Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Budd-dal Plant ar gyfer plant sydd mewn ysbyty neu ofal preswyl

Os yw'ch plentyn yn sâl neu'n anabl a bod rhaid iddynt fynd i'r ysbyty neu i ofal preswyl yn y DU neu dramor, gallwch ddal i gael Budd-dal Plant am hyd at 12 wythnos ond os bydd yn hwy na hynny, bydd rhaid i chi neu'ch partner fod yn gwario arian yn rheolaidd arnynt er mwyn iddynt ddal i fod yn gymwys.

Beth yw 'llety preswyl'?

Llety ydyw sy'n cael ei ddarparu gan awdurdod lleol ar gyfer eich plentyn gan fod ganddo ef neu hi salwch meddyliol neu gorfforol.

Gall hefyd fod yn llety y mae'r awdurdod lleol wedi'i ddarparu oherwydd bod iechyd eich plentyn yn debygol o ddioddef neu waethygu'n sylweddol os na ddarperir llety.

Nid yw yr un peth â phan fo'r awdurdod lleol neu'r Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofalu am blentyn nad yw'n sâl neu'n anabl.

Gallwch gael gwybod rhagor am Fudd-dal Plant ar gyfer plant sydd mewn gofal ond nad ydynt yn sâl neu'n anabl drwy ddilyn y ddolen isod.

Beth sy'n digwydd os bydd eich plentyn yn mynd i ysbyty neu i ofal preswyl

Os bydd eich plentyn yn mynd i ysbyty neu ofal preswyl am gyfnod llai na 12 wythnos bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn parhau i dalu'r Budd-dal Plant. Os bydd yn hwy na hynny, byddwch ond yn cael Budd-dal Plant os ydych chi neu’ch partner yn gwario arian yn rheolaidd arnynt.

Efallai y byddwch yn gwario arian ar:

  • deithio i ymweld â nhw
  • arian poced
  • dillad, melysion, teganau neu lyfrau

Mae’r hyn y mae’ch partner yn gwario dim ond yn cyfri os ydych chi’n byw gyda’ch gilydd, a naill ai yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os nad oedd eich plentyn yn byw gyda chi cyn mynd i ysbyty neu ofal preswyl

Weithiau gallwch ddal i gael Budd-dal Plant os nad oedd eich plentyn yn byw gyda chi cyn iddyn nhw fynd i'r ysbyty neu i ofal preswyl. Ond mae'n dibynnu ar y canlynol:

  • y rhesymau pam nad oedd eich plentyn yn byw gyda chi
  • a ydych yn parhau i wario arian ar eich plentyn, ac yn gwario o leiaf cymaint â'r hyn a gewch o Fudd-dal Plant ar eu cyfer

Does dim gwahaniaeth a ydynt yn yr ysbyty am gyfnod hwy neu lai na 12 wythnos.

Os bydd eich plentyn yn gorfod aros mewn ysbyty neu ofal preswyl ar ddau achlysur neu ragor mewn cyfnod byr o amser

Efallai y bydd eich plentyn yn gorfod aros mewn ysbytai neu mewn gofal preswyl ar sawl achlysur, er enghraifft os bydd rhaid iddynt fynd ar gyfer cyfres o driniaethau. Os oes 28 diwrnod neu lai rhwng pob ymweliad, ychwanegwch yr holl ddyddiau yn yr ysbyty neu mewn gofal preswyl at ei gilydd. Mae angen i chi wneud hwn i gyfrifo pa mor hir yw'r arhosiad yn yr ysbyty.

Er enghraifft, efallai y bydd eich plentyn:

  • yn yr ysbyty am 80 diwrnod
  • yn dod adref am bum niwrnod
  • yn dychwelyd i'r ysbyty am saith niwrnod

Ychwanegwch y ddau arhosiad yn yr ysbyty at ei gilydd - 80 diwrnod a saith niwrnod. Bydd hyn cyfrifo am ba mor hir y mae eich plentyn wedi bod yn yr ysbyty yn gyfan gwbl - 87 diwrnod.

Os bydd eich plentyn yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty dramor

Mae'n bosib y cewch Fudd-dal Plant os yw'ch plentyn dramor dros dro yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty. Golyga 'dramor dros dro' na fyddai'r cyfnod pan fyddai eich plentyn i ffwrdd o'r DU yn hwy na 52 wythnos.

Os dechreuodd y salwch neu'r anabledd cyn i'ch plentyn adael y DU

Byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant am gyfnod o hyd at 12 wythnos os yw'ch plentyn wedi mynd dramor dros dro i gael triniaeth feddygol am:

  • salwch, boed hwnnw'n salwch meddyliol neu'n gorfforol a ddechreuodd cyn iddynt adael y DU
  • anabledd a ddechreuodd cyn iddynt adael y DU

Weithiau gallwch ddal i gael Budd-dal Plant ar ôl 12 wythnos os yw eich plentyn yn dal i gael triniaeth dramor. Ond byddai gofyn i chi ddychwelyd i'r DU i barhau i fod yn gymwys a byddai angen i chi neu’ch partner gwario arian arnynt yn rheolaidd.

Efallai y byddwch yn gwario arian ar:

  • teithio i ymweld â hwy
  • arian poced
  • dillad, melysion, teganau neu lyfrau

Mae’r hyn y mae’ch partner yn gwario dim ond yn cyfri os ydych chi’n byw gyda’ch gilydd, a naill ai yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl neu'n anabl ar ôl iddynt adael y DU

Gallai'ch plentyn fynd yn sâl neu'n anabl ar ôl iddynt adael y DU, er enghraifft yn ystod gwyliau dramor. Os byddant yn cael triniaeth mewn ysbyty dramor a bod hyn yn achosi oedi wrth ddychwelyd i'r DU, byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant am hyd at 12 wythnos.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Budd-dal Plant

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant:

  • os yw'ch plentyn mewn ysbyty neu ofal preswyl am fwy na 12 wythnos ac na fyddwch yn gwario arian yn rheolaidd arnynt
  • os byddwch yn mynd dramor gyda'ch plentyn ac yn debygol o fod dramor am fwy nag wyth wythnos
  • os yw’ch plentyn yn mynd yn sâl tra ei fod dramor ac allan o’r DU am fwy na 12 wythnos

Gallwch ddweud wrthynt ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod, neu gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU