Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae sawl ffordd o wneud cais am Lwfans Gofalwr Gallwch wneud cais ar-lein, gofyn am ffurflen gais drwy'r post neu gallwch lawrlwytho ffurflen oddi ar y dudalen hon.
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan nidirect am fanylion ynghylch sut i hawlio Lwfans Gofalwr yng Ngogledd Iwerddon os gwelwch yn dda.
Gallwch wneud cais am Lwfans Gofalwr ar-lein os ydych yn byw yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn unig.
I wneud cais ar-lein, defnyddiwch yr e-wasanaeth Lwfans Gofalwr a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau ffurflen electronig i wneud cais am Lwfans Gofalwr.
Gall yr Uned Lwfans Gofalwr anfon ffurflen gais atoch. Rhowch wybod iddynt os oes angen ffurflen arnoch mewn fformat amgen fel Braille.
Eu cyfeiriad yw Carer's Allowance Unit, Palatine House, Lancaster Road, Preston, PR1 1HB
Rhif ffôn: 0845 6084321
Ffôn testun: 0845 6045312
Gallwch gysylltu â’r rhifau hyn rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 am a 4.30pm ar ddydd Gwener.
Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf holwch am y gwasanaeth cyfieithu.
Ffacs: 01772 899 354
E-bost:
Gallwch gysylltu â'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau i gael ffurflen gais a chyngor am sut i'w llenwi.
Rhif ffôn: 0800 88 22 00
Ffôn testun: 0800 24 33 55
Gallwch gysylltu â'r rhifau hyn rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gallwch gael ffurflen gais gan unrhyw swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu ganolfan pensiwn.
Gallwch lawrlwytho nodiadau cymorth a ffurflen gais i'w hargraffu a'i llenwi oddi ar y we.
Os byddwch yn lawrlwytho’r ffurflen oddi ar y we, dylech ei llenwi a'i dychwelyd cyn gynted â phosibl. Bydd dyddiad derbyn eich ffurflen yn effeithio ar y dyddiad pan fyddwch yn dechrau derbyn y Lwfans Gofalwr.
Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth, beth bynnag y swm, gallwch wneud cais am Lwfans Gofalwr gan ddefnyddio'r ffurflen gais ber. Mae'n cynnwys nodiadau cymorth.
Gwnewch gais nawr os ydych yn gofalu am rywun sydd naill ai'n derbyn y canlynol neu sydd wedi cael yr hawl i'w derbyn yn ddiweddar:
Peidiwch ag oedi neu gallech golli budd-dal.
Gwnewch gais yn nes ymlaen os ydych yn gofalu am rywun nad yw wedi gwneud cais am un o'r budd-daliadau a enwir uchod eto, neu sydd wedi gwneud cais ond yn aros am y penderfyniad.
Dylai'r person rydych yn gofalu amdanynt ystyried gwneud cais am un o'r budd-daliadau hyn yn syth os nad yw wedi gwneud cais yn barod. Os cânt un o'r budd-daliadau, dylech chithau wneud cais am Lwfans Gofalwr ar unwaith.
Gwneud cais am fudd-daliadau a hawliadau eraill yr un pryd
Os ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr, mae’n bosib y bydd gennych hawl i: