Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw’ch plentyn yn cael ei roi mewn gofal neu bod awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall yn gofalu amdano, mae'n bosib na fydd eich taliad Budd-dal Plant yn dod i ben yn syth.
Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted ag y caiff eich plentyn ei roi mewn gofal. Yna, byddant yn edrych i weld a allwch ddal i gael eich talu. Gallwch ddweud wrthynt ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod, neu gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.
Fel arfer, gallwch barhau i gael Budd-dal Plant am yr wyth wythnos gyntaf ar ôl i'ch plentyn gael ei roi mewn gofal.
Oni bai fod eich plentyn mewn gofal oherwydd salwch neu anabledd, mae Budd-daliadau Plant fel arfer yn dod i ben ar ôl wyth wythnos.
Fodd bynnag, gallwch wneud hawliad arall am Fudd-dal Plant ar ôl wyth wythnos os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
Efallai fod eich plentyn mewn llety preswyl, neu mewn ysgol breswyl, oherwydd salwch neu anabledd.
Yr hyn a olygir wrth preswyl, yn ôl y Swyddfa Budd-dal Plant, yw llety neu ysgol a ddarperir gan awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall. Os mai dyma'r unig reswm pam eu bod oddi cartref, byddwch yn dal i gael Budd-dal Plant os ydych yn gwario arian yn rheolaidd arnynt. Byddai hyn yn cynnwys arian ar gyfer dillad, llyfrau, teganau ac ati, neu gostau teithio wrth ymweld â nhw.
Os bydd eich plentyn i ffwrdd am fwy na 12 wythnos (84 diwrnod), ac nad ydych yn gwario arian arnynt yn rheolaidd, rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs