Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cymorth arall y gallech fod yn gymwys i'w gael os ydych yn cael credydau treth

Os ydych yn hawlio credydau treth am eich bod ar incwm isel, neu am fod gennych chi blant, mae'n bosib bod gennych chi'r hawl i gael rhagor o gefnogaeth gan y llywodraeth.

Cymorth gyda chostau iechyd

Mae’r mwyafrif o driniaethau’r GIG am ddim - yn cynnwys triniaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Iwerddon. Ond codir tâl am rai pethau. Weithiau bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych yn byw. Er enghraifft, mae presgripsiynau’r GIG neu’r Gwasanaeth Iechyd am ddim yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Os codir tâl am eich triniaeth, ac rydych yn cael credydau treth am eich bod ar incwm isel, gallwch gael cymorth. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys:

  • presgripsiynau’r GIG/Gwasanaeth Iechyd, wigiau, gwregysau wedi’u gwneud o ddefnydd - os nad ydynt am ddim yn barod
  • triniaeth ddeintyddol a phrofion llygaid am ddim
  • talebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd
  • cymorth gyda chostau teithio am rhai driniaeth GIG/Gwasanaeth Iechyd

Sut mae bod yn gymwys

Os byddwch yn gymwys, bydd Tystysgrif Eithrio Credydau Treth yn cael ei hanfon atoch yn awtomatig drwy'r post. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Dystysgrifau Eithrio Credydau Treth gan y Swyddfa Eithrio Credydau Treth drwy ffonio 0845 609 9299. Os byddwch yn defnyddio ffôn testun, dylech ddeialu 18001 cyn y rhif hwn i ddefnyddio'r gwasanaeth Cyfnewid Testun.

Cychwyn Iach

Gyda Chychwyn Iach gallwch gael:

  • talebau i gyfnewid am fitaminau
  • talebau wythnosol i helpu gyda chostau llaeth, llysiau a ffrwythau ffres neu lysiau a ffrwythau plaen wedi’u rhewi, neu laeth fformiwla i fabanod

Gallech fod yn gymwys os ydych yn cael Credyd Treth Plant ac rydych ar incwm isel. Bydd angen i chi fod yn feichiog ers deg wythnos o leiaf, neu gael plentyn dan bedwar.

Os ydych chi’n feichiog a’ch bod dan 18 oed, byddwch yn gymwys yn awtomatig, ni waeth a ydych chi’n cael Credyd Treth Plant neu fudd-daliadau eraill ai peidio.

Ni fyddwch yn gymwys os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith, oni bai mai dim ond yr estyniad pedair wythnos ar eich taliadau ydyw. Gelwir hwn yn aml yn ‘barhad’. Efallai y cewch barhad ar ôl i chi beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach – er enghraifft, os ydych chi wedi rhoi’r gorau i weithio neu wedi lleihau eich oriau.

Os byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun Cychwyn Iach drwy Gredyd Treth Plant, byddwch yn cael ffurflen gais yn awtomatig drwy’r post. Ond nid oes yn rhaid i chi aros, gallwch fynd i nôl un eich hun – dilynwch y ddolen isod.

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Os ydych chi ar incwm isel ac yn cael credydau treth, mae’n bosib y gallech gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Mae hwn yn daliad un-tro i helpu tuag at y gost o eitemau mamolaeth a babi newydd. Mae’r grant yn ddi-dreth ac nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.

Mae’r grant yn £500 fel taliad un-swm. Os ydych chi wedi cael gefeilliaid neu dripledi er enghraifft, gallwch gael £500 am bob babi. Ni allwch fel arfer gael y grant os oes gennych blant eraill o dan 16 oed yn barod. Ond ceir rhai eithriadau i hyn.

Byddwch yn gymwys, os ydych yn cael un o’r canlynol:

  • Credyd Treth Plant - ar gyfradd uwch na'r elfen deulu
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol

I gael gwybod pa elfennau credyd treth neu daliadau rydych yn eu cael, edrychwch ar Ran 2 eich hysbysiad dyfarniad – Sut yr ydym yn cyfrifo eich credydau treth.
Mae’n bosib y gallwch dal i fod yn gymwys hyd yn oed nad chi yw fam y babi – er enghraifft os ydych chi’n mabwysiadu.

Mae’n bwysig gwybod bod cyfyngiadau amser ar gyfer hawlio’r grant.

Gwybodaeth ynghylch Budd-dal Plant

Taliad di-dreth sydd ar gael i unrhyw un sy'n magu plentyn neu berson ifanc yw’r Budd-dal Plant. Ni fydd eich incwm na'ch cynilion yn effeithio arno, ac nid oes yn rhaid i chi fod yn cael credydau treth i'w hawlio.

Cewch £20.30 yr wythnos am y plentyn hynaf a £13.40 yr wythnos am bob plentyn ychwanegol.

Cymorth gyda chost addysg eich plant

Gallai eich plant gael cinio ysgol am ddim os ydych yn cael Credyd Treth Plant yn unig - weithiau os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith hefyd. Ond mae’n dibynnu ar yr incwm y mae’ch credydau treth wedi ei gyfrifo arno, a ble yr ydych yn byw yn y DU.

Os ydych chi’n cael credydau treth, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael cymorth tuag at y gost o wisgoedd neu weithgareddau ysgol megis teithiau ysgol.

Gallai eich plentyn hefyd gael trafnidiaeth ysgol am ddim, er enghraifft os ydych chi ar incwm isel. Ond mae’n bwysig i wybod bod y rheolau yn wahanol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw yn y DU.

Mae’n werth gwirio’r rheolau ar gyfer eich ardal gyda’ch awdurdod lleol, neu Fwrdd Addysg a Llyfrgell yng Ngogledd Iwerddon.

Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilion di-dreth hir dymor, ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Os aned eich plentyn rhwng y dyddiau hyn, mae’n bosib y byddant yn gymwys i gael o leiaf £50 i agor cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Bydd angen i chi gael Budd-dal Plant ar eu cyfer.

Nid yw plant a aned ar neu ar ôl 3 Ionawr 2011 yn cael unrhyw daliadau.

I fod yn gymwys, nid oes rhaid i chi fod yn cael credydau treth. Ond mae’n rhaid eich bod fel arfer wedi cael eich talu Budd-dal Plant am o leiaf un diwrnod cyn 4 Ionawr 2011. Ceir rhai eithriadau i hyn, er enghraifft, os ydych yn cael budd-dal teulu Ewropeaidd neu os yw’ch plentyn yn cael ei ofalu amdano gan awdurdod lleol.

Cymorth gyda chostau angladd

Os ydych chi’n cael credydau treth, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael Taliad Angladd gan y Gronfa Gymdeithasol. Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystad y sawl a fu farw.

I fod yn gymwys, bydd angen i chi fod yn cael un o’r canlynol:

  • Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol

I gael gwybod pa elfennau credyd treth neu daliadau rydych yn eu cael, edrychwch ar Ran 2 eich hysbysiad dyfarniad – Sut yr ydym yn cyfrifo eich credydau treth.

Bydd Taliad Angladd yn cynnwys y ffioedd claddu neu amlosgi angenrheidiol, rhai costau eraill a nodir a hyd at £700 ar gyfer unrhyw gostau angladdol eraill. Gall hyn fod am bethau fel ffioedd y trefnwr angladdau, yr arch neu'r blodau. Os oes gennych chi unrhyw fodd arall o dalu am yr angladd, heblaw am gynilion personol, efallai na fyddwch yn gymwys i gael y taliad.

Cymorth arall

Os ydych yn gymwys i gael credydau treth, mae'n bosib y byddwch yn gallu cael cymorth gyda thaliadau eraill megis:

  • ffioedd llys
  • costau cyfreithiol
  • ymweld â charchardai
  • cyfraddau dŵr sy’n cael eu talu drwy fesurydd yng Nghymru a Lloegr
  • gwaith hanfodol i drwsio neu wella’r tŷ
  • cynlluniau effeithlonrwydd ynni cartref

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU