Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cymhwyso ar gyfer pasbort am ddim

Os cawsoch eich geni ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny a’ch bod yn ddinesydd Prydeinig, fe allech fod yn gymwys i gael pasbort am ddim. Bydd angen pasbort deng mlynedd llawn arnoch os oes arnoch eisiau teithio dramor, hyd yn oed os yw hynny am ddiwrnod. Cewch wybod yma sut mae gwneud cais.

Cael pasbort am ddim - manylion

Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig a aned ar 2 Medi 1929 neu cyn hynny gallwch wneud cais am basbort am ddim. Gallwch gael pasbort deng mlynedd gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Bydd y pasbort hwn am ddim p'un ai a ydych yn adnewyddu eich pasbort presennol ynteu'n cael pasbort am y tro cyntaf.

Cewch wneud cais am ad-daliad o’r ffi pasbort safonol os mae’r ddau bwynt canlynol yn gymwys, eich bod:

  • wedi gwneud cais am basbort ers 19 Mai 2004
  • yn gymwys i gael pasbort am ddim

Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ateb unrhyw gwestiynau ynghylch cael eich pasbort am ddim neu wneud cais am ad-daliad ar y Llinell Gymorth Pasbortau - 0300 222 0000. Mae’r llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth lawn am bob agwedd ar basbortau a sut mae gwneud cais yn yr adran teithio a thrafnidiaeth.

Sut mae gwneud cais: y pethau pwysig

Gallwch wneud cais mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, mae angen ffurflen gais arnoch. Gallwch naill ai lenwi'r ffurflen ar-lein neu gael copi papur o'r ffurflen drwy wneud y canlynol:

  • gofyn i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar-lein, ac yna byddant yn anfon copi atoch
  • ei chasglu o gangen Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon
  • ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 i ofyn am un

Os ydych chi'n byw y tu allan i'r DU dim ond wyneb-yn-wyneb y cewch wneud cais am basbort am ddim pan fyddwch yn ymweld â'r DU. Neu gallwch gael un drwy eich Is-genhadaeth, eich Uchel Gomisiwn neu eich Llysgenhadaeth Brydeinig leol. Ni allwch wneud cais ar-lein na thrwy'r post.

Cais ar-lein

Gallwch lenwi cais am basbort ar-lein. Ar ôl i chi lenwi a chyflwyno'r ffurflen (sy'n cynnwys cyfarwyddiadau llawn), bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei dychwelyd atoch i'w llofnodi a'i dyddio. Bydd angen i chi wedyn amgáu'r lluniau a'r dogfennau priodol, cyn ei dychwelyd i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau i'w phrosesu.

Faint o amser mae'n ei gymryd i gael pasbort?

Gallwch gael eich pasbort mewn gwahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar ba mor gyflym y mae arnoch ei angen:

  • Ceisiadau safonol: ar gyfer gwasanaeth safonol drwy'r post mae'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n argymell i chi aros tair wythnos o leiaf i'ch pasbort gael ei adnewyddu.
  • Ceisiadau brys: Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau brosesu ceisiadau brys yn gynt ac mae'n cynnig gwasanaeth prosesu mewn wythnos a gwasanaeth prosesu mewn diwrnod yn ei Swyddfeydd Pasbortau Rhanbarthol

Teithio gyda'ch pasbort

Pan fyddwch chi'n teithio gyda'ch pasbort, mae'n syniad da:

  • nodi rhif eich pasbort, ei fan cyhoeddi, ei ddyddiad cyhoeddi a'i ddyddiad dod i ben – a gwneud yn siŵr eich bod yn cadw'r nodyn mewn man diogel
  • cadw llungopi o dudalen manylion eich pasbort ar wahan i'ch pasbort
  • gadael llungopi gyda ffrind neu berthynas gartref
  • ysgrifennu manylion llawn eich perthynas agosaf yn eich pasbort
  • cadw'ch pasbort mewn man diogel pan fyddwch chi dramor

Os digwydd i chi golli'ch pasbort neu os caiff ei ddwyn, cysylltwch â'r Is-genhadaeth, yr Uchel Gomisiwn neu'r Llysgenhadaeth Brydeinig ar unwaith.

Yn yr adran hon...

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU