Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch chi’n hawlio Budd-dal Plant bydd angen i chi anfon tystysgrif geni neu fabwysiadu gwreiddiol eich plentyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant. Bydd angen y rhain arnynt fel y gallant gadarnhau dros bwy’r ydych yn hawlio. Ni all y Swyddfa Budd-dal Plant fel arfer derbyn llungopïau felly os na fyddwch chi’n anfon y dystysgrif wreiddiol iddynt, efallai y bydd oedi cyn y cewch eich taliad cyntaf.
Dylech anfon fersiwn wreiddiol un o'r canlynol i'r Swyddfa Budd-dal Plant:
Does dim ots p'un ai'r dystysgrif geni hir ynteu'r un fer a anfonwch i'r Swyddfa Budd-dal Plant.
Er enghraifft, os ydych chi wedi anfon y dystysgrif hir er mwyn gwneud cais am basbort, gallwch anfon yr un fer iddynt.
Os rydych chi wedi derbyn Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn y gorffennol, does dim angen i chi anfon y dystysgrif geni neu fabwysiadu iddynt. Ond bydd angen i chi anfon y dystysgrif iddynt os ydych chi newydd fabwysiadu plentyn.
Cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant os nad ydych yn gwybod a ydynt wedi talu Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn y gorffennol.
Gallwch wneud hwn ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod neu gallwch ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.
Os nad oes gennych chi'r dystysgrif, dylech ddal anfon eich ffurflen hawlio yn ddi-oed. Fel arfer, ni all y Swyddfa Budd-dal Plant ôl-ddyddio eich Budd-dal Plant fwy na thri mis ar ôl iddynt gael eich ffurflen. Felly os byddwch chi'n oedi, efallai na chewch chi rai taliadau.
Dylech anfon y dystysgrif iddynt yn syth ar ôl ei chael.
Os ydych chi wedi colli'r dystysgrif, gallwch wneud cais am un arall gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn eich atgoffa os byddwch yn anghofio ei hanfon atynt.
Os ydych yn ei chael yn anodd cael gafael ar dystysgrif mabwysiadu'ch plentyn cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant ac efallai y gallant eich helpu.
Bydd arnynt angen gwybod:
Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Neu os oes angen i chi siarad gyda rhywun, gallwch ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.
Gallwch anfon eich tystysgrif gyda'r post arferol. Does dim angen i chi ddefnyddio gwasanaeth post wedi'i gofrestru neu wedi'i gofnodi.
Os ydych wedi anfon tystysgrif geni y Deyrnas Unedig i’r Swyddfa Budd-dal Plant, byddant wastad yn ei dychwelyd gan ddefnyddio’r post arferol. Bydd tystysgrifau geni a mabwysiadu o wledydd eraill yn cael eu dychwelyd gan ddefnyddio'r un gwasanaeth ag a wnaethoch chi. Er enghraifft, os gwnaethoch chi ddefnyddio gwasanaeth post wedi'i gofrestru, byddant hwythau'n defnyddio gwasanaeth post wedi'i gofrestru wrth ddychwelyd y dystysgrif.
Dylech anfon y dystysgrif i'r:
Canolfan Gyswllt Gymraeg
Cyllid a Thollau EM
Tŷ Moelwyn
Tros y Bont
Porthmadog
LL49 9AB
Os na fyddwch yn derbyn eich tystysgrif o fewn pedair wythnos, dylech gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs