Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Gofalwyr - newid yn eich amgylchiadau chi neu'r sawl yr ydych yn gofalu amdanorydych yn gofalu amdanynt

Mae angen i chi roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau chi, y sawl rydych yn gofalu amdanynt neu oedolyn dibynnol. Gall newid effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Gofalwr neu ar y cyfanswm a gewch.

Enghreifftiau o newid mewn amgylchiadau

Er enghraifft, bydd angen i chi roi gwybod am y canlynol:

  • newidiadau o ran eich incwm neu'ch gwaith chi neu oedolyn dibynnol
  • newidiadau yn y budd-daliadau rydych chi, y sawl rydych yn gofalu amdanynt neu oedolyn dibynnol yn eu cael, neu fudd-daliadau newydd
  • os byddwch chi neu oedolyn dibynnol yn mynd i addysg amser llawn (21 awr neu fwy'r wythnos o astudio dan oruchwyliaeth)
  • newid yn eich cyfeiriad chi, y sawl rydych yn gofalu amdanynt neu oedolyn dibynnol
  • seibiant o ofalu - megis gwyliau neu gyfnod mewn ysbyty

Mae angen i chi hefyd roi gwybod os ydych chi'n symud dramor dros dro neu'n barhaol.

Os byddwch yn gadael y DU i fyw mewn gwlad arall yn AEE neu yn y Swistir, gallwch barhau i gael Lwfans Gofalwr os ydych yn bodloni rhai amodau.

Dan rai amodau mae'n bosib y gallwch hefyd wneud cais am Lwfans Gofalwr os ydych eisoes yn byw mewn gwlad arall yn AEE neu yn y Swistir.

Seibiant dros-dro mewn gofalu

Gallwch barhau i gael Lwfans Gofalwr os byddwch yn cymryd seibiant dros-dro o ofalu, gweler isod:

  • os byddwch yn mynd ar wyliau, neu os bydd y sawl rydych yn gofalu amdanynt yn cael gwyliau neu'n mynd i aros mewn cartref gofal, gellir talu eich Lwfans Gofalwr am hyd at bedair wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos
  • os byddwch yn cael triniaeth fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg, gellir talu eich Lwfans Gofalwr am hyd at 12 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos, yn dibynnu a ydych wedi cael seibiant o ofalu am resymau eraill hefyd
  • os bydd y sawl rydych yn gofalu amdanynt yn cael triniaeth fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg, gellir talu eich Lwfans Gofalwr am hyd at 12 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos

Os bydd Lwfans Byw i'r Anabl neu Lwfans Gweini y sawl rydych yn gofalu amdanynt yn dod i ben, bydd eich Lwfans Gofalwr chithau yn dod i ben. Gydag oedolion, gwneir hyn fel rheol ar ôl iddynt fod yn yr ysbyty am bedair wythnos.

Y seibiant hiraf y gallwch ei gymryd heb i hynny effeithio ar eich Lwfans Gofalwr yw 12 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 26 wythnos. Gallwch gael rhagor o gyngor ynghylch y rheolau gan yr Uned Lwfans Gofalwr.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau ar-lein gan ddefnyddio e-wasanaeth Lwfans Gofalwr. Mae'r ffurflen ar-lein yn rhestru'r mathau o newidiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt.

Gallwch hefyd roi gwybod am newidiadau yn uniongyrchol i'r Uned Lwfans Gofalwr.

I roi gwybod ar-lein, ewch i e-wasanaeth y Lwfans Gofalwr a dewis 'Dywedwch wrthym am newid mewn amgylchiadau'. Cyn defnyddio'r gwasanaeth gofynnir i chi wneud yn siwr bod y feddalwedd iawn gennych ac fe ddangosir i chi beth i'w wneud os nad ydy hynny gennych. Gallwch wedyn lenwi ffurflen electronig syml i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU