Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Mudiadau gwirfoddol - sut mae gweithredu ar ran eich cleient Budd-dal Plant


Efallai y bydd rhai pobl - a elwir yn aml yn gleientiaid - yn gofyn i chi ddelio â'u Budd-dal Plant ar eu rhan. Fel rheol mae angen i chi gael awdurdod eich cleient i weithredu ar eu rhan ond nid oes angen eu hawdurdod os ydych ond am roi cyngor cyffredinol iddynt.

Pryd mae angen i chi gael eich awdurdodi i weithredu?

Mae angen i chi gael eich awdurdodi os ydych chi eisiau:

  • gofyn i'r Swyddfa Budd-dal Plant am wybodaeth benodol ynghylch y sawl rydych chi'n delio â'u Budd-dal Plant
  • rhoi gwybodaeth benodol i'r Swyddfa Budd-dal Plant am y sawl rydych chi'n delio â'u Budd-dal Plant

Pryd nid oes angen i chi gael awdurdod

Nid oes angen i chi gael awdurdod os mai'r cyfan rydych chi'n ei wneud yw darparu cyngor cyffredinol am Fudd-dal Plant. Mae llawer o gyngor cyffredinol am Fudd-dal Plant ar gael ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.

Beth allwch chi ei wneud ar ran eich cleient?

Byddwch yn gallu trafod hawliad Budd-dal Plant eich cleient gyda'r Swyddfa Budd-dal Plant a darparu gwybodaeth amdanynt.

Beth na allwch chi ei wneud

Oni bai eich bod wedi cael eich awdurdodi i weithredu fel 'penodai', ni fyddwch yn gallu cael:

  • taliadau Budd-dal Plant ar ran eich cleient
  • dim hysbysiadau dyfarniadau nac unrhyw hysbysiadau penderfyniadau eraill

Sut mae cael awdurdod

Bydd angen i’ch cleient:

  • lenwi'r ffurflen TC689 'Awdurdod i gyfryngwr weithredu ar eich rhan'
  • ei rhoi i chi er mwyn i chi lenwi eich manylion
  • ei hanfon i’r Swyddfa Credyd Treth i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen - mae ffurflen sydd wedi’i llungopïo yn dderbyniol, ond mae’n rhaid i unrhyw lofnodion fod yn wreiddiol

Mae’r Swyddfa Credyd Treth yn cymryd y manylion perthnasol ac wedyn yn anfon y ffurflen i’r Swyddfa Budd-dal Plant. Neu, gall eich cleient ysgrifennu llythyr yn rhoi’r un wybodaeth yn union â’r wybodaeth a roddir ar ffurflen TC689.

Os ydych chi’n delio â nifer o gleientiaid credyd treth

Mae’n bosib eich bod yn delio â nifer o gleientiaid credyd treth. Os felly, efallai y byddwch am gofrestru fel 'corff cyfryngu' gyda Thîm Cyfryngwyr, Asiantau a Phenodeion y Swyddfa Credyd Treth. Bydd hyn yn eich galluogi i gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth heb oedi pan fydd arnoch angen cyngor, ac yn helpu’r tîm i ddelio ag unrhyw ymholiadau sydd gennych chi yn gyflym iawn. I gofrestru, mae angen i chi ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol:

Credydau Treth Cyllid a Thollau EM / HMRC Tax Credits
Y Tîm Cyfryngwyr, Asiantau a Phenodeion / Intermediaries, Agents and Appointees Team
Preston
PR1 4AT

Cael awdurdod ar frys

Os oes arnoch angen awdurdod ar frys, gallwch anfon y ffurflen TC689 y mae eich cleient wedi’i llenwi dros ffacs i’r Tîm Cyfryngwyr, Asiantau a Phenodeion. Mae’n ofynnol bod eich corff wedi’i gofrestru gyda’r tîm i wneud hyn. Os yw wedi gwneud hynny, bydd wedi cael manylion cyswllt a rhif ffacs y tîm, a Rhif Adnabod Swyddfa. Mae’n rhaid i chi ddyfynnu'r rhif hwn pan fyddwch yn anfon ffurflen TC689 dros ffacs.

Dim ond dros ffacs y gall y tîm dderbyn ffurflenni TC689, ac nid ar ffurf llythyr neu ar ffurf unrhyw ddull cyfathrebu arall.

Beth sy'n digwydd cyn i chi gael awdurdod?

Ni fyddwch yn gallu gweithredu tan:

  • i'r Swyddfa Credyd Treth gael ffurflen awdurdodi eich cleient
  • i'r Swyddfa Budd-dal Plant gael eu hawliad Budd-dal Plant

Tan hynny, bydd angen i'ch cleient ddelio'n uniongyrchol â'r Swyddfa Budd-dal Plant yn lle hynny. Os byddwch yn ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant yn y cyfamser, bydd angen i’ch cleient fod gyda chi. Ar ddechrau’r alwad bydd angen iddynt:

  • ateb nifer o gwestiynau diogelwch, i sicrhau bod y llinell gymorth yn delio â’r cwsmer iawn
  • cadarnhau ei fod am i chi weithredu ar ei ran – mae’r awdurdod yn gymwys am yr alwad ffôn honno yn unig

Os nad yw’r cleient gyda chi, dim ond cyngor cyffredinol y byddwch yn gallu cael.

Os nad Saesneg yw iaith gyntaf eich cleient, gallant gysylltu â'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant a gofyn am gyngor drwy gyfieithydd ar y pryd. Gall eich cleient ddefnyddio’i gyfieithydd ar y pryd ei hun, ond mae’n rhaid i chi a’r cyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol, ynghyd â’ch cleient, pan fyddwch yn ffonio.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gael awdurdod?

Pan fyddwch yn ffonio’r Llinell Gymorth

Os bydd angen i chi ffonio'r Llinell Gymorth Budd-dal Plant bydd angen i chi allu ateb nifer o gwestiynau diogelwch am eich cleient ac amdanoch chi, diben hyn yw gwneud yn siŵr bod y Llinell Gymorth Budd-dal Plant yn delio â'r cwsmer iawn a'r cyfryngwr iawn ac nad ydynt yn torri rheolau cyfrinachedd. Bydd yn gymorth os allech hefyd ddarparu rhif Budd-dal Plant eich cleient, neu rif Yswiriant Gwladol, os oes un ganddynt.

Pa mor hir bydd eich awdurdod yn para

Cewch ddelio â materion Budd-dal Plant eich cleient ar eu rhan nes i'ch awdurdod redeg allan, fel arfer mae hyn 12 mis ar ôl i'ch cleient lofnodi'r TC689. Ond gall fod yn gynt os ydynt wedi rhoi dyddiad gorffen gwahanol ar y ffurflen.

Allweddumynediad llywodraeth y DU