Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cerdyn Trên i Bobl Hŷn

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, gallwch arbed traean ar y rhan fwyaf o docynnau trên safonol a dosbarth cyntaf ledled Prydain wrth brynu Cerdyn Trên i Bobl Hŷn. Mae hyn yn golygu bod teithio ar drên yn fwy fforddiadwy a hygyrch.

Beth yw’r Cerdyn Trên i Bobl Hŷn?

Mae'r Cerdyn Trên i Bobl Hŷn ar gael i bawb sy'n 60 oed a throsodd. Gallwch ei ddefnyddio ledled Cymru, Lloegr a'r Alban ac mae'n ddilys am 12 mis.

Bydd Cerdyn Trên i Bobl Hŷn yn arbed arian i chi ar y rhan fwyaf o docynnau – fel arfer, traean i ffwrdd ar y rhan fwyaf o docynnau safonol a dosbarth cyntaf.

Gall ymwelwyr i Brydain hefyd brynu Cerdyn Trên i Bobl Hŷn, cyn belled â'u bod yn 60 oed a throsodd.

Pryd mae'r consesiynau trenau'n berthnasol

Gellir defnyddio'r Cerdyn Trên i Bobl Hŷn ledled y wlad.

Gallwch hefyd gael disgownt ar rai mathau o docynnau a gynigir gan gwmnïau trên unigol, felly holwch yn lleol am fanylion.

Pryd gallwch chi deithio

Gallwch ddefnyddio'r Cerdyn Trên i Bobl Hŷn ledled Prydain unrhyw adeg. Yr unig gyfyngiad yw teithiau ar adegau prysur yn y bore yn ardal Llundain a De Ddwyrain Lloegr, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus). Mae'n well gwneud yn siŵr pan fyddwch yn prynu'r tocyn.

Prynu Cerdyn Trên i Bobl Hŷn

I brynu eich Cerdyn Trên i Bobl Hŷn, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch gael ffurflen o swyddfa docynnau eich gorsaf agosaf, neu gallwch lenwi'r ffurflen ar wefan y Cerdyn Trên i Bobl Hŷn.

Beth fydd ei angen arnoch

Os ydych chi'n ymgeisio am y tro cyntaf, bydd angen y canlynol arnoch:

  • ffurflen gais wedi'i llenwi
  • naill ai eich tystysgrif geni neu basport neu drwydded yrru i brofi eich oed
  • taliad

Os ydych chi'n adnewyddu eich Cerdyn Trên i Bobl Hŷn, bydd angen y canlynol arnoch:

  • ffurflen gais wedi'i llenwi
  • eich Cerdyn Trên presennol
  • taliad

Gallwch ddod o hyd i brisiau a manylion talu cyfredol y Cerdyn Trên ar wefan y Cerdyn Trên i Bobl Hŷn.

Lle i brynu neu adnewyddu eich Cerdyn Trên i Bobl Hŷn

Mae tair ffordd y gallwch brynu neu adnewyddu eich Cerdyn Trên i Bobl Hŷn.

Ar-lein

Gallwch brynu Cerdyn Trên ar-lein. Bydd angen i chi gofrestru fel defnyddiwr ar wefan y Cerdyn Trên i Bobl Hŷn y tro cyntaf. I wirio eich bod yn gymwys, sicrhewch fod gennych eich pasport neu'ch trwydded yrru wrth law.

Cwblhewch y broses o wneud cais ar-lein, ac wedi i chi dalu, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau. I dalu ar-lein, bydd angen cerdyn credyd arnoch.

Anfonir eich Cerdyn Trên i Bobl Hŷn o fewn tri diwrnod gwaith.

Galw draw yn bersonol

Gallwch brynu Cerdyn Trên i Bobl Hŷn o swyddfa docynnau â staff mewn gorsaf, neu gan un o drefnwyr teithiau trwyddedig National Rail.

Ewch â'ch ffurflen gais wedi'i llenwi, a phrawf o'ch oed os mai hwn yw eich cais cyntaf. Os mai adnewyddu eich Cerdyn Trên i Bobl Hŷn ydych chi, ewch â'ch ffurflen gais a'ch Cerdyn Trên presennol. Bydd gorsafoedd a threfnwyr yn derbyn arian parod, cardiau credyd a debyd, ac archebion post.

Dros y ffôn

Gallwch hefyd brynu neu adnewyddu Cerdyn Trên i Bobl Hŷn dros y ffôn. I ganfod eich cwmni trenau agosaf, ffoniwch linell Ymholiadau National Rail ar 08457 48 49 50. Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Dylech ganiatáu 14 diwrnod cyn eich taith i'ch Cerdyn Trên newydd eich cyrraedd.

Gair i gall

Cofiwch:

  • bydd angen i chi fynd â'ch Cerdyn Trên i Bobl Hŷn gyda chi i archebu eich tocyn a'i gadw gyda chi wrth deithio
  • er mwyn arbed arian wrth brynu tocynnau ar-lein, bydd angen i chi dicio'r blwch i nodi eich bod yn ddeilydd Cerdyn Trên i Bobl Hŷn
  • allwch chi ddim defnyddio eich Cerdyn Trên i Bobl Hŷn i brynu tocyn ar ôl mynd ar drên, heblaw os nad oedd modd prynu tocyn yn yr orsaf
  • at eich defnydd chi eich hun y mae'r Cerdyn Trên i Bobl Hŷn, ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw oedolion neu blant sydd gyda chi

Buddiannau eraill

O bryd i'w gilydd, bydd gwahanol gwmnïau trenau'n hysbysebu cynigion arbennig i ddalwyr Cerdyn Trên i Bobl Hŷn. Mae rhain yn cynnwys mynediad dau am bris un i atyniadau – amgueddfeydd, orielau, y theatr, tai bwyta, teithiau ar gwch – a chynigion arbennig ar lety a thai bwyta. Cymrwch gip ar wefan y Cerdyn Trên i Bobl Hŷn i gael gwybod am y buddiannau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU