Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pryd ddylech chi ddisgwyl eich taliad Budd-dal Plant cyntaf

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ceisio rhoi penderfyniad i chi ynghylch eich cais, a'ch talu, o fewn 12 wythnos.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi hawlio?

Pan fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cael eich cais am Fudd-dal Plant, byddant yn edrych i weld a ydych yn gymwys ai peidio.

Ar ôl iddynt benderfynu ar hyn, byddant yn anfon 'Hysbysiad Dyfarniad' atoch, sy'n dweud wrthych faint gewch chi a phryd. Efallai y cewch eich taliad cyntaf cyn i'r Hysbysiad Dyfarniad gyrraedd.

Os na allan nhw benderfynu'n syth a ydych yn gymwys ai peidio, fe gysylltan nhw â chi i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych newydd ddod i’r DU

Ceir rheolau arbennig ar gyfer talu Budd-dal Plant i bobl sydd newydd gyrraedd y DU.

Mae angen i'r Swyddfa Budd-dal Plant edrych ar bethau fel lle bwriedwch fyw, a sicrhau bod gennych 'hawl i breswylio' yn y DU.

Felly efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser iddynt gadarnhau a ydych chi'n gymwys a rhoi'r taliad Budd-dal Plentyn cyntaf i chi.

Os ydych chi eisiau gweld lle mae'ch cais arni

Os ydych chi'n credu bod y taliad cyntaf yn hwyrach nag y dylai fod, gallwch weld lle mae'ch cais arni drwy gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant.

Gallwch wneud hyn drwy anfon ymholiad ar-lein, ysgrifennu llythyr neu ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.

Gall y Swyddfa Budd-dal Plant ateb mewn fformat arbennig, fel Braille, tâp sain neu brint bras, os gofynnwch iddynt.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU