Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau un ffurflen safonol ar gyfer pob math o geisiadau unigol am basbortau, gan gynnwys adnewyddu pasbortau. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai'r fersiwn bapur ynteu'r fersiwn ar-lein y byddwch yn ei llenwi. Yma, cewch wybod sut mae cael y ffurflen a faint yw'r ffi a pha ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu hanfon.
Cost adnewyddu pasbort 32 tudalen deg-mlynedd oedolyn yw:
Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny, cewch eich pasbort am ddim, ond bydd angen i chi dalu'r ffi ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth Trac Cyflym neu'r gwasanaeth Premiwm os byddwch yn eu defnyddio.
Gallwch gael gwybodaeth fanwl yn yr adran 'Ffioedd pasbort, faint o amser mae'n gymryd a cheisiadau pasbort brys'.
Mae pedair ffordd y gallwch gael y ffurflen gais. Gallwch:
Fel arfer, dim ond chi fydd angen ei llofnodi os ydych yn gwneud cais i adnewyddu eich pasbort.
Fodd bynnag, os ydych yn edrych yn wahanol iawn i'r llun yn eich pasbort cyfredol neu'ch pasbort diwethaf, dylech gael rhywun i adlofnodi eich ffurflen yn adran 10.
Mae'n rhaid i'r unigolyn y byddwch yn gofyn iddo adlofnodi fod yn rhywun sydd wedi eich adnabod am o leiaf dwy flynedd. Mae'n rhaid iddynt:
Dylent fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fel arall fod ag enw da yn y gymuned. Fe welwch restr o broffesiynau addas drwy ddilyn y ddolen isod i 'Pwy gaiff adlofnodi eich cais?'
Dylech ofyn i'r un person ardystio un o'ch lluniau. Maent yn gwneud hyn drwy ysgrifennu ar gefn y llun:
Rhaid iddynt hefyd lofnodi a dyddio'r datganiad.
Ar wahân i'r ffurflen gais wedi'i llenwi a dau lun diweddar union yr un fath ohonoch, yr unig ddogfennau ategol y mae angen i chi eu hanfon yw eich pasbort cyfredol neu'ch pasbort diwethaf.
Beth fydd yn digwydd i'ch hen basbort?
Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn diddymu eich hen basbort pan roddir un newydd i chi. Ni chewch ddefnyddio'r hen basbort, ond bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ddychwelyd atoch oni fydd wedi cael ei ddifetha neu ei newid. Yn yr achosion hyn, caiff ei ddinistrio ac ni chaiff ei ddychwelyd atoch.
Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn eich cynghori i lungopïo'r holl dudalennau perthnasol sy'n dangos stampiau a fisas. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os bydd angen rhai newydd arnoch.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus