Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bwysig bod yr enw ar eich pasbort yn gywir gennym. Yma, cewch wybod pa ddogfennau ychwanegol y mae eu hangen arnoch i anfon gyda'ch cais os ydych wedi newid eich enw neu ar fin gwneud hynny.
Os yw’ch enw wedi newid ac nad yw’n cyfateb i’ch tystysgrif geni, eich tystysgrif brodori, na’ch tystysgrif cofrestru, bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch newid enw. Bydd yn rhaid i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld dogfennau sy'n dangos y dyddiad a'r rheswm dros newid eich enw.
Rhaid i chi anfon dogfennau gwreiddiol nid copïau. Bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn dogfennau wedi'u lamineiddio fel tystiolaeth o newid enw.
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch yma, gallwch ffonio Llinell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000. Mae’r llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus.
Newid enw o ganlyniad i briodas neu bartneriaeth sifil
O ran pobl briod, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrifau priodas.
O ran partneriaid sifil, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld tystysgrifau partneriaeth sifil.
Newid yn ôl i'ch enw cyn priodi neu'ch enw dibriod
Os ydych wedi newid eich enw yn ôl i'ch enw cyn priodi (dibriod), bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld:
Ym mhob achos arall, bydd angen i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau weld eich gweithred newid enw. Os ydych chi wedi newid eich enw fwy nag unwaith bydd angen i chi anfon tystiolaeth o bob achos o newid enw rydych wedi'i wneud.
Ystyriwch yn ofalus os ydych yn gwneud cais am basbort i'w ddefnyddio ar ôl i chi briodi, efallai ar gyfer eich mis mêl, sy'n nodi eich enw priod. Gallai fod yn syniad gwell cael pasbort yn gynharach yn eich enw dibriod a'i newid yn nes ymlaen.
Y rheswm am hyn yw y dylai'r enw ar eich pasbort gyfateb i'r enw rydych yn trefnu eich gwyliau. Os nad yw'r enw ar y pasbort yn cyfateb i'r enw ar yr archeb:
Efallai mai hwn fydd yr achos os ydych yn cario’ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil gyda chi. Dylech bob tro holi eich asiant teithio neu is-genhadaeth y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi.
Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau baratoi pasbort cyntaf yn eich enw priod unrhyw bryd hyd at dri mis cyn y briodas. Ond bydd y pasbort wedi'i 'ôl-ddyddio'. Mae hyn yn golygu na allwch ei ddefnyddio cyn diwrnod y seremoni. Ni fydd rhai gwledydd yn rhoi fisas ar gyfer pasbortau sydd wedi'u hôl-ddyddio. Dylech holi is-genhadaeth y wlad dan sylw.
Os byddwch yn cael pasbort yn eich enw newydd cyn y seremoni, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am beth sydd angen i chi ei wneud yn:
Gallwch gael y rhain:
Mae angen i'r ffurflen gael ei chwblhau'n rhannol gennych chi ac yn rhannol gan y person a fydd yn cynnal y seremoni. Mae'r daflen yn egluro hyn yn fwy manwl.
Yna dylech wneud cais am eich pasbort yn y ffordd arferol. Ond bydd angen i chi ddarparu un ddogfen ychwanegol: y ffurflen (PD2) 'Pasbortau ar gyfer Pobl sydd Newydd Briodi a Phartneriaid Sifil' wedi'i llenwi.
I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.
Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus