Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y bydd rhai pobl – a elwir yn aml yn gleientiaid – yn gofyn i chi ddelio â’u credydau treth ar eu rhan. Fel rheol, bydd gofyn eich bod wedi cael awdurdod eich cleient i weithredu ar ei ran, ond ni fydd angen i chi ei gael os mai dim ond cyngor cyffredinol rydych chi’n ei roi.
Mae angen i chi gael awdurdod i weithredu ar ran eich cleient os ydych:
Pan nad oes rhaid i chi gael awdurdod
Os mai’r unig beth y mae arnoch ei eisiau yw cyngor cyffredinol ynglŷn â chredydau treth, nid oes angen awdurdod arnoch. Gellir cael llawer o gyngor cyffredinol ynghylch credydau treth ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.
Byddwch yn gallu trafod hawliad credydau treth eich cleient gyda’r Swyddfa Credyd Treth a darparu gwybodaeth amdanynt hefyd.
Beth na chewch chi ei wneud
Oni bai eich bod wedi cael awdurdod i weithredu fel penodai, ni fydd modd i chi gael:
Dylai eich cleient wneud y canlynol:
Neu, gall eich cleient ysgrifennu llythyr yn rhoi’r un wybodaeth yn union â’r wybodaeth a roddir ar ffurflen TC689.
Os ydych chi’n delio â nifer o gleientiaid credyd treth
Mae’n bosib eich bod yn delio â nifer o gleientiaid credyd treth. Os felly, efallai y byddwch am gofrestru fel 'corff cyfryngu' gyda Thîm Cyfryngwyr, Asiantau a Phenodeion y Swyddfa Credyd Treth. Bydd hyn yn eich galluogi i gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth heb oedi pan fydd arnoch angen cyngor, ac yn helpu’r tîm i ddelio ag unrhyw ymholiadau sydd gennych chi yn gyflym iawn. I gofrestru, mae angen i chi ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol:
Credydau Treth Cyllid a Thollau EM / HMRC Tax Credits
Y Tîm Cyfryngwyr, Asiantau a Phenodeion / Intermediaries, Agents and Appointees Team
Preston
PR1 0SB
Cael awdurdod ar frys
Os oes arnoch angen awdurdod ar frys, gallwch anfon y ffurflen TC689 y mae eich cleient wedi’i llenwi dros ffacs i’r Tîm Cyfryngwyr, Asiantau a Phenodeion. Mae’n ofynnol bod eich corff wedi’i gofrestru gyda’r tîm i wneud hyn. Os yw wedi gwneud hynny, bydd wedi cael manylion cyswllt a rhif ffacs y tîm, a Rhif Adnabod Swyddfa. Mae’n rhaid i chi ddyfynnu'r rhif hwn pan fyddwch yn anfon ffurflen TC689 dros ffacs.
Dim ond dros ffacs y gall y tîm dderbyn ffurflenni TC689, ac nid ar ffurf llythyr neu ar ffurf unrhyw ddull cyfathrebu arall.
Os ydych chi’n gynghorydd proffesiynol sy’n gweithio i gleientiaid yn barhaus ac yn cael tâl am wneud hynny, yn aml iawn, fe’ch gelwir yn ‘asiant’. Er enghraifft, gallech fod yn gyfrifydd, yn dwrnai neu’n gynghorydd treth.
Os bydd eich cleient yn gofyn i chi ymdrin â hawliad credydau treth ar ei ran, bydd angen iddo lenwi ffurflen 64-8.
Ni allwch sefydlu awdurdodiadau cleientiaid ar-lein ar gyfer credydau treth.
Ar gyfer ffrindiau a pherthnasau
Bydd angen i’ch ffrind neu’ch perthynas lenwi ffurflen TC689 ‘Awdurdod i gyfryngwr weithredu ar eich rhan’. Ar ôl llenwi’r ffurflen hon dylid ei hanfon i’r Swyddfa Credyd Treth. Derbynnir ffurflenni wedi’u llungopïo, ond mae’n rhaid i bob llofnod fod yn wreiddiol. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Penodeion
Caiff ‘penodai’ ei benodi i weithredu ar ran rhywun arall gan un neu ragor o’r canlynol:
Nid ydych yn benodai os mai’r unig beth rydych chi’n ei wneud yw helpu rhywun i ddeall beth mae angen iddo’i wneud i lenwi’r ffurflen hawlio.
Gallwch ymdrin â materion credyd treth eich cleient ar ei ran nes daw eich awdurdod i ben. Mae awdurdod fel rheol yn parhau am 12 mis o’r dyddiad y gwnaeth eich cleient lofnodi’r TC689. Ond gall fod cyn hynny neu ar ôl hynny os nodwyd dyddiad gwahanol ar y ffurflen
Ni fyddwch yn gallu gweithredu nes bod y Swyddfa Credyd Treth wedi cael y ddwy ffurflen ganlynol:
Tan hynny, bydd angen i’ch cleient ddelio â’r Swyddfa Credyd Treth yn uniongyrchol. Os byddwch chi’n ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth yn y cyfamser, bydd angen i’ch cleient fod gyda chi. Ar ddechrau’r alwad, bydd angen i’ch cleient wneud y canlynol:
Os nad yw’ch cleient gyda chi, dim ond cyngor cyffredinol y bydd modd i chi ei gael.
Os nad yw’ch cleient yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, gall y Llinell Gymorth Credyd Treth drefnu cyfieithydd ar ei gyfer. Gall eich cleient ddefnyddio’i gyfieithydd ei hun, ond mae’n rhaid i chi a’r cyfieithydd, ynghyd â’ch cleient, fod yn bresennol yn ystod yr alwad.
Os byddwch chi’n ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth bydd angen i chi allu ateb nifer o gwestiynau am eich cleient ac amdanoch eich hun fel rhan o’r broses ddiogelwch. Diben hyn yw gwneud yn siŵr bod y Llinell Gymorth Credyd Treth yn delio â'r cwsmer cywir a'r cyfryngwr cywir, ac nad yw'n torri rheolau cyfrinachedd. Bydd angen i chi hefyd ddarparu rhif Yswiriant Gwladol eich cleient os oes ganddo un.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs