Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae pob pasbort a gyhoeddir yn y DU bellach yn rhai 'biometrig'. Ystyr manylion biometrig yw'r pethau hynny sy'n unigryw i chi - fel eich ôl eich bys, iris eich llygad, a nodweddion eich wyneb.
Mae'r sglodyn sydd y tu mewn i'r pasbort yn cynnwys gwybodaeth am wyneb y deiliad - megis y pellter rhwng ei lygaid, ei drwyn, ei geg a'i glustiau. Caiff y manylion hyn eu cymryd o'r llun pasbort yr ydych yn ei ddarparu. Yna gellir eu defnyddio i adnabod deiliad y pasbort. Mae'r sglodyn hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a gaiff ei hargraffu ar dudalen manylion personol eich pasbort.
Mae gan y sglodyn sy'n cynnwys y manylion biometrig a'r manylion personol antena sy'n golygu y gellir ei ddarllen yn electronig. Gall swyddogion rheoli ffiniau ddefnyddio profion biometrig, yn enwedig wrth ‘gatiau eBasbort’ (gatiau rheoli pasbort awtomataidd). Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd eu defnyddio er mwyn gwirio'r llun ar geisiadau adnewyddu pasbortau yn erbyn y lluniau a gofnodwyd.
Caiff y data ar y sglodyn ei ddiogelu yn y tair ffordd ganlynol:
Dim ond ychydig centimetrau oddi wrth ddarllenydd sglodion y gellir darllen y sglodion - felly ni ellir eu darllen yn ddamweiniol.
Mae gan bob un o Swyddfeydd Rhanbarthol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau Ddarllenydd Pasbort Biometrig. Gallwch ddefnyddio hwn i weld yr wybodaeth bersonol a gaiff ei chadw ar y sglodyn yn eich pasbort. Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei gweld yr un fath â thudalen manylion personol y pasbort.
Mae hwn yn gyfleuster hunanwasanaeth am ddim yn ardal gyhoeddus bob Swyddfa Ranbarthol y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Nid oes angen i chi newid eich pasbort presennol am un biometrig - gallwch ddefnyddio eich pasbort presennol nes bydd yn dod i ben. Mae'r hen basbortau nad ydynt yn rhai biometrig yn dal yn ddilys i'w defnyddio.
Os ydych am adnewyddu eich pasbort gallwch wneud hynny unrhyw adeg. Os oes unrhyw amser ar ôl ar eich hen basbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ychwanegu at y pasbort newydd. Ni ellir ychwanegu mwy na naw mis.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ynghylch adnewyddu eich pasbort yn yr adrannau canlynol:
Y tro nesaf y byddwch yn adnewyddu eich pasbort, rhoddir un biometrig i chi.
Cewch ddefnyddio eich pasbort Prydeinig nad yw'n un biometrig i deithio i UDA.
Os yw modd i beiriant ddarllen eich pasbort Prydeinig, gallwch deithio i UDA heb fisa ar gyfer rhai mathau o deithiau. Mae hwn dan Raglen Ildio Fisa UDA (US VWP).
Os na all peiriant ddarllen eich pasbort, bydd angen i chi wneud cais am fisa os byddwch yn ymweld ag UDA.
Mae ffordd hawdd o weld a all peiriant ddarllen eich pasbort. Os gall, ar waelod y dudalen manylion personol bydd:
Nodwch fod gofynion eraill yn berthnasol i'r US VWP. Dylech ddarllen am y rhain ac, os ydych yn gymwys, dylech wneud cais i gael eich awdurdodi i deithio cyn i chi drefnu eich taith. I gael rhagor o wybodaeth ewch ar wefannau Adran Diogelwch y Famwlad UDA neu'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus