Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd rhywun yn gofyn am eich rhif Budd-dal Plant neu brawf eich bod yn cael Budd-dal Plant. Felly mae'n syniad da i chi gadw eich holl waith papur am y Budd-dal Plant gyda'i gilydd mewn lle diogel rhag ofn y bydd arnoch ei angen rywbryd eto.
Mae’ch rhif Budd-dal Plant yn cynnwys wyth llythyren a dau rif, er enghraifft, CHB12345678 AB. Bydd modd i chi gael eich rhif oddi ar waith papur sy’n gysylltiedig â’ch Budd-dal Plant. Er enghraifft:
Os na allwch chi ddod o hyd i'ch gwaith papur ac rydych chi’n dal yn eisiau eich rhif Budd-dal Plant, gallwch anfon ymholiad ar-lein i’r Swyddfa Budd-dal Plant.
Cofiwch nodi’n glir ar y ffurflen eich bod yn chwilio am eich rhif Budd-dal Plant. Efallai y bydd o gymorth os ydych chi’n dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant pwy sydd wedi gofyn amdano.
Efallai y gofynnir i chi brofi eich bod chi’n cael Budd-dal Plant. I’ch helpu i gael gwybod pa waith papur y mae angen i chi ei ddarparu, holwch bwy bynnag sydd wedi gofyn i chi:
Efallai y gofynnir i chi am eich hysbysiad dyfarniad Budd-dal Plant. Mae hwn yn rhoi eich rhif Budd-dal Plant ac yn dweud wrthych am ba blentyn y mae’ch Budd-dal Plant ar ei gyfer. Bydd angen i chi wneud yn sicr y caiff ei dderbyn fel prawf eich bod dal yn gymwys am Fudd-dal Plant.
Os nad yw’r hysbysiad dyfarniad gennych chi, cewch ddarparu prawf arall yn lle, er enghraifft:
Ni fydd modd i chi gael prawf ysgrifenedig gan y Swyddfa Budd-dal Plant i brofi eich bod chi’n cael Budd-dal Plant. Y rheswm am hyn yw bod eich awdurdod lleol yn gallu derbyn cyfriflenni banc neu eich hysbysiad dyfarniad credydau treth.
Efallai y bydd angen i chi gael eich rhif Budd-dal Plant yn y sefyllfaoedd canlynol.
Rydych chi wedi cael Budd-dal Plant o’r blaen ac yn gwneud hawliad newydd
Os ydych chi wedi cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn o’r blaen a’ch bod yn gwneud hawliad newydd ar ei gyfer, byddai darparu’ch hen rif Budd-dal Plant yn ddefnyddiol. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ail anfon tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu eich plentyn.
Ond dylech anfon eich hawliad newydd am Fudd-dal Plant hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod beth yw’ch hen rif Budd-dal Plant.
Rydych chi’n rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am newid
Os ydych chi’n rhoi gwybod am newid a allai effeithio ar eich Budd-dal Plant, byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddarparu eich rhif Budd-dal Plant. Ond os nad ydych chi’n gwybod beth ydyw, gallwch roi eich rhif Yswiriant Gwladol yn lle hynny.
Rydych chi’n gwneud hawliad am gredydau treth
Pe gallech ddarparu eich rhif Budd-dal Plant ar eich ffurflen hawlio, bydd yn helpu’r Swyddfa Credyd Treth i ddelio â’ch hawliad credydau treth yn gyflymach. Dylai olygu hefyd na fydd angen i chi anfon tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu eich plentyn i'r Swyddfa.
Eich penderfyniad chi yw am faint o amser yr ydych am gadw’r gwaith papur. Ond mae’n syniad da cadw’ch hysbysiad dyfarniad, ac unrhyw lythyrau pwysig eraill, nes byddwch yn rhoi'r gorau i gael Budd-dal Plant.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs