Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Help gyda'r ffurflen hawlio Budd-dal Plant

I hawlio Budd-dal Plant, bydd angen i chi lenwi ffurflen hawlio mor fanwl ac mor gywir ag y gallwch. Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i fersiwn bapur y ffurflen hawlio Budd-dal Plant, a gall eich helpu i ateb rhai o'r prif gwestiynau.

Cyn cychwyn

Rhaid i chi benderfynu pwy ddylai lenwi’r ffurflen. Fel arfer, y sawl a fydd yn cael y taliadau sy'n llenwi'r ffurflen. Ond efallai y gallwch hawlio ar ran rhywun arall os na allant hawlio drostynt eu hunain.

Os ydych chi’n un o gwpl, fel arfer y sawl sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith gofal plant ddylai hawlio. Ond os nad yw'ch partner yn ennill digon i dalu Yswiriant Gwladol neu os nad yw'n gweithio, efallai y byddai'n well iddynt hawlio er mwyn diogelu ei Bensiwn y Wladwriaeth.

Tudalen 1 y ffurflen hawlio

Cwestiwn 10 – A oes gennych rif Yswiriant Gwladol?

Mae eich rhif Yswiriant Gwladol i’w weld ar y canlynol:

  • tystysgrif P60 neu P45 gan eich cyflogwr presennol neu ddiwethaf
  • Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill
  • llythyrau gan Gyllid a Thollau EM, gan gynnwys y Swyddfa Credyd Treth
  • slip cyflog gan eich cyflogwr
  • llythyrau gan y Ganolfan Byd Gwaith neu'r Adran Gwaith a Phensiynau, yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol neu'r Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon

Enghraifft o rif Yswiriant Gwladol yw QQ123456A.

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol – neu os na allwch ddod o hyd iddo – anfonwch y ffurflen beth bynnag i osgoi oedi.

Tudalen 2 y ffurflen hawlio

Cwestiwn 14 – Ydych chi wedi byw yn y Deyrnas Unedig erioed?

Mae'r cwestiwn hwn yn sôn am y wlad rydych wedi byw ynddi erioed.

Mae’r Deyrnas Unedig yn golygu Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid yw'n cynnwys Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel.

Gan amlaf, does dim ots os byddwch chi'n mynd i wledydd eraill ar wyliau neu i weithio.

Cwestiwn 15 – Ydych chi’n byw yn y DU fel arfer?

Mae'r cwestiwn hwn yn sôn am y wlad rydych yn byw ynddi y rhan fwyaf o'r amser.

Gan amlaf does dim ots os byddwch chi'n mynd i wledydd eraill ar wyliau neu i weithio.

Cwestiwn 18 – A ydych yn destun rheolau mewnfudo nawr, neu ydych chi wedi bod ar unrhyw adeg o fewn y tri mis diwethaf?

Os ydych yn destun rheolau mewnfudo, fel rheol ni fydd yn bosib i chi hawlio Budd-dal Plant. Gallai hyn olygu:

  • bod angen caniatâd arnoch i fod yn y DU, ond nad ydych wedi cael y caniatâd hwnnw
  • bod gennych ganiatâd i aros os na fyddwch yn defnyddio arian cyhoeddus, er enghraifft drwy hawlio budd-daliadau

Tudalen 3 y ffurflen hawlio

Cwestiwn 28 – Rhif Yswiriant Gwladol eich partner

Mae rhif Yswiriant Gwladol eich partner i’w weld ar y canlynol:

  • tystysgrif P60 neu P45 gan ei gyflogwr presennol neu ddiwethaf
  • Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill
  • llythyrau gan Gyllid a Thollau EM, gan gynnwys y Swyddfa Credyd Treth
  • slip cyflog gan ei gyflogwr
  • llythyrau gan y Ganolfan Byd Gwaith neu'r Adran Gwaith a Phensiynau, yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol neu'r Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon

Enghraifft o rif Yswiriant Gwladol yw QQ123456A.

Cwestiwn 32 – Tystysgrif geni neu fabwysiadu

Os nad ydych wedi hawlio Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn neu'ch plant o'r blaen, bydd angen i chi ddarparu ei dystysgrif geni neu fabwysiadu. Os nad yw'r dystysgrif gennych, anfonwch y ffurflen beth bynnag er mwyn osgoi oedi.

Tudalen 4 a 5 y ffurflen hawlio

Cwestiwn 38 a 52 – A yw’r plentyn yn blentyn i chi?

Os nad chi yw rhiant y plentyn ond eich bod yn gofalu amdano, mae'n dal yn bosib i chi hawlio Budd-dal Plant. Mae hyn hefyd yn berthnasol os oes gennych chi lysblentyn neu blentyn sydd wedi’i fabwysiadu’n gyfreithlon. Ond, nid yw rhieni maeth yn gymwys fel arfer.

Cwestiynau 39 a 53 – A oes rhywun arall wedi gwneud cais am Fudd-dal Plant ar gyfer y plentyn hwn?

Os yw’r plentyn yn byw gyda chi ond bod rhywun arall yn cael y Budd-dal Plant, efallai y gall y Swyddfa Budd-dal Plant drosglwyddo'r budd-dal i chi. Er enghraifft, os ydych wedi gwahanu a bod y plentyn bellach yn byw gyda chi. Os all gael ei drosglwyddo, efallai ni chewch daliad Budd-dal Plant am bedair wythnos (bydd yn wyth wythnos mewn rhai achosion) ar ôl chi wneud eich hawliad.

Os bydd rhywun arall yn hawlio Budd-dal Plant ar gyfer yr un plentyn rydych chi'n hawlio ar ei gyfer, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn cysylltu â chi.

Mae hefyd yn syniad da cael unrhyw gyfeirnod Budd-dal Plant blaenorol a all fod gennych ar gyfer y plentyn rydych yn hawlio ar ei gyfer.

Cwestiwn 40 a 54 – Ydy’r plentyn hwn yn byw gyda chi?

Dylech ateb ‘Na’ i’r cwestiwn hwn os nad yw’ch plentyn yn byw gyda chi yn y DU.

Gan amlaf y sawl y mae'r plentyn yn byw gydag ef fydd yn cael y Budd-dal Plant hyd yn oed os ydych chi’n talu tuag at gost gofalu amdano. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed os yw’r ddau ohonoch chi’n gwneud cais am Fudd-dal Plant.

Cwestiwn 41 a 55 – A yw’r plentyn hwn wedi byw gyda rhywun arall yn y 12 mis diwethaf?

Os byddwch chi ac unigolyn arall yn hawlio Budd-dal Plant ar gyfer yr un plentyn, dim ond un ohonoch all gael y Budd-dal. Dylech geisio dewis ymysg eich gilydd pwy ddylai gael y budd-dal. Os na allwch chi benderfynu, efallai y bydd rhywun sy’n gweithredu ar ran Comisiynwyr Cyllid a Thollau EM yn penderfynu drosoch chi.

Tudalen 6 y ffurflen hawlio

Cwestiwn 61 – A ydych yn dymuno i'ch Budd-dal Plant gael ei dalu bob wythnos?

Gan amlaf, caiff y Budd-dal Plant ei dalu bob pedair wythnos, ond gallwch ddewis cael eich talu bob wythnos mewn amgylchiadau penodol. Gallwch gael taliadau wythnosol os ydych yn magu plant ar eich pen eich hun, neu os ydych chi neu’ch partner yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm

Ticiwch y blwch perthnasol.

Os telir eich Budd-dal Plant i chi’n wythnosol, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith:

  • os byddwch yn rhoi'r gorau i fagu'r plant ar eich pen eich hun
  • os byddwch yn rhoi’r gorau i gael o leiaf un o’r budd-daliadau uchod

Mae’n bosib y bydd eich taliadau’n newid wedyn i bob pedair wythnos.

Cwestiwn 65 – Yr enw sydd ar y cyfrif

Bydd angen i'r cyfrif banc rydych am ei ddefnyddio fod yn enw un o'r canlynol:

  • eich enw chi
  • enw eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner os oes gennych un
  • eich enw chi a’ch gŵr, eich gwraig neu’ch partner
  • enw rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan
  • eich enw chi a'r sawl sy'n gweithredu ar eich rhan

Ni ellir talu eich Budd-dal Plant:

  • i gyfrif sydd yn enw plentyn
  • i fwy nag un cyfrif

Cwestiwn 67 – Cod didoli’ch cangen

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r cod didoli sy’n ymddangos ar eich cerdyn banc neu ar gyfriflenni gan eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu.

Cwestiwn 68 – Rhif eich cyfrif

Gan amlaf, mae rhif eich cyfrif yn cynnwys 8 digid ac mae'n ymddangos ar eich cyfriflenni neu'ch llyfr siec. Cofiwch gynnwys unrhyw seroau, er enghraifft 00123456.

Cwestiwn 69 – Rhif cyfres neu gyfeirnod eich cyfrif

Os oes gennych gyfrif gyda chymdeithas adeiladu neu gyda banc a oedd yn arfer bod yn gymdeithas adeiladu, mae'n bosib y bydd gennych gyfeirnod ychwanegol. Gallai’r cyfeirnod hwn gael ei alw’n unrhyw un o’r canlynol:

  • rhif cyfres
  • cyfeirnod cyfrif
  • rhif cyfrif

Os nad ydych chi'n siŵr pa rifau y dylech eu defnyddio, holwch eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu.

Y datganiad

Cyn llofnodi’r datganiad ar y ffurflen, gwnewch yn siŵr:

  • eich bod wedi llenwi’r holl adrannau perthnasol gystal ag y gallwch
  • bod eich atebion i gyd yn gywir

Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn defnyddio'r ffurflen i benderfynu a allwch gael Budd-dal Plant. Chi sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn gywir ac mor gyflawn â phosib.

Os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir iddyn nhw, gallech gael y taliad anghywir ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl.

Beth i’w wneud nesaf

Anfonwch eich ffurflen hawlio gyda’r dystysgrif geni neu fabwysiadu yn yr amlen barod, neu eu hanfon i'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os bydd angen unrhyw gymorth pellach arnoch

Cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd angen unrhyw gymorth neu gyngor pellach arnoch. Gallwch wneud hyn drwy anfon ymholiad atynt ar-lein, neu gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os bydd eich amgylchiadau’n newid ar ôl i chi gyflwyno'ch hawliad, bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU