Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw Budd-dal Plant?

Taliad di-dreth y gallwch ei hawlio ar gyfer eich plentyn yw'r Budd-dal Plant. Fel arfer caiff ei dalu bob pedair wythnos ond weithiau gellir ei dalu bob wythnos. Mae cyfraddau gwahanol ar gyfer pob plentyn. Gall unrhyw un sy'n gymwys hawlio'r taliad, beth bynnag fydd ei incwm neu gynilion.

Pwy all gael Budd-dal Plant?

Os ydych chi’n gyfrifol am blentyn, gallwch fel arfer cael Budd-dal Plant ar eu cyfer - hyd yn oed os nad chi yw ei riant.

Gallwch gael Budd-dal Plant hyd yn oed os nad yw eich plentyn yn byw gyda chi, cyn belled â:

  • eich bod yn talu tuag at eu costau cynnal
  • mae’r hyn yr ydych yn ei dalu o leiaf yr un swm o Fudd-dal Plant yr ydych yn ei gael ar gyfer eich plentyn
  • nad yw’r sawl y mae’ch plentyn yn byw gydag yn derbyn Budd-dal Plant ar eu cyfer

Os byddwch chi ac unigolyn arall yn hawlio Budd-dal Plant ar gyfer yr un plentyn, dim ond un ohonoch all ei gael.

Mae taliadau Budd-dal Plant fel arfer yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 16 oed, oni bai ei fod mewn addysg neu hyfforddiant sy’n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant. Er enghraifft, nid yw cwrs uwch ar lefel addysg uwch – fel gradd – yn cyfrif.

Ni allwch gael Budd-dal Plant am eich plentyn unwaith iddynt gyrraedd 20 oed.

Faint o Fudd-dal Plant gewch chi?

Mae dau swm gwahanol, gyda swm uwch ar gyfer eich plentyn hynaf (neu'ch unig blentyn). Cewch £20.30 yr wythnos ar gyfer eich plentyn hynaf a £13.40 yr wythnos ar gyfer pob plentyn arall sydd gennych.

Sut caiff y Budd-dal Plant ei dalu?

Gellir talu'r Budd-dal Plant yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol. Fel arfer caiff ei dalu bob pedair wythnos, ond gellir ei dalu bob wythnos os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm neu os ydych yn rhiant sengl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU