Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i hawlio Budd-dal Plant

Yr unig ffordd i hawlio Budd-dal Plant yw cwblhau ffurflen hawlio Budd-dal Plant. Bydd angen i chi anfon y ffurflen hawlio at y Swyddfa Budd-dal Plant gyda thystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn. Ni allwch hawlio dros y ffôn na'r rhyngrwyd.

Lle i gael y ffurflen hawlio

Mae ddau ffordd o gael ffurflen hawlio. Gallwch:

  • ofyn am un yn y 'Pecyn Rhodd' a roddir i famau newydd yn yr ysbyty
  • llenwi ffurflen hawlio Budd-dal Plant ar y sgrîn a’i hargraffu – bydd dal angen i chi ei hanfon i’r Swyddfa Budd-dal Plant

Gallwch hefyd argraffu ffurflen hawlio Budd-dal Plant Welsh gwag, os dyna yw eich iaith ddewisol, a’i llenwi â llaw.

Os byddwch yn cael problemau wrth lenwi’r ffurflen ar y sgrîn, gallwch ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.

Gallwch hefyd gael y ffurflen hawlio o’r Llinell gymorth Budd-dal Plant os byddwch yn cael problemau cael gafael ar un.

Cyn i chi gwblhau ffurflen hawlio, darllenwch y nodiadau sydd i fynd gyda hi er mwyn eich helpu i'w chwblhau.

Pryd y dylid hawlio Budd-dal Plant

Ni all eich Budd-dal Plant cael ei ôl-ddyddio am fwy na tri mis o'r dyddiad y byddant yn cael eich cais. Felly byddai'n well gwneud eich cais ar unwaith er mwyn osgoi colli arian.

Dylech hawlio Budd-dal Plant ar unwaith:

  • pan gaiff eich plentyn ei eni
  • pan ddaw plentyn yr ydych chi'n gyfrifol amdano i fyw gyda chi
  • os byddwch yn mabwysiadu plentyn sy'n byw gyda chi
  • os byddwch yn dechrau talu tuag at gostau gofalu am eich plentyn oni bai ei fod yn byw gyda rhywun arall sydd eisoes yn cael Budd-dal Plant

Os yw eich plentyn wedi marw a'ch bod am hawlio ar ei gyfer, dylech wneud hynny o fewn tri mis i'r dyddiad y bu farw eich plentyn.

Pwy gaiff hawlio?

Gall unrhyw un sy'n magu plentyn hawlio. Y fam sy'n gwneud hyn fel arfer, ond nid yw hyn yn ofynnol.

Pa waith papur y bydd ei angen arnoch

Bydd angen un o'r tystysgrifau canlynol arnoch ar gyfer eich plentyn pan fyddwch yn hawlio:

  • tystysgrif geni
  • tystysgrif geni a gewch ar ôl mabwysiadu
  • tystysgrif mabwysiadu

Mae'n rhaid cael y dystysgrif wreiddiol, ni dderbynnir llungopïau. Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ei hanfon yn ôl atoch ar ôl iddynt orffen gyda hi.

Os nad yw'r dystysgrif gennych, anfonwch eich ffurflen hawlio at y Swyddfa Budd-dal Plant beth bynnag. Byddant yn gofyn i chi anfon y dystysgrif nes ymlaen.

Nid oes angen i chi anfon tystysgrifau ar gyfer unrhyw blentyn arall sydd gennych (neu rywun arall) yr ydych wedi cael Budd-dal Plant ar eu cyfer yn y gorffennol.

I ble y dylech anfon y ffurflen hawlio

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich ffurflen hawlio, anfonwch hi, yn ogystal â'r dystysgrif, at:

Canolfan Gyswllt Gymraeg
Cyllid a Thollau EM
Tŷ Moelwyn
Tros y Bont
Porthmadog
LL49 9AB

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU