Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
All rhai pobl ddim hawlio credydau treth eu hunain – efallai nad ydynt yn gallu trin arian neu ddeall ffurflenni er enghraifft Gall rhywun arall - a elwir yn benodai - gael yr hawl gyfreithiol i weithredu ar eu rhan. Gall benodai rhywun hawlio eu credydau treth ar eu rhan.
I chi fod yn benodai, mae’n rhaid bod llys barn neu un o adrannau’r llywodraeth wedi’ch penodi i weithredu ar ran rhywun arall. Os ydych chi ond yn helpu rhywun arall i lenwi eu ffurflen hawlio, nid ydych yn benodai.
Pryd rydych yn benodai
Rydych chi'n benodai os ydych chi wedi cael eich penodi i weithredu ar ran rhywun arall - a elwir yn hawlydd - drwy un neu fwy o'r canlynol:
Pan fyddwch yn gwneud hawliad fel penodai, gall y Swyddfa Credyd Treth gysylltu â chi i gael gwybod pwy oedd wedi eich penodi a phryd.
Nid ydych yn benodai
Nid ydych yn benodai os ydych ond yn helpu rhywun i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i lenwi eu ffurflen hawlio.
Cewch helpu rhywun i lenwi'r ffurflen oherwydd:
Dylai unrhyw un sy'n gallu deall y Datganiad ar y ffurflen hawlio a'i lofnodi, wneud hynny.
Fel penodai rydych chi'n hollol gyfrifol am wneud a chynnal unrhyw hawliad. Mae hyn yn golygu:
I wneud cais i fod yn benodai, rhaid i chi lenwi'r adran penodai ar dudalen 11 y ffurflen hawlio credydau treth sy'n gofyn i chi egluro pam na all yr hawlydd lenwi na llofnodi'r ffurflen.
Er mwyn i'r Swyddfa Credyd Treth eich penodi, rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf. Does dim rhaid i chi fod yn perthyn i'r hawlydd.
Cyn iddyn nhw benderfynu ynghylch a ydynt am eich penodi ai peidio, efallai y bydd angen i'r Swyddfa Credyd Treth gysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych chi'n gweithredu fel penodai, bydd unrhyw daliadau credydau treth yn cael eu gwneud i chi. Ond mae'r hawlydd yn dal yn gyfreithiol gyfrifol am unrhyw ordaliad. Os bydd unrhyw ordaliad, bydd y taliadau credyd treth yn cael eu lleihau, neu efallai gofynnir i chi dalu'r arian yn ôl.
Os nad oes arnoch chi eisiau gweithredu fel penodai mwyach, dylech ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth yn rhoi mis o rybudd yn:
Tax Credit Office
Preston
PR1 0SB
Gall y Swyddfa Credyd Treth ddod â’r penodiad i ben unrhyw bryd. Os caiff rhywun arall ei benodi i weithredu gan lys barn, dylech ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith gan na fyddwch yn benodai i'r hawlydd mwyach.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs