Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael Budd-dal Plant ar ran rhywun arall

Mae'n bosib y bydd rhieni ifanc iawn a phobl sâl neu anabl sydd â phlentyn yn ei chael yn anodd hawlio Budd-dal Plant. Mae’n bosib hefyd y byddant yn ei chael yn anodd casglu eu taliadau, ond efallai y gallwch chi eu helpu gyda hyn.

Helpu rhiant ifanc iawn i gael Budd-dal Plant

Gallwch lenwi ffurflen hawlio Budd-dal Plant ar gyfer rhiant ifanc iawn, os na allant ei lenwi ei hun.

Nid oes ots os nad yw’r rhiant ifanc yn blentyn i chi – gallant fod yn ffrind yr ydych yn ei helpu er enghraifft. Ond mae’n rhaid iddynt wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn gywir a llofnodi’r ffurflen.

Hawlio ar ran eich plentyn

Os oes gan blentyn yr ydych yn gyfrifol amdano faban, gallech hawlio Budd-dal Plant ar gyfer y ddau ohonynt. Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Plant am eich plentyn, rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant eich bod eisiau hawlio am y baban hefyd.

Os ydych eisiau gasglu’r taliad ar ran eich plentyn

Os yw'ch plentyn wedi hawlio Budd-dal Plant drostynt eu hunain, gallwch drefnu i gasglu'r taliad ar eu rhan. Siaradwch â’u banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post® os oes gan eich plentyn un o’r cyfrifon hyn i weld pa drefniadau y gallant eu gwneud.

Gallech hefyd ofyn i’r taliad gael ei dalu i gyfrif ar y cyd, ond rhaid bod enw eich plentyn ar y cyfrif hefyd. Bydd angen i’ch plentyn gadarnhau bod deiliaid eraill y cyfrif yn defnyddio’r arian yn y modd y mae’n dymuno. Bydd angen iddynt gadarnhau hyn ar y ffurflen hawlio Budd-dal Plant.

Gall y Swyddfa Budd-dal Plant dalu Budd-dal Plant i un cyfrif yn unig - ni allant rannu taliadau rhwng gwahanol gyfrifon.

Cael Budd-dal Plant ar ran person sâl neu anabl sy'n methu rheoli eu materion eu hunain

Mae’n bosib y gallwch weithredu ar ran person nad yw’n gallu rheoli ei faterion ei hun oherwydd:

  • gwaeledd
  • anabledd
  • anghenion arbennig eraill

Bydd angen i chi fod yn 'benodai' swyddogol i weithredu ar eu rhan.

Pwy all fod yn benodai?

Gall penodai fod yn:

  • unigolyn, er enghraifft perthynas neu ffrind
  • sefydliad, fel awdurdod lleol
  • derbynnydd – rhywun y bydd y Llys Gwarchod yn ei benodi i reoli materion ariannol person os na allant wneud hynny eu hunain

Beth y gall penodai ei wneud?

Fel penodai, mae gennych yr un hawliau a chyfrifoldebau a'r sawl sy'n hawlio'r Budd-dal Plant.

Mae hyn yn golygu y byddech yn:

  • llenwi'r ffurflen hawlio
  • casglu'r taliad budd-dal
  • delio ag unrhyw ohebiaeth
  • gorfod dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau yn yr amgylchiadau

Sut ydych yn cael eich gwneud yn benodai?

Os hoffech fod yn benodai, bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant. Byddant yn trafod hyn gyda chi i wneud yn siŵr mai bod yn benodai yw’r dewis gorau i chi a’r person yr ydych yn hawlio ar eu cyfer.

Penodi rhywun newydd

Os nad ydych am fod yn benodai mwyach, bydd angen i chi roi mis o rybudd ysgrifenedig i'r Swyddfa Budd-dal Plant.

Os bydd y Llys Gwarchod yn penodi derbynnydd yn y cyfamser, bydd eich dyletswyddau chi yn dod i ben.

Gallwch ysgrifennu i'r:

Canolfan Gyswllt Gymraeg
Cyllid a Thollau EM
Tŷ Moelwyn
Tros y Bont
Porthmadog
LL49 9AB

Person sâl neu anabl ond sy'n dal i allu rheoli eu materion eu hunain

Os bydd person yn sâl neu'n anabl ond yn dal i allu rheoli eu materion eu hunain, nid yw'n briodol cael penodai.

Ond efallai y bydd yn bosib i nôl eu taliad Budd-dal Plant iddynt os oes ganddynt gyfrif banc, cyfrif cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa'r Post®.

Cysylltwch â'r banc, y gymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post® i weld sut y gallant eich helpu.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU