni gofynion y llun pasbort, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus