Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Gofalwr - cymhwyster

Gallech fod yn gymwys i gael y Lwfans Gofalwr os ydych chi'n 16 oed neu drosodd a'ch bod yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl.

Pwy all gael Lwfans Gofalwr

Mae gofyn eich bod yn gofalu am rywun sy'n cael un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd ganol neu uchaf ar gyfer gofal personol
  • Lwfans Gweini Cyson ar y gyfradd uchaf arferol neu uwch gyda Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, neu'r gyfradd sylfaenol (diwrnod llawn) gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel

Os oes rhywun arall yn gofalu am yr un person, dim ond un ohonoch gaiff y Lwfans Gofalwr.

Gellir ond talu Lwfans Gofalwr ar gyfer gofalu am un person.

Gall mwy nag un person sy'n byw yn yr un cartref wneud cais am Lwfans Gofalwr, megis cwpl yn gofalu am ei gilydd.

Nid yw Lwfans Gofalwr yn cael ei effeithio gan unrhyw gynilion sydd gennych.

Os ydych wedi dod o dramor neu'n byw dramor

I fod yn gymwys, rhaid i'r canlynol fod yn berthnasol:

  • rhaid i chi fod wedi bod yn bresennol yn y DU neu Ynys Manaw am 26 wythnos o leiaf yn ystod y 12 mis cyn eich dyddiad gwneud cais
  • rhaid i chi fod yn y DU adeg gwneud eich cais
  • ni ddylech fod yn gaeth i reoliadau mewnfudo

Gellir ystyried bod rhai pobl yn bresennol yn y DU. Er enghraifft, os ydych yn aelod o'r Lluoedd Arfog, neu'n byw gydag aelod o'r Lluoedd Arfog, ac wedi'ch lleoli dramor, ystyrir eich bod yn byw yn y DU.

Os ydych chi’n gadael y DU i fyw rhywle arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir, mae’n bosib y bydd eich Lwfans Gofalwr yn parhau i gael ei dalu i chi o dan amgylchiadau penodol.

Dan rai amgylchiadau penodol, gellir talu Lwfans Gofalwr i bobl sy’n gadael Prydain Fawr i fynd i fyw mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir.

Pwy na all gael Lwfans Gofalwr

Addysg

Ni allwch gael Lwfans Gofalwr os ydych mewn addysg llawn amser sydd â 21 awr neu fwy'r wythnos o astudio dan oruchwyliaeth - neu'n gwneud cwrs a ddisgrifir fel llawn amser gan y coleg neu sefydliad sy'n ei ddarparu.

Gwaith ac enillion

Ni allwch gael Lwfans Gofalwr os ydych chi'n ennill mwy na £100 yr wythnos ar ôl i arian gael ei ddidynnu ar gyfer eich treuliau.

Mae'r treuliau a ganiateir ar gyfer pethau megis:

  • rhai cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)
  • Treth Incwm
  • hanner unrhyw arian rydych yn ei dalu tuag at gynlluniau pensiwn personol neu alwedigaethol
  • treuliau eraill y mae'n rhaid i chi eu talu oherwydd eu bod yn rhan angenrheidiol o'ch swydd

Ar ôl darparu ar gyfer y rhain, fe gewch hyd at hanner gweddill yr arian rydych yn ei ennill i helpu gyda chost talu i rywun arall (ond nid perthynas agos) i ofalu am blentyn neu blant, neu'r person rydych yn gofalu amdanynt, pan fyddwch chi yn y gwaith.

Nodwch, wrth edrych ar eich incwm, nid yw Lwfans Gofalwr yn cyfrif Pensiynau Galwedigaethol neu Breifat fel enillion.

Preswylio neu aros yn y DU

Ni allwch gael Lwfans Gofalwr os yw'r Swyddfa Gartref wedi rhoi cyfyngiad ar eich hawl i breswylio neu aros yn y Deyrnas Unedig.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU