Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y ffurflen gais, y ffi a'r dogfennau ategol ar gyfer pasbort oedolyn cyntaf

Mae gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau un ffurflen safonol ar gyfer pob math o gais unigol am basbort. Bydd cyfarwyddiadau llawn gyda'r ffurflen, p'un ai a fyddwch yn llenwi'r fersiwn bapur neu'r fersiwn ar-lein. Yma, cewch wybod sut mae cael y ffurflen a faint yw'r ffi a pha ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu hanfon i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.

Cost pasbort oedolyn cyntaf

Mae pasbort oedolyn deg-mlynedd 32-tudalen safonol yn costio £72.50. Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929, neu cyn hynny cewch eich pasbort am ddim. Gallwch gael gwybodaeth fanylach yn yr adran 'Ffioedd pasbort, faint o amser mae'n ei gymryd a cheisiadau brys.'

Y ffurflen gais

Sut i gael y ffurflen gais

Mae pedair ffordd y gallwch gael y ffurflen gais. Gallwch:

  • ei lenwi ar-lein, a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn argraffu'r ffurflen wedi'i chwblhau ac yn ei hanfon atoch er mwyn i chi ei llofnodi a'i dychwelyd gyda'r dogfennau ategol
  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon Pasbortau
  • gofyn am un ar-lein a bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd
  • ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr ar 0300 222 0000 a gofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau anfon un atoch drwy'r post - gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i gyrraedd

Pwy ddylai ei llofnodi

Mae angen i chi lofnodi'r ffurflen eich hun a dylech hefyd gael rhywun i'w hadlofnodi yn adran 10.

Dylai'r unigolyn y byddwch yn gofyn iddo adlofnodi fod yn berson rydych chi wedi ei adnabod yn bersonol am o leiaf dwy flynedd. Mae'n ofynnol hefyd:

  • eu bod dros 18
  • bod ganddynt basbort Prydeinig neu Wyddelig cyfredol
  • eu bod yn fodlon ysgrifennu eu rhif pasbort ar y ffurflen

Dylent fod yn gweithio mewn proffesiwn cydnabyddedig neu fel arall fod ag enw da yn y gymuned. Am restr o broffesiynau addas, gweler y ddolen 'Pwy gaiff adlofnodi'ch cais?'

Dylech ofyn i'r un person ardystio un o'ch lluniau. Gwneir hyn drwy ysgrifennu'r canlynol ar gefn y llun:

  • 'Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i [Miss, Mr, Mrs, Ms neu deitl arall a'ch enw llawn]'

Yna, rhaid iddynt lofnodi a dyddio'r datganiad.

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am gopïau o dystysgrifau geni, mabwysiadu neu briodas

Dogfennau ategol

Mae angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld y dogfennau gwreiddiol i brofi eich bod yn Brydeinig. Nid yw'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn llungopïau o ddogfennau.

Fel arfer, dim ond at ddibenion newid enw y mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn dogfennau wedi'u lamineiddio. Fodd bynnag, derbynnir dogfennau sydd wedi'u lamineiddio at ddibenion Braille ar gyfer pob math o gais.

Nid yw tystysgrifau geni yn cael eu hystyried yn brawf pendant o bwy ydych chi. Hyd yn oed os cawsoch eich geni yn y DU, fe allai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ofyn am gael gweld rhagor o ddogfennau.

Os yw'ch enw wedi newid neu ar fin newid

Os ydych wedi newid eich enw, neu ar fin newid eich enw, efallai y bydd angen i chi ddarparu dogfennau ychwanegol. Gweler ‘Os yw’ch enw wedi newid neu ar fin newid – pasbort oedolyn cyntaf’ am ragor o wybodaeth.

Os cawsoch eich geni neu'ch mabwysiadu yn y DU

Os cawsoch eich geni yn y DU cyn 1983, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich tystysgrif geni neu'ch tystysgrif mabwysiadu.
Os cawsoch eich geni yn y DU ar 1 Ionawr 1983 neu ar ôl hynny, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich tystysgrif geni neu'ch tystysgrif mabwysiadu gyflawn. Mae’n rhaid i hyn ddangos manylion eich rhieni. Bydd angen iddynt hefyd weld un o'r canlynol:

  • tystysgrif geni DU eich mam, ei thystysgrif cofrestru neu ei thystysgrif brodori gan y Swyddfa Gartref, neu ei phasbort a oedd yn ddilys adeg eich geni
  • tystysgrif geni DU eich tad, ei dystysgrif cofrestru neu ei dystysgrif brodori gan y Swyddfa Gartref, neu ei basbort a oedd yn ddilys adeg eich geni a thystysgrif priodas eich rhieni

Fe allai'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ofyn am ragor o ddogfennau'n ymwneud â'ch rhieni.

Os cawsoch eich geni oddi allan i'r DU a bod gennych dystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori gan y Swyddfa Gartref

Os cawsoch eich geni oddi allan i’r DU a bod gennych dystysgrif cofrestru neu dystysgrif brodori, mae angen y canlynol ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:

  • eich tystysgrif cofrestru neu'ch tystysgrif brodori
  • y pasbort a ddefnyddiwyd gennych i ddod i'r DU

Os cawsoch eich geni cyn 1983 a'ch bod yn ddinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain

Os cawsoch eich geni cyn 1983 a’ch bod yn ddinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain, bydd angen y canlynol ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:

  • eich tystysgrif geni
  • eich pasbort cyfredol

Os cawsoch eich geni cyn 1983 a ganwyd eich tad yn y DU

Os cawsoch eich geni cyn 1983 a ganwyd eich tad yn y DU, bydd angen y canlynol ar y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau:

  • eich tystysgrif geni gyflawn yn dangos manylion eich rhieni
  • tystysgrif geni eich tad*
  • tystysgrif priodas eich rhieni*
  • y pasbort a ddefnyddiwyd gennych i ddod i'r DU

Nodwch*: os oes gennych dystysgrif geni a roddwyd gan Is-genhadaeth Brydeinig neu uwch gomisiwn, gallwch anfon honno yn hytrach na thystysgrifau geni neu briodas eich rhieni.

Os cawsoch eich geni cyn 1983 chewch chi ddim hawlio cenedligrwydd Prydeinig yn awtomatig drwy eich mam.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU