Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd aelod o’r teulu yn sâl neu'n mynd i'r ysbyty, fel arfer ni fydd hynny'n effeithio ar eich credydau treth.
Yn yr ysbyty am hyd at 28 wythnos
Os byddwch chi neu'ch partner yn sâl neu yn yr ysbyty am hyd at 28 wythnos, mae'n dal yn bosib i chi gael Credyd Treth Gwaith.
Os ydych yn cael Lwfans Byw i’r Anabl neu Lwfans Gweini, efallai y bydd hwn yn dod i ben oherwydd eich bod yn yr ysbyty. Ond ni fydd unrhyw Gredyd Treth Gwaith y byddwch yn cael oherwydd eich anabledd yn cael ei effeithio.
Bydd dal yn rhaid i chi fodloni’r rheolau cymhwysedd, neu bydd eich Credyd Treth Gwaith yn dod i ben.
Dylai eich Credyd Treth Plant aros yr un fath, ar yr amod eich bod yn dal yn gyfrifol dros unrhyw blant.
Yn yr ysbyty am fwy nag 28 wythnos
Os byddwch chi neu'ch partner yn sâl neu yn yr ysbyty am fwy nag 28 wythnos, rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth. Dylech wneud hyn cyn gynted â phosib ac o fewn mis. Gallwch gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.
Hyd yn oed os caiff eich Credyd Treth Gwaith ei atal, mae'n bosib y cewch chi fudd-daliadau eraill.
Dylai eich Credyd Treth Plant aros yr un fath, ar yr amod eich bod yn dal yn gyfrifol dros unrhyw blant.
Efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith ychwanegol i’ch helpu gyda chostau gofal plant:
Cyn belled â’ch bod yn dal yn gyfrifol dros eich plentyn, byddwch yn parhau i gael Credyd Treth Plant ar ei gyfer. Does dim angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth bod eich plentyn yn yr ysbyty.
Os oeddech yn talu am ofal plant ac y bydd eich taliadau'n newid neu'n cael eu hatal am fod eich plentyn yn yr ysbyty, gall hyn effeithio ar faint o gredydau treth a gewch chi ar y cyfan. Dylech roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosib - ac o fewn mis.
Os bydd eich plentyn yn datblygu anabledd, efallai y bydd gennych hawl i gael mwy o gredydau treth. Os oes gennych hawl i gael Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer eich plentyn, dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith.
Os ydych chi'n cael credydau treth ac y bydd aelod o'ch teulu yn mynd i'r ysbyty, gallech gael cymorth gyda'r costau gofal iechyd a theithio.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs