Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych blentyn dan 12 oed a’ch bod naill ai’n gofalu amdano gartref neu eich bod yn gweithio ond nad ydych yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gall Budd-dal Plant eich helpu i fod yn gymwys i gael ‘credydau’ am fod yn rhiant neu’n ofalwr. Mae'r credydau hyn yn cyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth.
Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar faint o ‘flynyddoedd cymhwyso’ y byddwch chi'n eu cronni yn ystod eich bywyd gwaith. Ystyr blwyddyn gymhwyso yw pan fyddwch chi'n ennill digon mewn blwyddyn i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Felly os nad ydych chi'n gweithio neu ddim yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gallai'ch pensiwn ddioddef o'r herwydd.
Ar gyfer pob wythnos y byddwch chi'n cael Budd-dal Plant, gallech fod yn gymwys i gael y canlynol:
Gallwch gyfuno'r credydau wythnosol â chredydau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cronni blwyddyn o hawl ar gyfer Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth.
Mae’n rhaid i’ch credydau a’ch cyfraniadau gael eu gwneud yn yr un flwyddyn dreth er mwyn i chi allu eu cyfuno fel hyn.
Gallwch gael y credydau os ydych chi'n cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 12 oed. Byddwch yn dal i gael credydau nes bydd eich plentyn ieuengaf yn 12 oed.
Gallwch fod yn gymwys i gael y credydau am unrhyw gyfnod pan fyddwch chi’n cael Budd-dal Plant.
Os oes gennych werth llai na blwyddyn dreth lawn o gredydau, gallwch gyfuno’r credydau sydd gennych â chredydau eraill a chyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael blwyddyn gymhwyso.
Bydd blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill ac yn dod i ben ar 5 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol.
Os oeddech yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed cyn 6 Ebrill 2010, roddech yn gymwys yn awtomatig ar gyfer cynllun o’r enw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP), a oedd yn helpu i ddiogelu'ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Erbyn hyn, mae’r cynllun hwn wedi’i ddisodli gan y credydau Yswiriant Gwladol wythnosol ar gyfer rhieni a gofalwyr a'r credyd Ffactor Enillion.
Ni fyddwch yn colli unrhyw warchodaeth rydych wedi'i chronni'n barod. Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd unrhyw flynyddoedd treth cyflawn a oedd gennych o ran y cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (hyd at uchafswm o 22 mlynedd) yn cael eu trosi i flynyddoedd credydau cyflawn sy'n cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Os oeddech chi'n cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 6 oed, rydych wedi cronni hawl i gael pensiwn ychwanegol drwy Ail Bensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig.
I gael mwy o wybodaeth gallwch ffonio Llinell Gymorth y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 606 0265 neu ddefnyddio'r ffôn testun ar 0845 606 0285.
Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gymorth Yswiriant Gwladol ar 0845 302 1479 rhwng 8.00 am a 5.00 pm.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs