Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifydd credydau treth - cael gwybod faint y gallwch ei gael

Mae'r cyfrifydd hwn yn dweud wrthych yn fras y cyfanswm o gredydau treth y gallech eu cael, rhwng dyddiad heddiw a diwedd y flwyddyn dreth 2012-13. Fe welwch eich canlyniad fel cyfandaliad. Mae'r cyfrifydd yn defnyddio cyfraddau cyfredol (ni all gyfrifo credydau treth ar gyfer blynyddoedd i ddod). Caiff ei ddiweddaru o 6 Ebrill 2013. Dylai gymryd rhwng 10 a 15 munud i'w gwblhau.

Gwybodaeth bwysig am y cyfrifydd

Mae'n bwysig cofio mai dim ond amcangyfrif o'r hyn y gallech ei gael, yn seiliedig ar yr ymatebion a rowch, y gall y cyfrifydd ei roi.

Dylech sicrhau eich bod yn ateb y cwestiynau'n gywir, oherwydd gall hyn wneud gwahaniaeth i'r canlyniad a gewch. Mae hefyd rhai camau ychwanegol y gallai fod angen i chi eu cymryd cyn i chi ateb rhai o'r cwestiynau. Caiff y rhain eu hesbonio yn yr adrannau isod.

Cyn i chi ddechrau

Cyn i chi ddechrau, mae'n syniad da bod gennych y wybodaeth ganlynol wrth law:

  • manylion eich incwm ac, os oes gennych un, incwm eich partner - byddai eich ffurflen/ni P60 ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2012 yn ddelfrydol
  • manylion am unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu hawlio, neu newydd roi'r gorau i'w hawlio
  • eich oriau gwaith arferol
  • y swm rydych yn ei wario yr wythnos ar ofal plant ar gyfartaledd

Cyfrifydd credydau treth

Os yw eich incwm yn debygol o ostwng eleni

Mae'r cyfrifydd yn gofyn am eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf Ond os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o fod yn is, efallai y bydd angen i chi nodi swm gwahanol.

Dilynwch y canllawiau sy'n berthnasol i chi isod i'ch helpu i gael gwybod pa swm i'w nodi. Bydd hyn yn eich helpu i gael syniad gwell o faint o gredydau treth y gallech eu cael.

Mae'r flwyddyn dreth eleni rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013.

Gostyngiad mewn incwm blynyddol o fwy na £2,500

Cam un. Cymerwch eich incwm is.

Cam dau. Ychwanegwch £2,500 ato. Mae hyn am fod y Swyddfa Credyd Treth yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o ostyngiad mewn incwm wrth weithio allan eich taliadau, ond ni all y cyfrifydd wneud hynny.

Cam tri. Nodwch eich ateb yn y cyfrifydd.

Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £30,000. Ond rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £20,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Mae angen i chi nodi £22,500 yn y cyfrifydd. Cyfrifir hyn fel a ganlyn:
£20,000 + £2,500 = £22,500.

Gostyngiad mewn incwm blynyddol o £2,500 neu lai

Nodwch incwm y llynedd yn y cyfrifydd.

Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £23,000. Rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £21,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Dylech nodi eich incwm o £23,000 yn y cyfrifydd, am fod y gostyngiad yn eich incwm yn llai na £2,500.

Pan fyddwch yn gwneud eich cais

Mae'n bwysig gwybod pan fyddwch yn gwneud eich cais gwirioneddol, mae'n rhaid i chi nodi incwm y llynedd ar y ffurflen. Mae eich dyfarniad credydau treth cyntaf bob amser yn seiliedig ar eich incwm y flwyddyn flaenorol.

Unwaith y byddwch wedi cael eich hysbysiad dyfarnu, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os bydd eich incwm yn is. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Gallai eich incwm is olygu bod eich taliadau'n codi - ond mae'n dibynnu ar faint y mae eich incwm yn gostwng.

Os ydych yn talu costau gofal plant

Os yw eich costau gofal plant yn amrywio o wythnos i wythnos, peidiwch â defnyddio'r daflen waith a ddarperir gyda'r cyfrifydd. Gallwch gael help yn gweithio allan eich costau wythnosol ar gyfartaledd yn lle hynny drwy:

  • mynd i'r canllaw 'Costau gofal plant - sut i'w cyfrifo ar gyfer eich cais am gredydau treth'
  • ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth

Os ydych chi neu’ch partner yn sâl neu’n anabl

Bydd y cyfrifydd yn gofyn os ydych chi’n anabl, ac mae’n werth i chi wirio os yw hyn yn berthnasol cyn i chi ddechrau. Dylech ateb ‘ydw’ os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael yr Elfen Gofal Cyfradd Uwch o Lwfans Byw i’r Anabl
  • rydych yn cael y gyfradd Uwch o Lwfans Analluogrwydd
  • rydych yn sâl neu’n anabl ac yn bodloni’r amodau yn ‘Mae gennych anabledd – allwch chi gael Credyd Treth Gwaith ychwanegol’ (dilynwch y ddolen isod)

Rydych yn ran o gwpl

Bydd y cyfrifydd yn gofyn os yw un ohonoch yn ‘analluog’, yn yr ysbyty, yn y carchar neu'n gymwys i gael Lwfans Gofalwr.

Dylech wirio i weld os yw un ohonoch yn cael eu hystyried yn ‘analluog’ cyn i chi ddechrau drwy ddilyn y ddolen isod.

Os ydych angen cyngor pellach

Os nad ydych yn siŵr sut i ateb y cwestiynau hyn, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth am gyngor.

Os ydych yn rhan o gwpl a bod un ohonoch yn ‘gaeth i reolau mewnfudo’

Peidiwch â defnyddio’r cyfrifydd os ydych yn rhan o gwpl a bod y ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn gyfrifol am unrhyw blant
  • mae un ohonoch yn ‘gaeth i reolau mewnfudo’

Os yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credyd Treth i gael gwybod faint y gallech ei gael.

Eich canlyniadau

Bydd y cyfrifydd hwn yn rhoi syniad i chi o faint y gallech ei gael, yn seiliedig ar yr ymatebion a rowch.

Y ffigur a welwch fydd y cyfanswm y gallech ei gael rhwng dyddiad heddiw a 5 Ebrill 2013. Caiff ei gyfrifo drwy ddefnyddio'r cyfraddau credyd treth cyfredol.

Er y byddwch yn gweld eich canlyniad fel cyfandaliad, caiff hwn fel arfer ei dalu mewn rhandaliadau bob pedair wythnos.

Dim ond drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth y gallwch archebu pecyn cais. Ni allwch wneud cais ar-lein.

Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, os byddwch yn gymwys, cewch hysbysiad dyfarnu yn nodi faint fydd eich taliadau.

Cipolwg ar hawliadau

Gallwch hefyd gael syniad o'r credydau treth y gallech eu cael drwy ddefnyddio rhai tablau hawliadau 'cipolwg'. Mae'r tabl yn dangos yn fras y cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth lawn sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2013.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU