Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Peidiwch â'i gadael tan y funud olaf cyn adnewyddu eich pasbort. Gallwch drosglwyddo hyd at naw mis o ddilysrwydd o'ch hen basbort i'ch pasbort newydd. Mynnwch wybod sut i adnewyddu eich pasbort.
Gwnewch gais i adnewyddu eich pasbort os oes naw mis neu lai cyn iddo ddod i ben:
Ni ellir rhoi ad-daliad am yr amser sy'n weddill ar basbort heb ei ddefnyddio.
Yr amser y mae'n ei gymryd: canllaw ar gyfer ceisiadau arferol
Mae'r amser y mae'n ei gymryd i brosesu cais am basbort yn dibynnu ar y canlynol:
Bydd defnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon yn:
Bydd defnyddio'r gwasanaeth post yn:
Yn achos unigolion sy'n gwneud cais am y tro cyntaf:
Os bydd angen pasbort arnoch o fewn pythefnos dylech ddefnyddio gwasanaeth un wythnos Llwybr Carlam neu wasanaeth un diwrnod Premiwm yr IPS. Dim ond drwy apwyntiad y mae'r gwasanaethau hyn ar gael - ffoniwch y Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000.
Nid yw'r gwasanaeth Premiwm ar gael ar gyfer estyniadau i basbort. Efallai na fyddwch yn gallu uwchraddio o wasanaeth arferol i wasanaeth premiwm neu lwybr carlam yn ystod yr haf. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i'r IPS gymryd mwy o amser i edrych ar eich cais, gan gynnwys cadarnhau manylion a roddwyd gennych a chysylltu â'ch cyd-lofnodwr.
Gallwch wneud cais i adnewyddu eich pasbort os oes gennych eich pasbort diwethaf o hyd a bod y canlynol yn wir:
Ni allwch adnewyddu eich pasbort os bydd y canlynol yn wir:
Yn yr achos hwn bydd angen i chi wneud cais am basbort cyntaf i oedolyn.
Os ydych yn newid eich enw
Os ydych am i'ch pasbort newydd ddangos enw gwahanol i'ch pasbort cyfredol, gweler 'Newid enwau a manylion personol ar basbortau'.
Pobl nad ydynt yn byw yn y DU a'r rhai y tu allan i'r DU dros dro
Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch wneud cais yn bersonol i adnewyddu eich pasbort tra byddwch yn ymweld â'r DU.
Ni all yr IPS dderbyn ceisiadau o dramor. Os hoffech adnewyddu eich Pasbort Prydeinig tra byddwch y tu allan i'r DU, bydd angen i chi gysylltu â'ch llysgenhadaeth, eich uchel gomisiwn neu'ch swyddfa is-gennad leol.
Os cyhoeddodd yr IPS eich pasbort diwethaf am gyfnod cyfyngedig (blwyddyn neu lai), dylech ffonio'r Llinell Gyngor Pasbortau ar 0300 222 0000 cyn gwneud cais.
Ni fyddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth un diwrnod Premiwm, gan nad yw ar gael ar gyfer estyniadau i basbort.
I gael ffurflen gais, cadarnhau'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y mae angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o rif cod bar y cais cyn ei anfon i'r IPS. Bydd angen y rhif hwn arnoch os byddwch am wneud ymholiad ynglŷn â'ch cais neu ddilyn ei hynt.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus