Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pobl sydd newydd gyrraedd y DU a Budd-dal Plant

Os ydych chi wedi dod i fyw i’r DU o wlad arall, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn. Ond, i fod yn gymwys, bydd rhaid i chi fodloni rhywfaint o reolau ‘preswylio’.

Pwy sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant?

Fel arfer, er mwyn cael Budd-dal Plant, bydd rhaid i’r canlynol fod yn wir amdanoch chi:

  • rydych yn bresennol yn y DU – ynghyd â’ch plentyn
  • rydych yn ‘preswylio’n arferol’ yn y DU – felly mae eich prif gartref yma
  • mae gennych ‘hawl i breswylio’ yn y DU
  • rydych yn gyfrifol am y plentyn sy’n byw gyda chi

Bod yn bresennol yn y DU

Fel arfer, er mwyn cael Budd-dal Plant, rhaid i chi a'ch plentyn ill dau fod yn bresennol yn y DU.

Ond, byddwch yn gallu cael y budd-dal o hyd os ydych chi'n mynd o’r wlad am gyfnodau byr, dros dro, er enghraifft ar wyliau.

'Preswylio’n arferol’

I gael Budd-dal Plant, rhaid i chi breswylio’n arferol yn y DU fel rheol. Fel arfer, byddwch yn preswylio’n arferol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich prif gartref yn y DU
  • rydych chi wedi dewis byw a setlo yma
  • dim ond am gyfnodau byr rydych chi’n mynd dramor - er enghraifft ar wyliau

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn penderfynu a ydych chi’n preswylio’n arferol ai peidio drwy edrych ar eich amgylchiadau i gyd.

Preswylio’n arferol – enghraifft

Mae Aleksy, ei wraig a’i fab wedi symud yn barhaol i’r DU o Wlad Pwyl. Mae Aleksy yn gweithio fel datblygwr eiddo hunangyflogedig, ac mae ei fab wedi ei gofrestru gyda’r ysgol leol.

Gan fod prif gartref y teulu yn y DU, a’u bod wedi dewis byw a setlo yma, fe ystyrir eu bod yn preswylio'n arferol, a gallant wneud hawliad am Fudd-dal Plant.

Bod â ‘hawl i breswylio’ yn y DU

Er mwyn cael Budd-dal Plant, mae’n rhaid i chi fod â 'hawl i breswylio’ yn y DU. Mae gennych chi’r hawl i breswylio yn y DU os ydych chi:

  • yn un o wladolion y DU
  • yn dod o Ynysoedd y Sianel
  • yn dod o Ynys Manaw
  • yn dod o Weriniaeth Iwerddon

Os ydych chi’n dod o wlad arall, gallwch edrych ar y tabl isod i weld a oes gennych chi’r hawl i breswylio yn y DU. Mae’r wybodaeth yn y tabl isod yn gymwys o 1 Mai 2011.

O ble'r ydych chi'n dod

Pryd fydd gennych chi’r ‘hawl i breswylio’ yn y DU

Yr Almaen, Awstria, Cyprus, Denmarc, Yr Eidal, Estonia, Y Ffindir, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, Yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, Y Swistir, Y Weriniaeth Tsiec

Os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n gweithio i gyflogwr neu’n hunangyflogedig yn y DU
  • rydych chi wrthi’n chwilio am waith ac wedi cofrestru gyda’r Ganolfan Byd Gwaith
  • gallwch gefnogi’ch hun a’ch teulu yn ariannol – ac mae gennych yswiriant salwch cynhwysfawr am eich hun a’ch teulu

Bydd gennych chi’r hawl i breswylio hefyd os bydd un o’r uchod yn berthnasol i aelod o’r teulu rydych chi’n ddibynnol arno – er enghraifft, eich partner.

Bwlgaria, Romania

Os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio a bod gennych ddogfen awdurdodi gweithwyr cyn i chi ddechrau gweithio
  • rydych chi’n hunangyflogedig yn y DU
  • rydych chi wedi dod i’r DU dan y Rhaglen Mudwyr Medrus Iawn, ac mae gennych chi dystysgrif cofrestru
  • rydych chi’n chwilio am waith, yn gallu cefnogi’ch hun a’ch teulu’n ariannol – ac mae gennych yswiriant salwch cynhwysfawr am eich hun a’ch teulu
  • rydych chi wedi cofrestru gyda’r Ganolfan Byd Gwaith ac, am o leiaf 12 mis cyn i chi fod yn ddi-waith, roedd gennych chi swydd wedi’i hawdurdodi gan y Swyddfa Gartref

Bydd gennych chi’r hawl i breswylio hefyd os bydd un o’r uchod yn berthnasol i aelod o’r teulu rydych chi’n ddibynnol arno – er enghraifft, eich partner.

Dim un o’r gwledydd uchod

Os ydych chi wedi cael caniatâd i ddod mewn ac aros yn y DU.

Os yw’r ‘rheolau mewnfudo’ yn berthnasol i chi

Efallai na fydd modd i chi gael Budd-dal Plant os yw’r ‘rheolau mewnfudo’ yn berthnasol i chi. Os ydynt yn berthnasol i chi, bydd yn golygu naill ai:

  • bod y Swyddfa Gartref yn rhoi caniatâd i chi aros yn y DU (a elwir yn ‘ganiatâd i ddod i’r DU neu aros yma’) – ond rhoddir y caniatâd hwn i chi ar yr amod nad ydych yn hawlio rhai budd-daliadau, credydau treth neu gymorth tai a delir gan lywodraeth y DU (a elwir yn ‘ddim mynediad at arian cyhoeddus’)
  • bod angen caniatâd arnoch i aros yn y DU – a elwir eto yn ‘ganiatâd i ddod i’r DU neu aros yma’ – ond nid oes gennych chi ganiatâd
  • eich bod chi wedi cael caniatâd i aros yn y DU – ond ar yr amod fod rhywun arall, megis ffrind, cyflogwr neu berthynas (a elwir yn aml yn 'gefnogwr') yn eich cefnogi
  • y gwrthodwyd rhoi caniatâd i chi aros yn y DU – ond rydych chi wedi apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, ac nid oes penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â’ch apêl eto

Weithiau, os yw’r rheolau mewnfudo yn berthnasol i chi, efallai ei bod yn bosib i chi hawlio Budd-dal Plant o hyd, er enghraifft, os ydych chi'n dod o wlad y mae gan y DU gytundeb nawdd cymdeithasol â hi sy'n cynnwys Budd-dal Plant.

Rhywun y mae’r rheolau mewnfudo yn berthnasol iddo – enghraifft

Mae Anisha a’i phlant yn dod o India, ac maent yn aros gyda theulu ei chwaer gerllaw Llundain. Mae Anisha am ymgartrefu yn y DU, ond nid yw wedi cael caniatâd i aros yma’n barhaol.

Mae’r rheolau mewnfudo yn berthnasol i Anisha, felly ni chaiff hawlio Budd-dal Plant.

Pan nad yw’r ‘rheolau mewnfudo’ yn berthnasol i chi

Ni fydd y rheolau mewnfudo yn berthnasol i chi os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir:

  • rydych chi’n un o wladolion y DU
  • rydych chi o Ardal Economaidd Ewrop neu o’r Swistir
  • rydych chi wedi ceisio lloches, ac mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud wrthych y gallwch aros yn y DU fel ffoadur
  • mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud wrthych y cewch aros yn y DU am gyfnod amhenodol

Os ydych chi’n dod o un o wledydd y Gymanwlad ac yn gwasanaethu yn y Lluoedd Prydeinig

Os ydych chi’n dod o un o wledydd y Gymanwlad ac yn gwasanaethu yn y Lluoedd Prydeinig yn y DU, ni fydd y rheolau mewnfudo yn berthnasol i chi. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, fel arfer, yn gallu cael Budd-dal Plant.

Efallai eich bod yn gwasanaethu yn y Lluoedd Prydeinig yn y DU ac yna’n cael eich anfon yn ôl dramor. Fel arfer, gallwch barhau i gael Budd-dal Plant hyd yn oed os ydych chi y tu allan i’r DU.

Os ydych chi wedi dod i’r DU heb eich plentyn

Ceir trefniadau gwahanol ar gyfer Budd-dal Plant gan ddibynnu ar a ydych chi’n gweithio, ac a ydych chi’n wladolyn o wlad sy’n rhan o Ardal Economaidd Ewrop ai peidio. Beth bynnag y bo’ch sefyllfa, ni fyddwch yn gymwys oni bai eich bod yn gyfrifol am eich plentyn.

Os ydych chi wedi dod i’r DU ac rydych chi’n wladolyn o wlad nad yw’n rhan o Ardal Economaidd Ewrop neu’r Swistir, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Plant ar ôl i’ch plentyn gyrraedd y DU.

Fodd bynnag, os ydych chi'n wladolyn o wlad sy’n rhan o Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir, byddwch chi fel arfer yn gallu cael Budd-dal Plant hyd yn oed os na fydd eich plentyn yn dod i'r DU. Ond, bydd yn rhaid i’ch plentyn fod yn byw yn un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir.

Gwledydd sydd yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE)

Y gwledydd sydd yn AEE ynghyd â’r DU yw Yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, Yr Eidal, Estonia, Y Ffindir, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, Yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, ac Y Weriniaeth Tsiec.

Dal yn ansicr?

Os oes angen cyngor arnoch, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU