Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch chi’n adnewyddu neu wneud cais am basbort y tu allan i’r DU, bydd eich cais yn cael ei brosesu dramor. Peidiwch ag anfon eich cais i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn y DU. Yma, cewch wybod sut i adnewyddu neu wneud cais am basbort o dramor neu tra byddwch yn ymweld â'r DU.
Dylid anfon ceisiadau o dramor i’r ganolfan brosesu pasbortau ranbarthol berthnasol, nid i swyddfa basbortau yn y DU.
Gweler gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael cyngor ar wledydd penodol
Nid yw’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn y DU yn prosesu ceisiadau am basbort sydd wedi cael eu hanfon o dramor. Os ydych y tu allan i’r DU, bydd eich cais am basbort yn cael ei brosesu dramor gan ganolfan brosesu pasbortau ranbarthol. Mae pob canolfan brosesu ranbarthol yn prosesu ceisiadau o wledydd penodol.
Cael gwybod i ble y dylech anfon eich cais am basbort
Gweler gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael cyngor penodol am y wlad rydych ynddi ynghylch sut i adnewyddu neu wneud cais am eich pasbort.
Dewiswch y wlad rydych ynddi o’r rhestr A i Y ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i gael:
Fel arfer bydd hi'n cymryd tua phedair wythnos i gyhoeddi pasbort dramor, ond bydd ceisiadau am basbort cyntaf oedolyn yn cymryd mwy o amser. Am geisiadau am basbort cyntaf oedolyn, efallai y gofynnir i chi gael cyfweliad.
Ni ddylech wneud dim cynlluniau teithio nes i chi gael eich pasbort newydd. Bydd angen i chi aros yn yr un wlad ag y gwnaethoch y cais i gasglu eich pasbort newydd. Os byddwch yn teithio ar basbort cenedl arall neu ddogfen argyfwng, fydd dim modd i chi gasglu eich pasbort Prydeinig newydd mewn gwlad arall.
Os oes angen teithio ar frys arnoch
Os oes angen teithio ar frys arnoch neu mae eich pasbort ar goll neu wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â’ch swyddfa Llysgenhadaeth Prydain, yr Uwch Gomisiwn neu’r Is-genhadaeth leol. Mae’n bosibl y gallant eich helpu gyda dogfennau teithio brys. Does dim modd i’r canolfannau prosesu pasbortau rhanbarthol brosesu ceisiadau brys.
Os nad ydych chi'n byw yn y DU, gallwch adnewyddu neu wneud cais am eich pasbort Prydeinig tra byddwch yn ymweld â’r DU.
Os byddwch chi’n aros yn y DU am dair wythnos neu lai, efallai y byddwch chi’n gallu adnewyddu eich pasbort drwy ddefnyddio gwasanaeth ceisiadau brys. Rhaid gwneud hyn yn bersonol. I ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, bydd angen i chi:
Gweler ‘Ceisiadau brys am basbort’ i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, gan gynnwys ffioedd a sut i drefnu apwyntiad.
Os ydych yn y DU am fwy na dair wythnos, gallwch hefyd wneud cais i adnewyddu eich pasbort gan ddefnyddio’r broses adnewyddu safonol. Mae’r broses hon fel arfer yn cymryd tua thair wythnos ond does dim modd gwarantu amserau dychwelyd. Mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argymell eich bod yn defnyddio gwasanaeth Gwirio ac Anfon Swyddfa'r Post. Fel arfer caiff ceisiadau a anfonir gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn eu prosesu’n gynt na cheisiadau safonol drwy’r post.
Dilynwch y dolenni isod i gael gwybodaeth am y broses adnewyddu safonol ar gyfer pasbortau i oedolion a phlant.
Dim ond i gyfeiriad yn y DU y gellir danfon eich pasbort Prydeinig - peidiwch â threfnu i fynd i deithio cyn iddo gyrraedd
Os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a byth wedi cael pasbort Prydeinig eich hun, ni allwch wneud cais gan ddefnyddio gwasanaeth brys. Am eich pasbort oedolyn cyntaf, rhaid i chi wneud cais gan ddefnyddio’r broses gwneud cais safonol.
Bydd angen i chi fynd i gyfweliad a dylech ganiatáu o leiaf chwe wythnos ar gyfer y broses gwneud cais. Fodd bynnag, efallai y bydd angen wirio rhai o’r dogfennau ategol ar gyfer eich cais. Gall y broses gwneud cais gymryd mwy o amser os mae’r dogfennau hyn o dramor.
Os ydych o dan 16 oed, gallwch wneud cais am eich basbort plentyn cyntaf gan ddefnyddio’r gwasanaeth brys ‘wythnos Trac Cyflym’.
Dim ond i gyfeiriad yn y DU y gellir danfon eich pasbort Prydeinig. Peidiwch â threfnu i fynd i deithio cyn i'ch pasbort newydd gyrraedd.
Ceir rheolau caeth ynghylch pwy all gael pasbort Prydeinig - 'Pwy sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig?'.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus