Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Gofalwr - yr effaith ar fudd-daliadau a hawliadau eraill

Gall gwneud cais am Lwfans Gofalwr effeithio ar lefel rhai budd-daliadau a hawliadau eraill rydych chi, neu'r person rydych chi'n gofalu amdanynt, yn eu derbyn.

Eich budd-daliadau

Os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau eraill gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth sy’n cael ei dalu ar yr un gyfradd a Lwfans Gofalwr neu ar gyfradd uwch, efallai na fyddwch yn derbyn Lwfans Gofalwr ond yn derbyn yr hyn a elwir yn 'hawl waelodol'.

Rhoddir ystyriaeth lawn i Lwfans Gofalwr sy'n cael ei dalu wrth gyfrifo budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm a Chredyd Pensiwn.

Os ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr neu os oes gennych hawl waelodol iddo, byddwch yn gymwys i dderbyn y premiwm gofalwr gyda Chymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm sydd werth hyd at £32.60 yr wythnos.

Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor, bydd y cyngor lleol yn cynnwys swm ar gyfer y premiwm gofalwr pan fyddant yn cyfrifo faint o Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor y gallwch ei gael.

Gall gwneud cais am Lwfans Gofalwr hefyd gael effaith ar faint o Gredyd Pensiwn yr ydych yn ei dderbyn. Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, mae'r swm a ddefnyddir i gyfrifo faint yw eich hawliad yn cael ei gynyddu gan hyd at £32.60 yr wythnos.

Lwfans Gofalwr a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ar gyfer pob wythnos y byddwch yn derbyn Lwfans Gofalwr, fel arfer bydd cyfraniad Yswiriant Gwladol (YG) yn cael ei ychwanegu at eich cofnod YG hyd at flwyddyn dreth rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (oni bai eich bod yn ferch sydd wedi dewis i dalu cyfraniadau YG ar gyfradd is).

Fel arfer byddwch hefyd yn cael eich credydu gyda chyfraniad YG am unrhyw wythnos pan fydd gennych hawl i gael Lwfans Gofalwr ond nad yw'n cael ei dalu am eich bod hefyd yn cael Budd-dal Gwraig Weddw neu Fudd-daliadau Profedigaeth ar yr un gyfradd wythnosol neu ar gyfradd uwch.

Mae’n bosib bydd y cyfraniadau YG hyn yn eich helpu i fod yn gymwys i gael y gyfradd sylfaenol o rhai budd-daliadau neu hawliadau eraill yn y dyfodol.

Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol

Byddwch yn adeiladu rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn awtomatig am yr wythnosau mae Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu i chi. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i rhai cyfnodau cyn i’ch Lwfans Gofalwr ddecharu a dod i ben.

O fis Ebrill 2002 i fis Ebrill 2010, roeddech ond yn gallu adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol ar gyfer pob blwyddyn dreth gyflawn roeddech yn cael Lwfans Gofalwr.

Os nad ydych yn cael Lwfans Gofalwr ond eich bod yn cael budd-daliadau neu hawliadau eraill ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch, byddwch yn dal i adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Bydd y Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gofalu â’ch pensiwn

Os ydych yn ofalwr efallai y bydd gennych hawl i gael credydau a fydd yn diogelu eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.

Budd-daliadau'r sawl rydych yn gofalu amdanynt

Os ydych chi'n gwneud cais am Lwfans Gofalwr, gallai effeithio ar faint o fudd-dal y mae'r sawl rydych yn gofalu amdanynt yn ei dderbyn.

Gallai'r sawl rydych yn gofalu amdanynt golli'r premiwm anabledd difrifol yn eu budd-dal sy’n seiliedig ar incwm neu'r ychwanegiad am anabledd difrifol yn eu Credyd Pensiwn. Fodd bynnag, os mai dim ond hawl waelodol sydd gennych i Lwfans Gofalwr ac nad ydych yn ei dderbyn, ni fydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau'r sawl rydych yn gofalu amdanynt.

Rhoi gwybod i'r sawl rydych yn gofalu amdanynt eich bod yn gwneud cais

Oherwydd y gall eich cais am Lwfans Gofalwr effeithio ar fudd-daliadau'r sawl rydych yn gofalu amdanynt, gofynnir iddynt ysgrifennu ar eich ffurflen:

  • ei bod nhw’n gwybod eich bod yn gwneud cais am Lwfans Gofalwr
  • eich bod yn gofalu amdanynt am o leiaf 35 awr yr wythnos

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU